Tagiwyd fel: Facebook Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 9:01 PM ar 29 June 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: Facebook, ,   

    Myspace – gwersi am ansicrwydd platfformau am ddim 

    Mae Specific Media wedi prynu Myspace. http://paidcontent.org/article/419-specific-media-buys-myspace-for-35-million-news-corp.-to-retain-stake/

    Meddyliau…

    Roedd Myspace yn ‘cŵl’ am gyfnod. Nawr dyw e ddim. Mae rhai o bobol dal yn ei defnyddio ond beth yw dyfodol y cynnwys a dy broffil ayyb? Does dim gwarant.

    Does dim gwahaniaeth mawr chwaith rhwng rhywbeth fel Myspace a rhywbeth fel Facebook neu Twitter yn fy marn i. Mae Facebook yn bywiog nawr ac yn pwerus – rhy pwerus – ond… roedd AOL am gyfnod.

    Dyma’r peryg gydag unrhyw beth dan un cwmni platfform heb berthynas ‘cwsmer’ gyda ti, fi, ni. A’r peryg i gynnwys Cymraeg. Dyma pam dw i’n pryderi am raglennu teledu heb unrhyw bresenoldeb tu fas o’r we dros dro.

    O leiaf mae Soundcloud, WordPress a Flickr yn gynnig gwasanaethau am dal, gydag opsiwn am ddim. Mae grŵp o gwsmeriaid go iawn gyda hawliau.

    O ran rhwydweithiau cymdeithasol rydyn ni angen gwasanaethau i fod mwy fel blogiau – confensiwn/safon agored yn hytrach nag un cwmni gyda’i gwe fach ei hun. Yn y byd cyfryngau cymdeithasol blogiau yw’r unig dechnoleg aeddfed, e.e. mae Dafydd wedi rhedeg ei flog ers 2005 – mae fe’n ychwanegu stwff i’r we. Ond o ran y weledigaeth o adeiladu byd llawn o gynnwys Cymraeg, y freuddwyd, dw i’n teimlo fel bod Facebook yn wastraff o amser.

     
  • Carl Morris 3:24 PM ar 8 March 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: Facebook   

    Facebook: paid â chreu proffil person os ti angen tudalen cwmni neu ymgyrch 

    O’n i’n disgwyl mwy o bobol i ddysgu a dechrau defnyddio Facebook yn ffordd effeithiol. Ond dim eto.

    Newydd gweld hwn heddiw
    Achub Wedi Tri (person?!) http://www.facebook.com/#!/profile.php?id=100002139583154

    Enghreifftiau eraill o’r camgymeriad
    Golwg Tri Chwech Dim (person?!) http://www.facebook.com/#!/profile.php?id=100000708913621
    Volcano Swansea (person?!) http://www.facebook.com/profile.php?id=1227107957&sk=info
    Buffalo Bar (person?!) http://www.facebook.com/home.php#!/profile.php?id=586561585

    Plis paid â chreu proffil person os ti angen tudalen cwmni neu ymgyrch.

    Enghreifftiau o ddefnydd da
    Y Twll (tudalen) http://www.facebook.com/ytwll
    fideobobdydd (tudalen) http://www.facebook.com/fideobobdydd
    Y Lle (tudalen) http://www.facebook.com/yllearywe

    Pam?

    • Terfyn ffrindiau gyda phroffil: 5000, dim terfyn gyda thudalen
    • Preifatrwydd: ti’n gofyn pobol am fynediad i’u proffiliau preifat, dim mynediad gyda thudalen
    • Weithiau ti’n edrych fel spamwr i Facebook ac yn defnyddio yn erbyn eu termau ac amodau
    • Ti’n gallu penodi gweinyddwyr gwahanol i dudalen, does dim rhaid iddyn nhw logio mewn dan yr enw arall
    • Nodweddion perthnasol i dy gwmni, ymgyrch, ayyb
    • A mwy…

    Creu tudalen
    http://www.facebook.com/pages/create.php?campaign_id=372931622610&placement=pghm&extra_1=0

    A/neu blog go iawn 🙂
    http://cy.wordpress.com

    DIWEDDARIAD 10/06/2011: Mae e’n bosib newid proffil personol i dudalen Facebook o’r diwedd! https://www.facebook.com/pages/create.php?migrate (darllena’r manylion cyn i ti wneud e)

     
    • Nic Dafis 7:41 PM ar 9 Mawrth 2011 Dolen Barhaol

      Dw i wedi bod yn anwybyddu bob ymgais ffrind ar Facebook sy ddim yn dod o berson go iawn ers sbel. Er cymaint dw i’n hoffi Tŷ Newydd, er enghraifft, dw i ddim yn ffrind iddo. Mae e’n dŷ.

