Dywedwch Shwmae Su'mae drwy Skype yn Gymraeg

Mae rhyngwyneb Cymraeg nawr ar gael ar gyfer Skype, rhaglen rydym i gyd yn gwybod amdano ac sydd hefyd yn ei wneud yn hawdd iawn i newid ac addasu iaith ei ryngwyneb.

1. Lawrlwythwch y ffeil iaith (ffeil testun .lang 347KB)

2. Yn newislen Skype, dewiswch Offer>Newid Iaith>Ychwanegu Ffeil Iaith Skype (canllaw gyda sgrinluniau)
(Tools>Change Language>Add Skype Language File)

(Fersiwn diweddaraf Skype yw 6.7, ar gael yma: Tudalen lawrlwytho Skype)

Dechreuwyd y cyfieithiad i’r Gymraeg gan Merlyn Cooper (@Merlyn_Dytani) ar Transifex, llwyfan cod-agored a chymdeithasol i leoleiddio meddalwedd gwahanol, fel rhan o brosiect cyfieithu Skype i nifer o ieithoedd dan oruchwyliaeth Michael Bauer, Albanwr sy’n siarad Gaeleg.

Dechreuais gyfrannu i’r prosiect nôl ym mis Mehefin ond dim ond yn y dyddiau diwethaf parheais i’w gyfieithu o ddifri gyda’r bwriad o gwblhau’r cyfieithiad mewn pryd i bobl dweud “Shwmae Su’mae” drwy Skype yn Gymraeg ar 15fed Hydref 2013.

O ran safon a chydnawsedd y iaith, gallaf ond gaddo un peth: nid yw’n berffaith.

Oherwydd y brys, bu rhaid i mi drawsnewid fformat y ffeil fy hun yn hytrach na drwy Transifex er mwyn ei ddefnyddio a’i brofi yn Skype ei hun. Wrth wneud hyn darganfyddais nad yw’r cyfieithiad ar Transifex yn cynnwys holl linynnau’r fersiwn cyfredol o Skype, sef 6.7.0.

Mae Skype yn ei gwneud yn hawdd iawn i unrhyw un gyfieithu rhyngwyneb y rhaglen. Mae’r dewis ieithoedd (Offer>Newid Iaith) yn cynnwys, ar waelod y rhestr, yr opsiwn i chi lwytho ffeil iaith eich hun neu i olygu ffeil iaith. Wrth gadw newidiadau mewn ffeil gwahanol (Cadw fel…), gall unrhyw un greu lleoleiddiad eu hunain.

Gan ei fod mor hawdd gwneud newidiadau, mae’n bosib mewn amser byr y bydd nifer o ffeiliau rhyngwyneb Cymraeg ar gael i Skype yn adlewyrchu gwahanol tafodieithoedd a fersiynau ffurfiol (chi) ac anffurfiol (ti). Ond ble buasai modd rhannu’r rhain? A sut gall bobl gwella a rhannu’r un ffeil? Dyma ble mae gwefan fel Transifex yn ddefnyddiol: Prosiect cyfieithu Skype ar Transifex.

Dydw i ddim yn gwybod o gwbl i ba raddau dw i’n cytuno a’r dulliau hyn gael cwmnïau mawr i gael cyfieithiadau o’u cynnyrch. Rhai dyddiau byddaf yn rhoi fy amser fel cyfraniad i’r iaith Gymraeg a phawb sy’n ei defnyddio. Dyddiau eraill, byddaf yn gwrthod rhoi fy amser gan fy mod yn helpu cwmni o dramor i elwa. Mae’r broses o gyfieithu Twitter, er enghraifft, yn gwneud i mi deimlo ar adegau fy mod yn rhoi fy ngwaed i’r cwmni – a hynny drwy daro fy mhen yn erbyn wal. Bydd cofnod arall am y profion hynny.

9 sylw

  1. SHWMAE SU’MAE

    Gwych iawn Aled.

    Mae’n gweithio yn iawn yma.

    Diolch yn fawr iawn i ti. Dw i’n siwr bydd llwyth o bobl yn joio’r profiad o ryngwyneb Skype Cymraeg o hyn ymlaen. Dw i’n bwriadu dweud wrth bobl.

    Gyda llaw dw i eisiau cymryd rhan ar Transifex er mwyn creu ffeil debyg ar gyfer Linux. Dw i bron byth yn ddechrau mewn Windows dyddiau yma a dweud y gwir. Gobeithio fydd modd ailddefnyddio’r cyfieithiadau sydd yna eisoes.

  2. Ar hyn o bryd, dydy o ddim yn weithio ar Mac, mae’r ffeiliau ydy am Windows (ac yn fuan Linux, dw i’n gobeithio (27%)).

    Yn personol, dydw i ddim cael Mac felly mae’n anodd i gael y strings am gyfieithu.

    Os dach chi’n edrych ar Sourceforge yn yr Wici (http://sourceforge.net/p/skypeinyourlang/wiki/Home/) mae o’n rhoi gwybodaeth am Mac ond dim llawer.

    Os dach chi’n medru cael y ffeil efo’r strings o Mac dw i’n hapus rhoi’r ffeil i Michael Bauer am Transifex felly pawb medru weithio ar nhw.

  3. Grêt. Un pwynt bach, wrth roi cyfarwyddiadau fyddai’n well cadw at iaith wreiddiol y ffeil h.y. ar Skype cyn ei newid i’r Gymraeg fydd Skype pawb yn dweud ‘tools’ nid ‘offer’ a ‘change language’ nid ‘newid iaith’. Dwi’n gwybod bod bach o synnwyr cyffredin yn esbonio’r holl beth ond dyma’r math o beth bach sydd hefyd yn gwneud i rai pobl roi’r gorau iddi cyn dechrau neu mae nhw’n meddwl fod rhaid cael rhyngwyneb Gymraeg cyn dechrau neu beth bynnag.

    Fel arall, gwych, diolch yn fawr.

  4. Ceises i y ffeil “.ts” o Transifex heddiw ar Linux, mae’n weithio ond dim fel dw i isio.

    Ar hyn o bryd dw i’n angen ailenwi’r ffeil skype_en.ts, compile i .qm defnyddio QT Linguist 4 a defnyddio’r rhaglen yn “saesneg” am gymraeg. Mae’n od iawn, dw i’n angen dod o hyd i’r ffeil config am yr ieithoedd am ychwanegu mwy teipoedd i’r rhestr (cy).

    41% wneuwyd efo linux cyfieithiadau, croeso unrhyw help.

Mae'r sylwadau wedi cau.