WiciGyfarfod, Caerdydd. Nos Wener 1/11/13

Gyda chynhadledd Edu Wiki 2103 yn cymryd lle yr un pryd dyma feddwl am drefnu WiciGyfarfod (tebyg i Hacio’r Iaith Bach) ar y nos Wener.

Mae’n gyfle anffurfiol i sgwrsio gyda wicipedwyr hen a newydd o Gymru a thu hwnt. Y gobaith yw y bydd Alex Hinojo yno ar ran Wicipedia Catalonia hefyd. Mae Alex yn gwneud gwaith anhygoel yng Nghatalonia ar brosiectau GLAM-WIKI,  sef cydweithio gyda sefydliadau fel amgueddfeydd a llyfrgelloedd.

Os nad ydych yn gyfarwydd â golygu erthyglau Wicipedia, bydd gliniadur neu ddau wrth law a gallwn ddangos pa mor hawdd yw gwneud.

Y syniad yw cyfarfod yn Urban Tap House, Heol y Porth o 6:30 ymlaen.  Mae manylion pellach am y noson fan hyn,