Caerdydd: Grŵp Hawliau Agored yn trafod preifatrwydd ac arsyllu torfol

poster-org-prism2

Cofrestrwch am y digwyddiad yng Nghaerdydd

“I ddechrau fe gasglon nhw fy metadata, a gwnes i ddim byd…”

Herio PRISM a Tempora yn Llysoedd yr UE: beth mae’n ei olygu
Mynd ag arsyllu torfol i Lys Hawliau Dynol Ewrop

Nos Iau, 12 Rhagfyr, 7-9YH
Tŷ Cwrdd y Crynwyr
43 Heol Siarl, CF10 2GB

yn cyflwyno
daniel carey & jim killock
Mae Daniel Carey o gwmni cyfreithwyr Deighton Pierce Glynn yn cynrychioli’r ymgeiswyr yn yr achos llys. Jim Killock ydy Cyfarwyddwr Gweithredol y Grŵp Hawliau Agored.

Dysgwch sut mae hyn yn effeithio ar eich hawl i breifatrwydd a rhyddid rhag arsyllu torfol. Ymunwch â ni yng Nghaerdydd.

Rhagor am y digwyddiad:

Mae Grŵp Hawliau Agored, Big Brother Watch, English PEN a Constanze Kurz yn herio cyfundrefn gyfreithiol y Deyrnas Gyfunol yn Llys Hawliau Dynol Ewrop. Beth yw sylwedd yr her a beth mae hynny yn golygu tasen nhw yn ennill?

Dan Carey o Deighton Piece Glynn yw’r cyfreithiwr ar y cais a bydd e’n esbonio beth mae’r weithred yn ceisio cyflawni.

Bydd Jim Killock, Cyfarwyddwr Gweithredol y Grŵp Hawliau Agored, yn esbonio beth allech chi wneud i herio arsylliad torfol y Deyrnas Gyfunol.

Traddodir yr areithiau yn y Saesneg

Cofrestrwch am y digwyddiad yng Nghaerdydd