Isdeitlo fel Basg

Mae Luistxo Fernandez, guru gwe Gwlad y Basg, wedi sgwennu cofnod yn sôn bod 3 o’r ffilmiau “iaith dramor” yn y ras am yr Oscars eleni yn cynnwys deialog mewn ieithoedd lleiafrifol: Iddew-Almaeneg, Corseg a Quechua.

Mae’n mynd mlaen i nodi bod Basgwyr wedi creu isdeitlau Basgeg ar gyfer un o’r ffilmiau hyn yn barod trwy wefan Azpitituluak sydd yn cyhoeddi isdeitlau Basgeg ar ffilmiau sydd ddim yn cael eu dosbarthu gyda isdeitlau yn yr iaith. A hyn oll wedi ei darddu gan y dorf. Dwi ddim yn deall yn iawn sut mae’n nhw’n rhoi nhw ar y ffilmiau ac yn rhannu’r ffilmiau wedyn ond mae’n grêt bod nhw’n mynd ati i lenwi bwlch yn y farchnad.

Dwi’n cofio clywed mewn cynhadledd yn Barcelona am fab un o’m cyd-gynadledwyr oedd yn treulio ei holl amser yn rhwygo cyfresi Americanaidd newydd fel Lost trwy Bittorrent, eu isdeitlo i’r Gatalaneg, a’u cyhoeddi ar Bittorrent eto a hynny o fewn oriau i’r rhaglenni gael eu darlledu yn yr UDA.

Prin y byddai’r ysfa i hyn ddigwydd yma gan bod pawb yn deall Saesneg cystal, gan weld yr ymdrech o isdeitlo Cymraeg i ffilmiau tramor fwy o strach nac o werth. Ond mae ffilmiau ar gael gyda isdeitlau Sbaeneg, felly pam na ddylen ni gael gweld ffilm Quechua gyda isdeitlau Cymraeg yn lle rhai Saesneg. Byddai na hefyd fanteision i wneud detholiad o ffilmiau o’r fath ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn arbennig. Ac yn sicr mae na fanteision i ni ei wneud y ffordd arall rownd – h.y. rhoi cynulleidfa wahanol i sdwff cyfrwng Cymraeg.

Mae gwefannau sy’n galluogi hyn eisoes fel DotSub (er dwi’n siwr nad oes posib rhoi ffilmiau Hollywodd arno…) a gallwch chi fynd ati i gyfieithu rwan drwy helpu Rhys i drosi testun un o fideos Hacio’r Iaith ar gyfer cynulleidfaoedd Saesneg…

dotsub

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.