3 sylw

  1. Diolch am rhein. Mae Seibercofis yn brosiect da ond mae tipyn o brosiectau tebyg o gwmpas ers nifer o flynyddoedd. Cyn symud swyddfa yn 2007 fe aeth llawer o’n hen gyfrifiaduron ni (+monitors CRT) i brosiect fel hwn yng Nghaerdydd sy’n ei ail-gylchu ar gyfer pobl ddi-freintiedig yn y cymoedd.

    Ddim yn siwr os wnaeth hyn ei grybwyll (mae’n anodd clywed y gynulleidfa) – fe ddylai John edrych ar Ghost for Linux er mwyn gallu gosod delwedd Ubuntu yn syth i’r ddisg galed.

  2. Diolch am dy sylw Dafydd. Na’i basio fo mlaen at John.

    Mae’r sain ar gyfer sylwadau am fod yn broblem ar bob fideo yn anffodus. Doedd ganddon ni ddim roving mic. Tro nesa…

  3. Heb wrando ar y cyflwyniad ar Cybercofis eto, ond des ar draws cynllun Free Geeks yn Portland, UDA sy’n rhoi hyfforddiant o bobl yn ogystal a darparu cyfrifiaduron ac hefyd sydd a siop yn gwertthu darnau ail law. Hoffwn weld lot o bethau fel hyn er mwyn help cael gwared o hen PC ayyb o’r cartref a’r gweithle.

Mae'r sylwadau wedi cau.