Dw i newydd clywedd am ymweliad Bjarne Stroustrup i Abertawe i siarad am C++ ddoe. Aeth unrhyw un? Sut oedd e?
Awdur: Carl Morris
TripAdvisor yn gwrthod derbyn adolygiadau yn Gymraeg
Am wefan mor ‘rhyngwladol’ mae’n siom i weld tystiolaeth o bolisi ieithyddol cyfyngedig TripAdvisor. Noder y frawddeg ymosodol-oddefol ar y diwedd – iawn, gwawn ni jyst dilyn eich rheolau a pharhau i greu cynnwys i chi am ddim yn Susnag neu Eidaleg te! Diolch i Lowri Roberts am y tip. (Sut oedd Llety Bodfor eniwe? Dydyn ni dal ddim yn… Parhau i ddarllen TripAdvisor yn gwrthod derbyn adolygiadau yn Gymraeg
S4C: drama aml-blatfform PyC a gemau Cymraeg ar gonsolau
Dw i wedi sylwi ar ddau ddatganiad S4C am ddatblygiadau digidol yn ddiweddar. Yn gyntaf S4C yn sôn am y prosiect PyC: […] Mae S4C yn cyd-weithio â BBC Cymru Wales i ddangos cyfres ddrama newydd fydd yn cael ei darlledu ar wefan S4C yn unig. Mae cynhyrchwyr Pobol y Cwm, BBC Cymru Wales, yn… Parhau i ddarllen S4C: drama aml-blatfform PyC a gemau Cymraeg ar gonsolau
Gangnam Atalnodi: 20,606 o sesiynau gwylio ar YouTube
Dw i’n meddwl am y fideo Gangnam Atalnodi sydd wedi bod ar YouTube ers pump diwrnod ac wedi cael 20,606 o sesiynau gwylio hyd yn hyn. Prin ydyn ni’n gweld ffigur o’i fath ar fideo Cymraeg. Hoffwn i wybod mwy ond pwy bynnag sydd yn rhedeg y cyfrif wedi rhoi cyfyngiad ar yr ystadegau (botwn… Parhau i ddarllen Gangnam Atalnodi: 20,606 o sesiynau gwylio ar YouTube
Papurau Newydd Cymru Arlein o 1844 i 1910… rhyfedd, cynhwysfawr, penigamp
Mae rhai o bobl gan gynnwys mynychwyr Hacathon a Hacio’r Iaith eisoes wedi cael cip ar wefan newydd Llyfrgell Gen, sef Papurau Newydd Cymru Arlein. Maent newydd lansio’r archif o bapurau (Cymraeg a Saesneg) yn swyddogol gyda ffrwydrad o ganapés, mwy o deitlau (a thrwyddedau hawlfraint penodol)! Ewch yn llu i: http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk Dyma fy nhrydariadau… Parhau i ddarllen Papurau Newydd Cymru Arlein o 1844 i 1910… rhyfedd, cynhwysfawr, penigamp
Sesiwn SXSW Indigenous Tweets am ieithoedd bychain
Dyma Storify o sesiwn Indigenous Tweets yn South by Southwest Rhyngweithiol eleni. O’n i’n methu mynychu’r ŵyl o gwbl yn anffodus ond mae’n edrych fel trafodaeth difyr. Storify: Indigenous Tweets, Visible Voices & Technology
Mae’r delwedd Google heddiw yn…
WYCH! (Yn anffodus dyw’r fersiwn Cymraeg ddim yn cynnwys y ddelwedd.) Dydd Gŵyl Dewi Hapus i chi.
Cwmni Da ac S4C yn lansio ap Llefydd Sanctaidd ar iOS… Trafodaeth
Newyddion da i bobl sy’n licio crwydro yng Nghymru. Dw i newydd gweld bod y tîm tu ôl y rhaglen teledu Llefydd Sanctaidd wedi lansio ap Llefydd Sanctaidd am ddim ar iOS: […] Nawr, gyda chymorth yr app arbennig hwn, fe allwch chithau gychwyn ar eich pererindod eich hunain i unrhyw un o’r 37 lle… Parhau i ddarllen Cwmni Da ac S4C yn lansio ap Llefydd Sanctaidd ar iOS… Trafodaeth
Lansio gwasanaeth Cyfieithu Anarchaidd Ar-lein
Newydd gweld enghraifft diddorol yma o gyfieithu torfol a phrawfddarllen: Mae Anarchwyr De Cymru, Croes Ddu Caerdydd, Bwyd Nid Bomiau Cymru, Rhwydwaith Sgwatwyr Caerdydd a grwpiau tebyg angen gwasanaeth cyfieithu Cymraeg effeithiol a chyson. Mae’r rhestr ebyst welshtranslation@lists.riseup.net yn un o gyfieithwyr gwirfoddol sy’n medru gwneud y gwaith yma. Byddwn ond yn cyfieithu: Dogfennau /… Parhau i ddarllen Lansio gwasanaeth Cyfieithu Anarchaidd Ar-lein
Prif Cyngor Sir Caerfyrddin yn erbyn Jacqui “Caebrwyn” Thompson
Mae achos enllib yn dechrau heddiw rhwng Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin a blogiwr lleol. Mae Jacqui Thompson o Lanwrda, sy’n blogio dan yr enw ‘Caebrwyn’ ac wedi bod yn feirniadol o bolisïau cynllunio’r cyngor sir, yn dwyn achos yn erbyn y Prif Weithredwr, Mark James. Ond mae e hefyd yn dwyn achos o enllib yn… Parhau i ddarllen Prif Cyngor Sir Caerfyrddin yn erbyn Jacqui “Caebrwyn” Thompson