Pwy sy’n dod i Steddfod eleni? Mae Hacio’r Iaith ar y maes yn cynyddu bob blwyddyn. Cymuned agored o bobl proffesiynol ac amatur yw Hacio’r Iaith sydd yn trin a thrafod sut mae’r iaith yn cael ei ddefnyddio gyda thechnoleg a pha fath o hwyl sydd yn bosib yn y maes/meysydd. Enw lleoliad Hacio’r Iaith… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith yn Steddfod Gen 2013 #steddfod2013
Categori: Digwyddiadau
Cerdd Nid at Ddant Pawb..
“Be ti lan i Dai?” medd y robot yn y peiriant fel rhyw fath o atgof o “Ghost in the Machine” Jung-aidd via Sting yr 80au. Yr ateb byr byddai : “Colli fy nghyfrinair, myn uffach i”. Yr ateb hwy : >>> MA yn y Cyfryngau Creadigol Ymarferol yn Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu… Parhau i ddarllen Cerdd Nid at Ddant Pawb..
Digwyddiad: Diffyg Democrataidd yng Nghaerdydd wythnos yma #diffygnewyddion
Mae’r Cynulliad wedi gofyn i mi basio’r manylion isod ymlaen. Mae nifer cyfyngedig o lefydd i gael ar hyn o bryd. Cynulliad Cenedlaethol Cymru Diffyg Democrataidd Sesiwn 2 Lleoliaeth – achubiaeth datganoli? Ar adeg pan fo’r cyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru yn methu’n gyson i ymgysylltu pobl Cymru â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, dymuna… Parhau i ddarllen Digwyddiad: Diffyg Democrataidd yng Nghaerdydd wythnos yma #diffygnewyddion
Cymorth i gychwyn gwefan lleol
Mae’r Carnegie UK Trust a Cooperatives y D.U. yn trefnu cyfarfod/cyflwyniad i’r rhai sydd am gychwyn co-op cyfryngau er mwyn darparu newyddion lleol. Mae ‘na sesiwn ar yr 28ain o Fehefin 2013 yng Nghaerdydd ac un arall yn Crewe (sy’n fwy gyfleus o’r Gogledd) ar y 26ain o Fehefin. Make the News yw enw’r sesiynau… Parhau i ddarllen Cymorth i gychwyn gwefan lleol
Cyfle i godwyr ifanc, 1-2 Mehefin 2013
Mae Young Rewired State (@youngrewired) yn trefnu digwyddiad yn Nhrefynwy ar 1-2 Mehefin i godwyr ifainc. https://youngrewiredstate.org/events/gb/2013/yrs-wales Gallai fod yn gyfle i rai hŷn gyfrannu hefyd gan eu bod yn chwilio am fentoriaid.
Ymgynghoriad ar gyfer blogwyr parthed rheoleiddio’r wasg
Maddeuwch i mi am y torri a gludo, ond rwyf newydd dderbyn yr ebost isod, sy’n cyfeirio at gyfarfod heddiw (yn Llundain a thros Skype) a all fod o ddiddordeb i rai yma. Mae’r ebost oddiwrth y Media Reform Coalition (MRC), sydd gyda pryderon ynglŷn â mesurau newydd i reoli’r wasg, ac yn benodol sut… Parhau i ddarllen Ymgynghoriad ar gyfer blogwyr parthed rheoleiddio’r wasg
Cyfarfod i drafod ‘Y Dinesydd 24/7’, yn Chapter, Caerdydd 7/4/13
Efallai i chi gofio i ni drefnu Hacio’r Iaith Bach: Newyddion lleol yn y ddinas ym mis Mai 2012. Roedd hi’n noson dda. I’r rhai a fynychodd y noson honno, efallai bydd y canlynol o ddiddordeb i chi: Newyddion a Chwaraeon Lleol Blogiau Adolygiadau Bwytai a Thafarndai Cymdeithasau a Mudiadau Rhwydweithiau Cymdeithasol Busnesau Lleol Digwyddiadur… Parhau i ddarllen Cyfarfod i drafod ‘Y Dinesydd 24/7’, yn Chapter, Caerdydd 7/4/13
Dr Jeremy Evas – Y Gymraeg mewn oes ddigidol (Recordiad)
Y mis diwethaf es i i weld cyflwyniad gan Dr Jeremy Evas o’r enw Y Gymraeg mewn oes ddigidol. Mae Jeremy wedi rhannu’r cyflwyniad, yr awdio a’r ddogfen sydd yn mynd gyda phopeth. Diolch Jeremy. Dyma’r awdio ar Soundcloud. Dyma’r ddogfen gyda gwybodaeth cefnogol ar Scribd: Y Gymraeg mewn oes ddigidol/Welsh in a digital Age… Parhau i ddarllen Dr Jeremy Evas – Y Gymraeg mewn oes ddigidol (Recordiad)
Archif papurau newydd Cymru – dros 100 o deitlau ar wefan Llyfrgell Genedlaethol
Llun o’r Gwladgarwr, mis Rhagfyr 1884 Mae Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn sganio a digido hen bapurau newydd o Gymru gan gynnwys dros 100 o deitlau gwahanol yn Saesneg ac yn Gymraeg. Bydd y casgliad ar gael i bawb cyn hir. Yn y cyfamser maen nhw newydd gwahodd pobl sy’n mynychu’r Hacathon ar ddydd Gwener… Parhau i ddarllen Archif papurau newydd Cymru – dros 100 o deitlau ar wefan Llyfrgell Genedlaethol
Hacio'r Iaith Bach, Rhuthun – 8.11.12
Yn dilyn cyffro cyhoeddi Hacio’r Iaith 2013 yr wythnos diwethaf, dw i am drefnu Hacio’r Iaith Bach yn Rhuthun. Does dim Hacio’r Iaith Bach wedi bod yn y gogledd ddwyrain eto, felly byddai’n braf cwrdd a gîcs yr ardal. Os ydych ar gael nos Iau yma (8fed o Dachwedd), ac eisiau trafod technoleg, y we ac iaith, galwch… Parhau i ddarllen Hacio'r Iaith Bach, Rhuthun – 8.11.12