  • Carl Morris 6:19 PM ar 19 November 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , Facebook,   

    Facebook vs. Y we agored – neges bwysig gan Tim Berners-Lee 

    Your social-networking site becomes a central platform—a closed silo of content, and one that does not give you full control over your information in it. The more this kind of architecture gains widespread use, the more the Web becomes fragmented, and the less we enjoy a single, universal information space.

    http://www.scientificamerican.com/article.cfm?id=long-live-the-web&page=2

    100% cytuno. Am y we Gymraeg yn enwedig.

    In contrast, not using open standards creates closed worlds. Apple’s iTunes system, for example, identifies songs and videos using URIs that are open. But instead of “http:” the addresses begin with “itunes:,” which is proprietary. You can access an “itunes:” link only using Apple’s proprietary iTunes program. You can’t make a link to any information in the iTunes world—a song or information about a band. You can’t send that link to someone else to see. You are no longer on the Web. The iTunes world is centralized and walled off. You are trapped in a single store, rather than being on the open marketplace. For all the store’s wonderful features, its evolution is limited to what one company thinks up.

    Other companies are also creating closed worlds. The tendency for magazines, for example, to produce smartphone “apps” rather than Web apps is disturbing, because that material is off the Web. You can’t bookmark it or e-mail a link to a page within it. You can’t tweet it. It is better to build a Web app that will also run on smartphone browsers, and the techniques for doing so are getting better all the time.

    Some people may think that closed worlds are just fine. The worlds are easy to use and may seem to give those people what they want. But as we saw in the 1990s with the America Online dial-up information system that gave you a restricted subset of the Web, these closed, “walled gardens,” no matter how pleasing, can never compete in diversity, richness and innovation with the mad, throbbing Web market outside their gates. If a walled garden has too tight a hold on a market, however, it can delay that outside growth.

     
    • Hywel 8:37 PM ar 19 Tachwedd 2010 Dolen Barhaol

      Rwy’n cytuno 100%. Rwy’n cofio AOL yn y 1990au. Collon nhw eu mantais am fod y byd y tu allan i’r wal wedi tyfu’n gyflymach. Rhaid gobeithio y bydd datblygwyr yn gweld mantais o osgoi Apple a Facebook. Byd cul iawn fydd e os bydd eu llwyddiant yn parhau.

    • Iestyn 10:50 PM ar 19 Tachwedd 2010 Dolen Barhaol

      Yn cytuno 50%. Mae peth o iTunes i’w weld rwan ar y we (yr apps i gyd). Mae na bosibilrwydd fydd iTunes yn gallu fod un hollol agored ag i’w weld ar y we gan ei fod wedi ei adeladu efo XML. Ond fel mae pethau ar y funud mae’n angenrheidiol i iTunes fod yn rhaglen o fewn ‘wal’. Gafodd iTunes ei greu oherwydd yr iPod ag mae’n hollol iawn i brynu CD ag rhoi’r cerddoriaeth yn iTunes. Mi allwch hefyd lawrlwytho cerddoriaeth o Amazon, 7 Digital a rhanfwyaf or we os yw’r cerddoriaeth yn DRM free, fel mae o ar iTunes.
      O ran yr App Store, mae o ar gau mewn ffordd ond yn gwneud bywyd llawer yn haws i’r cwsmeriaid, ag yn ffordd i developer gael ei raglen o flaen miliynau. Ag os ydych yn meddwl mai Android di’r ffordd, edrychwch i mewn i’r problemau mae’r developers di gael i gael ei apps i weithio ar handsets wahanol.
      Ddim llawer o farn am Facebook.

  • Carl Morris 6:18 PM ar 13 October 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , Facebook, iTunes, Maes-e, ,   

    Sgwrs am ffeindio cerddoriaeth Cymraeg arlein gyda @amrwd 

    Mae Jazzfync a Gemau Fideo yn podlediad wych.

