Haclediad #33: Ho-ho-haclediad

Croeso i rifyn Nadolig yr Haclediad! Byddwn ni’n rhoi sbin tymhorol ar newyddion y mis – Grantiau technoleg y Cynulliad, gêm Gymraeg ar Steam, brwydro’r Xbox vs PS4 a llawer mwy. Bydd Bryn yn deud ei jôcs gorau ac yn awgrymu gemau bwrdd (www hw!), Iestyn yn rhedeg allan o wisgi a Sioned yn trio… Parhau i ddarllen Haclediad #33: Ho-ho-haclediad

WordPress 3.7.1 yn Gymraeg

WordPress yw’r system rheoli cynnwys sydd yn rhedeg lot o wefannau o gwmpas y byd gan gynnwys Hacio’r Iaith. Mae fersiwn diweddaraf bellach, sef 3.7.1. Canllaw i WordPress 3.7.1. Os ydych chi’n defnyddio WordPress.com yn Gymraeg (y fersiwn dotcom yw’r fersiwn cyflym a haws) mae popeth yn awtomatig. Does dim rhaid i chi wneud dim… Parhau i ddarllen WordPress 3.7.1 yn Gymraeg

Caerdydd: Grŵp Hawliau Agored yn trafod preifatrwydd ac arsyllu torfol

Cofrestrwch am y digwyddiad yng Nghaerdydd “I ddechrau fe gasglon nhw fy metadata, a gwnes i ddim byd…” Herio PRISM a Tempora yn Llysoedd yr UE: beth mae’n ei olygu Mynd ag arsyllu torfol i Lys Hawliau Dynol Ewrop Nos Iau, 12 Rhagfyr, 7-9YH Tŷ Cwrdd y Crynwyr 43 Heol Siarl, CF10 2GB yn cyflwyno… Parhau i ddarllen Caerdydd: Grŵp Hawliau Agored yn trafod preifatrwydd ac arsyllu torfol

Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996 – papur gan Dr Rhys J. Jones

Mae Dr Rhys J. Jones newydd rhannu dolen i bapur difyr o 2010 am hanes y Gymraeg ar-lein gan gynnwys grwpiau Usenet, rhestrau e-bost fel WELSH-L, agweddau cynnar y wasg Gymraeg a mwy. Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996 – papur gan Dr Rhys J. Jones Peidiwch anghofio i fwydo eich darllenydd blogiau/RSS gyda blog… Parhau i ddarllen Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996 – papur gan Dr Rhys J. Jones

Enaid Coll – gêm Gymraeg newydd ar PC (a Mac a consoles cyn bo hir…)

Echddoes rhyddhaodd cwmni Wales Interactive gêm newydd ar Steam o’r enw Enaid Coll. Ma’r gêm wedi cael ei gyd-ariannu gan S4C a’r Llywodraeth. Dwi ddim wedi chwarae’r gêm eto ond ma’n edrych yn wledd ar y llygaid. A dweud y gwir dwi ddim wedi chwarae gêm fel hyn ers blynyddoedd, ond dwi awydd rhoi crac… Parhau i ddarllen Enaid Coll – gêm Gymraeg newydd ar PC (a Mac a consoles cyn bo hir…)

WiciGyfarfod, Caerdydd. Nos Wener 1/11/13

Gyda chynhadledd Edu Wiki 2103 yn cymryd lle yr un pryd dyma feddwl am drefnu WiciGyfarfod (tebyg i Hacio’r Iaith Bach) ar y nos Wener. Mae’n gyfle anffurfiol i sgwrsio gyda wicipedwyr hen a newydd o Gymru a thu hwnt. Y gobaith yw y bydd Alex Hinojo yno ar ran Wicipedia Catalonia hefyd. Mae Alex yn gwneud gwaith anhygoel yng… Parhau i ddarllen WiciGyfarfod, Caerdydd. Nos Wener 1/11/13

Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol – uber-papur gwyn META-NET gan Dr Jeremy Evas

Byddai lot o ddarllenwyr y blog hwn yn nabod Dr Jeremy Evas o Brifysgol Caerdydd, arbenigwr ar dechnoleg a’r Gymraeg. Mae fe wedi cyhoeddi über-papur gwyn yn ddiweddar. Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol gan Dr Jeremy Evas – gwybodaeth Neu ewch yn syth i’r PDF. Dw i heb gael siawns i’w brosesi ond mae’n… Parhau i ddarllen Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol – uber-papur gwyn META-NET gan Dr Jeremy Evas

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio

Dywedwch Shwmae Su'mae drwy Skype yn Gymraeg

Mae rhyngwyneb Cymraeg nawr ar gael ar gyfer Skype, rhaglen rydym i gyd yn gwybod amdano ac sydd hefyd yn ei wneud yn hawdd iawn i newid ac addasu iaith ei ryngwyneb. 1. Lawrlwythwch y ffeil iaith (ffeil testun .lang 347KB) 2. Yn newislen Skype, dewiswch Offer>Newid Iaith>Ychwanegu Ffeil Iaith Skype (canllaw gyda sgrinluniau)(Tools>Change Language>Add… Parhau i ddarllen Dywedwch Shwmae Su'mae drwy Skype yn Gymraeg