Gweithdai Cyfle: Byd yr Ap (Caernarfon ac Abertawe)

Dyma wybodaeth am gyfres o weithdai. Cysylltwch gyda Cyfle yn uniongyrchol os ydych chi eisiau gwybod mwy.

Fel wyt ti’n gwybod efallai, mae Cyfle wrthi’n trefnu cyfres o weithdai o dan y teitl Byd yr Ap. Mae’r rhain wedi cael eu hariannu gan arian ESF drwy Skillset Greadigol.

Dwi’n atodi copi o’r poster a dyma’r linc i’r wefan ar gyfer y manylion yn llawn. http://www.cyfle.co.uk/home/shortCoursesDetails/cyflwyniad-byd-ap

Mae hysbys fechan ar waelod yr ebost yma hefyd.

Mae’r gweithdy cyntaf, CYFLWYNIAD I FYD YR AP / AN INTRODUCTION TO THE WORLD OF APPS yn cael ei gynnal ddwywaith, yng Nghaernarfon ar yr 20+21 o Fehefin (wythnos nesa) ac yn Abertawe ar y 26+27 o Fehefin.

Rydyn ni’n trio cael dipyn o gynulleidfa ar gyfer y rhain, gweithdai ydynt sydd yn bennaf ar gyfer y criw cynhyrchu/creadigol sydd y tu ol i greu cynnwys yn hytrach na’r tim/unigolion techy sy’n rhoi’r peth at ei gilydd yn y pen draw.

Gallant ddod o unrhyw fath o gwmni/sefydliad sydd â diddordeb mewn creu Ap neu ddysgu mwy amdanynt.

***********************************

Dyma wybodaeth isod am BYD YR AP – CYFRES O WEITHDAI all fod o ddiddordeb i chi.

Mae’r cyntaf yn y gyfres, CYFLWYNIAD I FYD YR AP ym mis Mehefin a’r olaf ym mis Rhagfyr eleni.

Tybed a fyddai modd i chi ein helpu i ledaenu’r gair?

Gweithdy 1: CYFLWYNIAD I FYD YR AP (deuddydd)

20+21 Mehefin 2013, Caernarfon
26+27 Mehefin 2013, Abertawe

CYNNIG ARBENNIG! Archebwch cyn y 13eg o Fehefin i’w gael yn rhatach!

Mae hwn yn un mewn cyfres o 11 o weithdai/dosbarthiadau meistr sydd wedi eu datblygu er mwyn darparu hyfforddiant lefel uchel ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud ag Apiau symudol / tabled a phrofiadau ail-sgrîn.