    Ro’n i’n mynd i bostio hwn (cyn iddyn nhw sôn am Y Twll) – sgwrs am ffeindio cerddoriaeth a bandiau newydd trwy Maes-E, Myspace a Facebook.

    Gwranda – rhaglen 6 ar
    http://podcast.amrwd.com (sgwrs yn dechrau 34:00, tan 43:00)

    blog y podlediad
    http://jffgf.tumblr.com

     
  • Carl Morris 11:34 PM ar 3 September 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , Facebook, FOI, , ,   

    Llywodraeth Cymru v Facebook 

    Llywodraeth Cymru v Facebook a phlatfformau rhwydwaith cymdeithasol

    The Welsh Assembly Government employs filtering software on its ICT systems which actively block any attempt to access web-sites categorised as inappropriate. Social Networking sites are captured by this software, and as a result there have been no incidents of staff accessing any of the sites you name.

    Oh da iawn.

    Heblaw ffonau poced ac Ubuntu ar co’bach.

    Fy prif bwynt: os wyt ti erioed wedi meddwl pam bod cyfathrebu arlein y Llywodraeth yn wael, dyna’r ateb.

    Dyw’r staff ddim yn gallu cael mynediad i declynnau cyfathrebu achos mae’r Llywodraeth yn meddwl bod nhw yn fabanod.

    Datganiad: dw i wedi gwneud gwaith i’r Llywodraeth Cymru fel ymgynghorydd ond dw i’n hapus i siarad am eu methiannau nhw i ddatblygu’r defnydd arlein yng Nghymru (ond allen nhw ymweld haciaith.cymru o gwbl?).

    Testun o gais FOI
    http://wales.gov.uk/publications/accessinfo/disclosurelogs/dlgov2010/2010/dlgov64/?skip=1&lang=cy
    (Dim fersiwn Cymraeg ar gael ar hyn o bryd yn anffodus.)

     
    • hywel 12:03 AM ar 4 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Hacio has made leaps forward in on-line dialogue with issues and now it seems the assembly is blind to a generation that may enquire democratic questions through the Welsh language. Siom ofnadwy

    • Rhodri ap Dyfrig 10:06 PM ar 6 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Ysgrifennodd Stephanie Booth am y diffyg parhaol hyn mewn dealltwriaeth o’r dulliau posib o gyfathrebu yn ei erthygl (Ffrangeg) “Lisez le Cluetrain Manifesto”. Dyma gyfieithiad Saesneg (mae’r un Cymraeg yn annealladwy yn anffodus).

    • Carl Morris 10:25 AM ar 7 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Mae gwaith a thechnoleg yn gallu cymysgu. Dylen nhw gymysgu.
      e.e. mae’r BBC yn defnyddio platfformau rhwydwaith cymdeithasol, dyma’r canllaw staff BBC.
      http://www.bbc.co.uk/guidelines/editorialguidelines/assets/advice/personalweb.pdf

      Dw i newydd wedi siarad am Cluetrain bore ‘ma!

  • Carl Morris 11:26 PM ar 23 August 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: Bws Caerdydd, , Facebook   

    Bws Caerdydd a gwasanaeth dwyieithog arlein 

    Neu diffyg.
    http://www.facebook.com/cardiffbus?v=wall&story_fbid=456408851638

     
  • Rhys Wynne 9:42 PM ar 5 August 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , Catalonia, , Facebook, Generalitat, , ,   

    Rheoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth 

    Yn dilyn ar thema tebyg i’r cofnod diwetha am WalesHome yn cyhoeddi erthyglau Cymraeg yn ogystal a Saesneg, dyma fi’n darllen cofnod blog o Gatalonia gan MarcG am reoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth (mae cyfieithiad es>en yn fwy darllenadwy na ca>cy). Ynddo mae’n sôn am ddogfen canllaw gan Lywodraeth Catalonia er mwyn cysoni’r defnydd o gyfrifon gwasanaethau rhwydweithiau cymdeithasol y sefydliad.  Dyma’r blyrb swyddogol (yn Saesneg, gan bod y sefydliad yn gweithredu’n dairieithog):

    The Government of Catalonia has prepared the Handbook of writing and style of  the Virtual Procedures Office (VPO) and the Style and usage guide of the Government of Catalonia’s social networks. The handbook explains to the responsibles of VPO the guidelines for the correct way of communicating whereas the guide is published with the intention of providing some common guidelines to enable the Government of Catalonia’s departments, services and brands to present themselves in a coherent, standardised manner.

