Ma hwn yn ddiddorol iawn. Dwi’n siwr y byddai nifer fawr o bobol sydd yn ymwneud ag ymddiddori yn Hacio’r Iaith â diddordeb mewn cystadlu: Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cystadleuaeth arbennig i hybu arloesedd, a fydd yn cychwyn eleni yn Eisteddfod Sir Gâr. Bwriad y gystadleuaeth hon yw annog Cymry o bob oed… Parhau i ddarllen Cyfle i enill £1000 yng nghystadleuaeth arloesedd yr Eisteddfod
Hacio'r Iaith 2014: llety, gofod cydweithio, swper a rhaglen…
Mae mis i fynd tan Hacio’r Iaith 2014 ym Mangor ar ddydd Sadwrn 15fed o fis Chwefror 2014! Dyma nodyn bach sydyn i ddweud ein bod ni wedi diweddaru’r tudalen wici Hedyn gyda rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y digwyddiad: Llety (gan gynnwys nifer gyfyngedig o lefydd ar ostyngiad arbennig i bobl Hacio’r Iaith yn y… Parhau i ddarllen Hacio'r Iaith 2014: llety, gofod cydweithio, swper a rhaglen…
S4C Masnachol a Wildseed: cyfleoedd i bobl creadigol
Ychydig bach yn hwyr gyda’r cofnod yma ond dw i wedi bod yn ddarllen am Wildseed ac S4C Masnachol. Wildseed Studios yn cyhoeddi buddsoddiad newydd gan gangen fasnachol S4C: Mae Wildseed Studios wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd gan gangen fasnachol S4C sy’n rhoi cyfran sylweddol i’r darlledwr yn y cwmni, a sedd ar eu bwrdd. Mae… Parhau i ddarllen S4C Masnachol a Wildseed: cyfleoedd i bobl creadigol
Berfenwau v Gorchmynion amhersonol – sut i gyfieithu meddalwedd ar Translatewiki
Trafodaeth ar y Wicipedia Cymraeg ynglŷn â chynnig i newid cyfieithiadau Cymraeg ar Translatewiki i ddefnyddio berfenwau yn hytrach na gorchmynion amhersonol. Yn ogysatal a’r Wicipedia Cymraeg (a bwerir gan feddalwedd MediaWiki) mae cyfieithiadau Translatewiki hefyd yn bwydo sawl math o feddalwedd/gwefan arall.
Mapio’r trydarfyd Celtaidd
Dyma mapiau diddorol iawn o sgyrsiau yn Gymraeg ac ieithoedd eraill ar Twitter – gan Kevin Scannell o Indigenous Tweets.
Cost Technoleg:
Mae gan y geiriau “am ddim” ystyr gwahanol mewn unrhyw iaith yr ydych yn edrych arno: “gratis, ayyb” ond o ran “am ddim” mewn ystyr technolegol yw am ddim wirioneddol am ddim? Cymerwch Spotify, Mae gan ei gyfrif am ddim hysbysebion a rwyt ti yn yn gyfyngedig i faint o amser allwch chi wrando arno.… Parhau i ddarllen Cost Technoleg:
Santa Dirgel: gwasanaeth Nadoligaidd ar-lein @santadirgel
Tipyn bach yn hwyr eleni dw i’n gwybod ond dw i newydd darganfod Santa Dirgel, gwasanaeth sydd yn hwyluso’r tasg o drefnu Santa Dirgel ymhlith pobl mewn swyddfa (neu labordy, beudy, stabl, ayyb). http://santadirgel.co.uk/ Dw i’n newydd rhedeg prawf ac mae’n gweithio yn dda. Diolch o galon i Marc Thomas am ddatblygu’r gwasanaeth defnyddiol yma!
RIP Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru
Dw i newydd ddarllen y neges e-bost isod oddi wrth Golyg. Annwyl gyfaill, Mae’n ddrwg gen i gyhoeddi fod Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru, wedi dod i ben oherwydd galw isel. Hoffwn hefyd ymddiheuro am y modd daeth y traciwr i ddiwedd mor sydyn rhai dyddiau yn ôl. Rhannwyd dros 4,000 o… Parhau i ddarllen RIP Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru
Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Caerdydd. 1-2/2/2014
Mae Wikimedia UK yn cynnig cwrs hyfforddiant deuddydd o’r enw Hyfforddi’r Hyfforddwyr yng Nghaerdydd ar benwythnos y 1af a’r 2il o Chwefror yng Nghaerdydd. Cwrs cyffredinol ar fod yn hyfforddwr ydyw, ac nid ar sut i olygu’r Wicipedia. Darperir yr hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg, ond rhoddir blaenoriaeth i siaradwyr Cymraeg er mwyn gallu cynorthwyo gyda proseictau… Parhau i ddarllen Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Caerdydd. 1-2/2/2014
WordPress 3.8 yn Gymraeg
Mae fersiwn harddaf a’r mwyaf coeth o WordPress newydd ei ryddhau. Ewch i WordPress Cymraeg – cy.wordpress.org. Os ydych yn rhedeg gwefan WordPress eisoes mi ddylech fod wedi cael hysbysiad. Mae’r cyfieithiad wedi bod ar gael ers yn hwyr neithiwr (13/12) felly os oeddech chi wedi diweddaru’n gynt mae angen ail ddiweddaru er mwyn cael… Parhau i ddarllen WordPress 3.8 yn Gymraeg