Sut i greu mapiau o ystadegau – fideo gan @DafyddElfryn
Diolch Dafydd – difyr
Diolch Dafydd – difyr
Es i i’r Hacathon Hanes diwethaf ac roedd hi’n diwrnod ardderchog ac ysbrydoledig – o ddatblygwyr, pobl data, haneswyr, ymchwilwyr, pobl chwilfrydig, ac eraill yn dod at ei gilydd i geisio canfod dulliau o ddarganfod a chyfleu hanes mewn ffyrdd newydd.
Mae trefnwyr yr Hacathon Hanes wrthi eto, yn Aberyswyth y tro hwn, ac wedi gofyn i mi basio’r neges isod ymlaen.
Bydd yr Hacathon Hanes yn ddiwrnod hacio sy’n canolbwyntio ar ailddefnyddio data hanesyddol am bobl Cymru o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae hyn yn cynnwys miloedd o gofnodion bywgraffyddol, delweddau portread, cofnodion llongau, data daearyddol a thestun OCR o’r casgliadau. Rydym yn arbennig o awyddus i weld defnydd o ddata iaith Gymraeg.
Gall hacio gynnwys rhaglenni, visualisations, gamification, defnyddio creadigol ac artistig a llawer mwy!
Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn a bydd lluniaeth, cinio a bag o bethau da i’r holl gyfranogwyr!
Mae modd cofrestru ar Tocyn.Cymru.
Am unrhyw holiadau cysylltwch yn uniongyrchol.
Dyma fanylion am ddigwyddiad Ofcom dw i newydd weld:
Sesiwn Agored Arloesedd Ofcom – CAERDYDD
Dydd Mawrth 13 Chwefror 2018
6:30pm – 8:30pm
Rheoleiddiwr telegyfathrebu prif ffrwd, symudol, band-eang, teledu, radio a gwasanaethau-ar-alw y Deyrnas Gyfunol yw Ofcom . Eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod pobl y DG yn cael y dewis orau o wasanaethau cyfathrebu a bod y farchnad yn darparu dewis, dibynadwyedd a gwasanaethau arloesol i ddefnyddwyr.Maent yn awyddus i ryddhau mwy o ddata agored er mwyn gweld pa arloesedd a mewnwelediad gall hynny ysgogi.
Mae Ofcom eisoes yn cynhyrchu ystod hynod arbennig o ddata – cryfder signal symudol a band llydan, data technegol telegyfathrebu, ymwybyddiaeth gyfryngol a llawer mwy – sydd yn faes parod i’w ddadansoddi a datblygu. Dymunant gyflawni llawer mwy. Gallwch chi helpu llywio rhyddhau setiau o ddata agored y dyfodol, neu ddefnyddio data agored i greu gwasanaeth i gwsmeriaid, neu ddylunio ap i hysbysu defnyddwyr am eu telegyfathrebu fel bod ganddynt ddewis go iawn o wasanaethau.
Ymunwch gyda ni ar Nos Fawrth 13eg Chwefror 2018 yn Indycube Lôn Trade St, 6.30yh-8.30yh ar gyfer y sesiwn agored olaf ynglŷn ag arloesi gyda data Ofcom,
Bydd hi’n sesiwn anffurfiol ble bydd syniadau a chwestiynau pawb yn cael eu parchu a’u nodi ar ddogfen Google y gallwn ni gyfeirio ati eto yn y dyfodol. Rydym yn gweithredu mewn modd hollol agored, felly bydd yna groeso i bobl nad sydd yn gallu mynychu ychwanegu eu mewnbwn nhw hefyd. Beth bynnag eich diddordeb yng nghyfathrebu’r cyfryngau, mae’n sicr bod gennych farn a mewnbwn gwerthfawr i gynnig felly buasem ni wrth ein bodd yn eich gweld chi yn un o ddigwyddiadau Ofcom.
Cysylltwch ag Ofcom neu’r Sefydliad Data Agored yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth.
Mae Click on Wales wedi cyhoeddi trawsgrifiad o araith gan Yr Athro Ian Hargreaves am sut i wella Cymru, yn bennaf trwy mabwysiadu agwedd ‘agored’ yng Nghymru a data agored.
[…] Which brings me to the main point I would like to make this evening. Given a choice between doing something in a way which is open, transparent and contestable or in a way which prioritises privacy, obscured authority or even secrecy, we should never be in any doubt:
Choose open.
Or, as the point is often put in debates about information and the Internet, we should set the default switch to open and then mitigate the risks of being open, rather than first and foremost worrying about loss of control. And we should use these open channels to design solutions around the expressed and researched preferences of users of services – of citizens. […]
Mae fe’n defnyddio’r gair ‘open’ 36 gwaith (gan gynnwys ‘openly’, ‘openness’ ayyb).
Efallai mae fe’n euog o ddiffiniad rhy slac o’r gair – e.e. dw i ddim yn gweld y cysylltiad rhwng yr enghraifft pel-droed a manteision data agored.
Hoffwn i drafod mwy am y ddarn nesaf sydd yn mynd tu hwnt i ddata agored:
[…] With open also comes plurality – healthy competition between individuals and institutions. The opposite course tends towards the concentration of information and power in the hands of a few: a real danger here in Wales.
So, we should be open to
- Competition from wherever competition stems.
- New ideas and innovation, even where change is painful.
- The movement of people, ideas and culture in the confident belief that strong cultures learn quickly and become stronger as a result. […]
O safbwynt iaith dw i ddim yn siŵr os yw’r Gymraeg yn ddigon cryf eto i wynebu’r ‘agored’ (yn ôl y diffiniad yma) yn gyfan gwbl. Ond mae’n bosib fy mod i wedi camddeall.