    Bron i flwyddyn yn ôl, cyhoeddwyd dogfen o’r enw Goblygiadau gwe2.0 ar gyfer gwefannau dwyieithog – tuag at arfer gorau, gan Daniel Cunliffe. Soniodd Daniel amdano ar ei flog, af fe flogiodd Rhodri ap Dyfrig amdano ar Metastwnsh. Pwrpas y ddofgen oedd codi cwestiynnau yn hytrach na chynnig canllawiau.

    Yn ei gofnod blog, mae MarcG yn cymharu sut mae tri sefydliad cyhoeddus yng Nghatalonia a Gwald y Basg yn trin ieithoeddedd ar wahanol wasnaethau Gwe2.0.  Y tri oedd Llywodraeth Catalonia,  Amgueddfa Picasso a gwefan Irekia (gwefan tebyg i Your Freedom ar gyfer Llywodraeth Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Euskadi) – jyst ddim mor ffaeledig!).

    Beth sy’n ddiddorol yw, tra bod bron pob sefydliad yn Nghymru (sy’n cymryd eu polisi iaith o ddifri) wedi mynd am yr opsiwn o greu cyfrifon cwbl ar wahan ar gyfer Cymraeg a Saesneg, mae’r tri yn astudiaeth MarcG yn cadw un cyfrif yn unig ac yn ei ddefnyddio ar gyfer tair iaith.  Tydy hynny ddim yn golygu bod y dair iaith yn cael eu trin yr un fath – mae Llywodraeth Catalonia yn tueddu cyhoeddi mewn Catalaneg yn bennaf gan mai dyna yw ‘prif iaith’, mae Amgueddfa Picassa yn tueddu i ddefnddio Saesneg yn bennaf gan bod 70% o’r ymwelwyr yn dod o du allan i Sbaen, gan ddefnyddio’r ddwy iaith arall yn dibynnu os yw’r pwnc yn berthnasol i Sbaen gyfan neu i Gatalonia’n benodol.  Yn ôl Llywodgraeth Euskadi, cadwir yr ieithoedd gyda’i gilydd er mwyn (cyfieithiad Google):

    The idea of having multiple profiles (in Facebook and Twitter ) on each language was rejected by “coexistence and normalization”, ie separating not only divided the followers causes and complicates the management but also as pointing from us Euskadi, not promoted the normalization and coexistence of the two co-official languages.

    Beth ydach chi’n feddwl o’r syniad o gymysgu ieithoedd fel hyn? Rhaid i fi ddweud mod i’n blino o weld yr un peth yn cael ei ddweud ddwywaith gan gyfrifon Twitter sy’n postio’n gyfan gwbl ddwyieithog.  Ydy cael cyfrifon ar wahan ar sail iaith yn golygu nad yw yr iaith lleiafrifol yn cael ei ‘phrif-ffrydio’?

     
    • Dafydd Tomos 11:10 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Well gen i gadw pethau ar wahan ar wefannau a Twitter. Dwi ddim yn defnyddio Facebook digon i wybod ond dwi’n amau fod e’n well ar wahan fan yna hefyd. Mae cymysgu iaith ar yr un dudalen yn gwneud hi’n anoddach i chwilotwyr fel Google allu hidlo tudalennau heblaw fod y testun wedi ei farcio gyda cod iaith (sydd ddim yn bosib ar lawer o wefannau rhwydweithio, ond yn bosib iawn mewn CMSes perchnogol).

      Dwi’n gwybod fod dadl fod dangos y Gymraeg yn helpu codi ymwybyddiaeth a normaleiddio yr iaith ond fe ddylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gyfer y Cymry Cymraeg yn bennaf nid i addysgu’r di-Gymraeg! Er fod y cwynion ystrydebol o ‘arwyddion dwyieithog’ yn drysu pobl – dwi’n meddwl fod y rhan fwyaf o bobl sy’n byw yng Nghymru yn dysgu hidlo allan testun Cymraeg yn reit rhwydd. Mae e’n anweledig iddyn nhw hyd yn oed pan mae mewn golwg plaen.

