Data: 9.9% o areithiau yn y Cynulliad yn Gymraeg

Mae Kevin Donnelly wedi dadansoddi’r Cofnod er mwyn cyfrif pa ganran o sylwadau ac areithiau a anerchwyd yn Gymraeg. Y ganran yn y trydydd Cynulliad? Dim ond 9.9%. Mae rhagor o wybodaeth yn ei gofnod blog yn ogystal â’i gorpws a pheriant chwilio o’r enw Kynulliad3. Pam mae’r ganran mor isel? Oes gwleidydd Cymraeg o gwmpas sydd yn… Parhau i ddarllen Data: 9.9% o areithiau yn y Cynulliad yn Gymraeg

RIP Google Reader. Hir oes i CommaFeed Cymraeg.

Dw i’n dibynnu ar ddarllenydd RSS am fy newyddion diweddaraf. Yn anffodus mae Google yn troi Reader i ffwrdd am byth ar ddiwedd y mis hwn. Os wyt ti wedi ei ddefnyddio peidiwch anghofio bod angen allforio eich ffrydiau cyn iddyn nhw tynnu’r plwg. Fel arbrawf dw i wedi bod yn defnyddio CommaFeed.com fel darllenydd RSS… Parhau i ddarllen RIP Google Reader. Hir oes i CommaFeed Cymraeg.

Ysgoloriaeth PhD y Coleg Cymraeg: Newid Ymddygiad Ieithyddol

Mae Prifysgol Caerdydd yn hysbysebu PhD diddorol ar hyn o bryd: Ysgoloriaeth PhD: Newid Ymddygiad Ieithyddol – Cynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio rhyngwynebau cyfrifiadurol mewn ieithoedd llai Mae’n bleser gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd wahodd ceisiadau gan unigolion a chanddynt ddiddordeb mewn astudio ar gyfer y ddoethuriaeth cyfrwng Cymraeg uchod. Ariennir y ddoethuriaeth gan y… Parhau i ddarllen Ysgoloriaeth PhD y Coleg Cymraeg: Newid Ymddygiad Ieithyddol

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio ,

Gweithdai Cyfle: Byd yr Ap (Caernarfon ac Abertawe)

Dyma wybodaeth am gyfres o weithdai. Cysylltwch gyda Cyfle yn uniongyrchol os ydych chi eisiau gwybod mwy. Fel wyt ti’n gwybod efallai, mae Cyfle wrthi’n trefnu cyfres o weithdai o dan y teitl Byd yr Ap. Mae’r rhain wedi cael eu hariannu gan arian ESF drwy Skillset Greadigol. Dwi’n atodi copi o’r poster a dyma’r… Parhau i ddarllen Gweithdai Cyfle: Byd yr Ap (Caernarfon ac Abertawe)

Digwyddiad: Diffyg Democrataidd yng Nghaerdydd wythnos yma #diffygnewyddion

Mae’r Cynulliad wedi gofyn i mi basio’r manylion isod ymlaen. Mae nifer cyfyngedig o lefydd i gael ar hyn o bryd. Cynulliad Cenedlaethol Cymru Diffyg Democrataidd Sesiwn 2 Lleoliaeth – achubiaeth datganoli? Ar adeg pan fo’r cyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru yn methu’n gyson i ymgysylltu pobl Cymru â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, dymuna… Parhau i ddarllen Digwyddiad: Diffyg Democrataidd yng Nghaerdydd wythnos yma #diffygnewyddion

Wythnos Digidol Caerdydd – mis Mehefin 2013

Dw i newydd gweld tudalen newyddion ar wefan BBC am Wythnos Digidol Caerdydd: Fis nesaf, bydd cyfle i drin a thrafod dyfodol digidol y diwydiannau cyfryngau creadigol yng Nghymru yn ystod Wythnos Ddigidol Caerdydd. Caiff y digwyddiad arloesol hwn ei gynnal rhwng 24 a 27 Mehefin gan ddwyn ynghyd y talent gorau yn y sectorau… Parhau i ddarllen Wythnos Digidol Caerdydd – mis Mehefin 2013

Heriau i Windows Cymraeg yn y sector cyhoeddus a chorfforaethol

Mae Gwyn Llewelyn Williams wedi ysgrifennu darn am heriau i Microsoft Windows Cymraeg yn y sector cyhoeddus a chorfforaethol. Diolch yn fawr iawn i Gwyn. Ers blynyddoedd bellach mae Microsoft wedi bod yn darparu pecyn rhyngwyneb iaith Cymraeg ar gyfer eu system weithredu Windows – o Windows XP, i Vista, i 7 a rwan i… Parhau i ddarllen Heriau i Windows Cymraeg yn y sector cyhoeddus a chorfforaethol

Trafod gwersi côd i blant

Mae Andrew Misell yn awyddus i drefnu gwersi côd i blant. Darllena isod (dw i wedi copio ei e-bost gyda chaniatâd). Allai unrhyw un helpu? Gadawa sylwadau isod neu gysyllta yn uniongyrchol gyda Andrew. Dwi wedi cael fy sbarduno i ymysgwyd o ‘nifaterwch am fod y mab wedi cael gwahoddiad i gwpl o gyfarfodydd Young… Parhau i ddarllen Trafod gwersi côd i blant

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Hargreaves yn galw am fwy o ddata agored yng Nghymru

Mae Click on Wales wedi cyhoeddi trawsgrifiad o araith gan Yr Athro Ian Hargreaves am sut i wella Cymru, yn bennaf trwy mabwysiadu agwedd ‘agored’ yng Nghymru a data agored. […] Which brings me to the main point I would like to make this evening. Given a choice between doing something in a way which… Parhau i ddarllen Hargreaves yn galw am fwy o ddata agored yng Nghymru