      Dwi ddim yn gwybod y sefyllfa mewn gwledydd amlieithog eraill ond mae rhyw ddiwylliant yng Nghymru lle mae pobl yn penderfynu (neu’r penderfyniad yn cael ei wneud drostynt) fod y Gymraeg yn diflannu o’i bywyd ar rhyw oed arbennig a wnewch chi ddim eu denu nhw nôl drwy wthio’r iaith arnyn nhw ar bob cyfle. Mae e fyny i unigolion wneud y dewis o ddysgu neu ail-ddysgu’r iaith a dwi’n gweld fod angen gwneud hynny drwy brosiectau neu ddigwyddiadau diwylliannol. Fel arall dwi jyst yn meddwl fod pobl yn anwybyddu unrhyw destun Cymraeg o’i blaen yn gwbl ddiymwybod felly dyw cyfuno ieithoedd ddim yn cael effaith bositif. (ond barn yw hwn nid canfyddiad o ymchwil empiraidd).

  • Carl Morris 4:10 PM ar 29 April 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , Facebook, ,   

    Cymraeg a Facebook yn y Western Mail (erthygl lawn) 

    Trafodwch. Dydy Facebook ddim yn cyfrannu i’r broblem CYNNWYS agored ar y we. Mae cynnwys agored yn golygu agored i chwilio (Google ayyb) am blyneddoedd gyda dolenni.

    Facebook ‘could point the way for the Welsh language’; Study claims site is proving to be vital for delivering boost

    Claire Miller. Western Mail. Cardiff (UK): Apr 26, 2010. pg. 3

    Full Text (688 words)

    (Copyright 2010 Western Mail and Echo Ltd.)

    FACEBOOK could be the key to the Welsh language surviving and thriving, an academic study has claimed.

    Daniel Cunliffe, who carried out the study with Courtenay Honeycutt, said postings on the social networking site showed people becoming more accustomed to using Welsh in their everyday life and might give others the confidence to join the conversation, giving the language a boost.

    The researchers had set out to study the use of Welsh on the social networking site and found a thriving community.

    “The fact that the language is used on these sites makes people feel good about the language,” said Dr Cunliffe, of the University of Glamorgan.

    “There certainly seems to be a vibrant Welsh community on Facebook and that’s an encouraging thing.”

    The study looked at groups on Facebook where users communicated in Welsh and found, at the time of the study, 236 groups with an average of 398 members each, with the most central group in the network called How Many People Speak Welsh?.

    In 41.5% of these groups users communicated only in Welsh, with participants discussing a range of topics from sport and music, to student groups and organisations.

    The study also looked at profiles of users of the groups and found 58% of people used either just Welsh or Welsh and English for their personal details, although 29% of people had listed their details in English while having wall conversations in Welsh.

    Dr Cunliffe, who is based at the Department of Computing and Mathematical Sciences, at the University of Glamorgan, said: “What’s interesting is in those groups where Welsh is being used, they seem to have more than double the number of Welsh speakers than the proportion in Wales.

    “It appears to be an important forum for bringing together Welsh speakers.”

    Dr Cunliffe said the thriving community may encourage more people to use their language skills even if they have not been confident in the past.

    “One of the nice things about this more informal environment is that people aren’t that hung up on the correct use of the language,” he said. “It’s not going to be hostile if their spelling isn’t right or they use an English word because they can”t think of the Welsh one.”

    He is now keen to find out if young people who have attended Welsh-medium schools are using the language in their wall posts and text messages Aran Jones, who runs the website saysomethinginwelsh.com, said his experience of using Welsh on Facebook had been mixed.

    “A lot of people are coming under pressure to not use only Welsh as they have English speaking friends,” he said. “I’ve put up Facebook updates in Welsh and had friends say, ‘I can’t understand, can you write it in English’.

    “It’s a weird flashback to the 1950s or 1960s when if you spoke Welsh there was pressure to speak English.”

    However, he said use of the language on the site could help people who do not speak Welsh see that it is a thriving community language.

    Facebook has chosen to embrace the language, with speakers able to choose to experience the site in Welsh after volunteers helped to translate the site.

    The Welsh Language Society is keen to see other businesses embrace their users’ enthusiasm for the language in order to get sites translated.

    Vice-chairman Rhys Llwyd said: “The translation of Facebook into Welsh in such a small period of time by hundreds of volunteers was an amazing feat. It showed us that people, when given the chance, want to use their Welsh in all aspects of life including the latest technological developments such as social networks.

    “Having said that, Welsh Language Society members see it bizarre that social and entertainment services such as Facebook become available in Welsh before basic day-to-day services such as online banking.

    “Although it’s fun to Poke my friend and write on my brother’s wall in Welsh on Facebook, it would be more useful to be able to use my bank’s on-line service in my mother tongue.”

     
  • Carl Morris 11:21 AM ar 27 April 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , Blackboard, , , , , Facebook, , Moodle, , ,   

    Adroddiad a sgyrsiau: Hacio’r Iaith Bach, Ebrill 2010, Caerdydd (un gair: ardderchog) 

    Aethon ni i Chapter, Caerdydd neithiwr (26 mis Ebrill 2010) am Hacio’r Iaith Bach – sesiwn sgwrs anffurfiol iawn. Diolch i bawb am ddod. Ces i amser da iawn. Neis i cwrdd â bobol ar y tro cyntaf.

    Pynciau wnaethon ni trafod:

    • Moodle, Blackboard a systemau i bobol sy’n dysgu/addysgu Cymraeg
    • addysg a chynnwys (chwilio am Glantaf ar YouTube, dim digon o Gymraeg – canlyniadau siomedig)
    • syniad am diwrnod/wythnos i dathlu Cymraeg arlein a hybu creu cynnwys (“Pethau Bychain” – rhywbryd eleni)
    • ymchwil Daniel Cunliffe a Courtenay Honeycutt, erthygl am Facebook yn y Western Mail (rhan bach o’r erthygl arlein)
    • Rhyngwynebau Cymraeg a chynnwys Cymraeg, oes unrhyw cysylltiad ystadegol? Pa mor pwysig yw rhyngwynebau Cymraeg gyda disgwyliadau/canfyddiadau? Ydy pobol yn creu mwy o gynnwys Cymraeg pan maen nhw yn defnyddio rhyngwynebau Cymraeg? (Angen ymchwil caled plis!) e.e. Facebook. Ond, enghraifft arall: YouTube, paid aros am byth am gyfieithiad y rhyngwyneb cyn lanlwytho dy fideos!
    • Windows a meddalwedd swyddfa ayyb yn Gymraeg. Sut i newid dy Windows
    • Democratiaeth, Etholiad 2010 a The Straight Choice
    • Dr Cocos a Salwch Snobs, iPhone app ar gyfer plant bach
    • Syniad am wefan: cwyno am wasanaeth Cymraeg
    • Arduino a hacio caledwedd (cofnod ar y ffordd gobeithio rhywle)
    • Gemau / mods
    • Hacio’r Iaith a sesiynau anffurfiol agored

    Dw i ddim wedi sgwennu popeth yma siŵr o fod. Mae sylwadau yn agor isod.

    Roedd Hacio’r Iaith Bach yn HAWDD IAWN i drefnu! Hoffwn i weld pethau tebyg gyda’r un enw neu enwau gwahanol ledled Cymru. (Sut? 1. Gofynwch un neu dau ffrind am dyddiad/lleoliad; 2. Postiwch y manylion arlein fel sesiwn agored am ddim; 3. Ewch a siarad! Dau neu tri person yw digon ond byddwch yn agored i bobol newydd.)

    Gobeithio dyn ni’n gallu trefnu rhywbeth debyg yn y dyfodol. Bydden ni ychwanegu manylion i’r tudalen digwyddiadau ar wici Hedyn.

     
  • Carl Morris 11:37 PM ar 26 April 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , Cysgair, , Excel, Facebook, , To Bach, , Word   

    Sut i newid dy feddalwedd i Gymraeg – Windows, Word, Excel, Office, Facebook, Cysill, Cysgair, To Bach 

    Fideo cynorthwyol i bobol sy ddim yn gwybod sut i newid feddalwedd i Gymraeg

     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel