Tagiwyd fel: Your Freedom Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 3:28 PM ar 14 September 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , Your Freedom   

    Clegg, Your Freedom a lleoleiddio am £120,000 

    http://www.theyworkforyou.com/wrans/?id=2010-09-08b.11259.h&s=welsh+your+freedom#g11259.r0

    Three potential options were considered for translating the content of Your Freedom in to other languages. Firstly, re-architecting the current system, so that it can handle multiple languages. This would mean that users could view a translated version of the site that would mirror the current site but would not translate any user generated content. While this was the best option in terms of giving equal experience to English and other language speakers, because it would involve significant changes to an off-the-shelf-product, the costs were prohibitive at £120, 000 (more than 37 times the cost of the original Your Freedom application).

    Anhygoel.

    (Cofnodion eraill am Your Freedom)

    YCHWANEGOL: ro’n i’n meddwl basai cofnod yn well gyda’r diwedd:

    Secondly, we looked at producing a static page to the existing site copy in other languages and a box into which comments/ideas could be entered. This would have ensured that ideas and comments of those submitting in other languages were gathered. However, the cost of this option was disproportionate at £1, 800 per language, or more than 50% the cost of the original application.

    Thirdly, we considered incorporating a sentence of copy at the bottom of the home page text, linking people to a freely-available online translation tool. While cost-free, none of the tools available was judged to be sufficiently accurate.

    Having considered options for translation of the content, it was decided that a better approach would be to enable users to submit ideas, which could then be. translated before passing on to officials working on processing and evaluating contributions. At the moment, this option is only available to Welsh speakers. Translation is being provided by the Wales Office.

     
    • Dafydd Tomos 6:17 PM ar 14 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Swnio fel fod cwmni Delib yn cymryd y pys. Mae nhw wedi defnyddio Plone i greu ‘app’ arbennigol sydd wedi cymryd tipyn o amser mae’n sicr. Mae gan Plone gefnogaeth da ar gyfer lleoleiddio, felly sut mae nhw’n cyrraedd £120k i’w addasu?

    • Carl Morris 2:26 PM ar 15 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Cytuno ond mae unrhyw gwmni yn gallu. Caveat emptor. Ydy Nick Clegg a’r adran yn gallu gweld o gwbl pa mor ridiculous yw’r pris?

      Oes gyda ni problem yn y DU gyda chyllideb o brojectau technoleg yn y sector cyhoeddus? Oes, dw i’n meddwl.

    • Dafydd Tomos 9:43 PM ar 16 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Dyw’r ffaith eu bod nhw wedi defnyddio Plone ddim yn golygu fod ei app nhw yn agored. Yn wir, ‘hosted app’ yw e o dan eu rheolaeth llwyr nhw. Dyna’r broblem gyda’r myth fod angen defnyddio open source er mwyn sicrhau nad yw rhywun wedi ei glymu i un cwmni. Mae nhw eisiau dweud bod nhw’n defnyddio system agored ond yn wir mae gymaint o ‘vendor lock-in’ a unrhyw beth arall.

      Mae yna casgliad o gyrff cyhoeddus yn Lloegr wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio meddalwedd ‘open source’. Ond perchnogol yw mewn gwirionedd (ond mewn LAMP felly yn agored!) a mae nhw’n talu degau o filoedd y mis am gefnogaeth y cwmni sy wedi datblygu’r meddalwedd.

      Mae pobl yn meddwl eu bod nhw’n gallu arbed arian, ond mae nhw’n newid un ffordd o dalu am y llall (un cost am ddatblygu gwefan unwaith a symiau bach o arian i’w gefnogi dros y tymor hir, NEU ‘app’ sy’ wedi ei ddatblygu am un pwrpas yn unig gyda costau ychwanegol i’w roi ar weinydd, cefnogaeth technegol ayyb).

      Mae cyrff cyhoeddus yn hoffi’r ail ddewis achos mae’n osgoi cyfrifoldebau mewnol i gynnal y gwasanaeth ac yn ticio blwch ‘service continuity’ .

      Yn y gwaith, ni’n cyflenwi CMS perchnogol amlieithog, ond ni’n ddigon hyblyg i’w addasu neu ei ddatblygu ymhellach am bris rhad iawn. Mae hyn yn llawer mwy effeithiol na trio addasu rhyw feddalwedd monolithig ‘bant o’r silff’..

      Diwedd y rant.

  • Rhys Wynne 9:42 PM ar 5 August 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , Catalonia, , , Generalitat, , , Your Freedom   

    Rheoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth 

    Yn dilyn ar thema tebyg i’r cofnod diwetha am WalesHome yn cyhoeddi erthyglau Cymraeg yn ogystal a Saesneg, dyma fi’n darllen cofnod blog o Gatalonia gan MarcG am reoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth (mae cyfieithiad es>en yn fwy darllenadwy na ca>cy). Ynddo mae’n sôn am ddogfen canllaw gan Lywodraeth Catalonia er mwyn cysoni’r defnydd o gyfrifon gwasanaethau rhwydweithiau cymdeithasol y sefydliad.  Dyma’r blyrb swyddogol (yn Saesneg, gan bod y sefydliad yn gweithredu’n dairieithog):

    The Government of Catalonia has prepared the Handbook of writing and style of  the Virtual Procedures Office (VPO) and the Style and usage guide of the Government of Catalonia’s social networks. The handbook explains to the responsibles of VPO the guidelines for the correct way of communicating whereas the guide is published with the intention of providing some common guidelines to enable the Government of Catalonia’s departments, services and brands to present themselves in a coherent, standardised manner.

    Bron i flwyddyn yn ôl, cyhoeddwyd dogfen o’r enw Goblygiadau gwe2.0 ar gyfer gwefannau dwyieithog – tuag at arfer gorau, gan Daniel Cunliffe. Soniodd Daniel amdano ar ei flog, af fe flogiodd Rhodri ap Dyfrig amdano ar Metastwnsh. Pwrpas y ddofgen oedd codi cwestiynnau yn hytrach na chynnig canllawiau.

    Yn ei gofnod blog, mae MarcG yn cymharu sut mae tri sefydliad cyhoeddus yng Nghatalonia a Gwald y Basg yn trin ieithoeddedd ar wahanol wasnaethau Gwe2.0.  Y tri oedd Llywodraeth Catalonia,  Amgueddfa Picasso a gwefan Irekia (gwefan tebyg i Your Freedom ar gyfer Llywodraeth Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Euskadi) – jyst ddim mor ffaeledig!).

    Beth sy’n ddiddorol yw, tra bod bron pob sefydliad yn Nghymru (sy’n cymryd eu polisi iaith o ddifri) wedi mynd am yr opsiwn o greu cyfrifon cwbl ar wahan ar gyfer Cymraeg a Saesneg, mae’r tri yn astudiaeth MarcG yn cadw un cyfrif yn unig ac yn ei ddefnyddio ar gyfer tair iaith.  Tydy hynny ddim yn golygu bod y dair iaith yn cael eu trin yr un fath – mae Llywodraeth Catalonia yn tueddu cyhoeddi mewn Catalaneg yn bennaf gan mai dyna yw ‘prif iaith’, mae Amgueddfa Picassa yn tueddu i ddefnddio Saesneg yn bennaf gan bod 70% o’r ymwelwyr yn dod o du allan i Sbaen, gan ddefnyddio’r ddwy iaith arall yn dibynnu os yw’r pwnc yn berthnasol i Sbaen gyfan neu i Gatalonia’n benodol.  Yn ôl Llywodgraeth Euskadi, cadwir yr ieithoedd gyda’i gilydd er mwyn (cyfieithiad Google):

    The idea of having multiple profiles (in Facebook and Twitter ) on each language was rejected by “coexistence and normalization”, ie separating not only divided the followers causes and complicates the management but also as pointing from us Euskadi, not promoted the normalization and coexistence of the two co-official languages.

    Beth ydach chi’n feddwl o’r syniad o gymysgu ieithoedd fel hyn? Rhaid i fi ddweud mod i’n blino o weld yr un peth yn cael ei ddweud ddwywaith gan gyfrifon Twitter sy’n postio’n gyfan gwbl ddwyieithog.  Ydy cael cyfrifon ar wahan ar sail iaith yn golygu nad yw yr iaith lleiafrifol yn cael ei ‘phrif-ffrydio’?

     
    • Dafydd Tomos 11:10 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Well gen i gadw pethau ar wahan ar wefannau a Twitter. Dwi ddim yn defnyddio Facebook digon i wybod ond dwi’n amau fod e’n well ar wahan fan yna hefyd. Mae cymysgu iaith ar yr un dudalen yn gwneud hi’n anoddach i chwilotwyr fel Google allu hidlo tudalennau heblaw fod y testun wedi ei farcio gyda cod iaith (sydd ddim yn bosib ar lawer o wefannau rhwydweithio, ond yn bosib iawn mewn CMSes perchnogol).

      Dwi’n gwybod fod dadl fod dangos y Gymraeg yn helpu codi ymwybyddiaeth a normaleiddio yr iaith ond fe ddylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gyfer y Cymry Cymraeg yn bennaf nid i addysgu’r di-Gymraeg! Er fod y cwynion ystrydebol o ‘arwyddion dwyieithog’ yn drysu pobl – dwi’n meddwl fod y rhan fwyaf o bobl sy’n byw yng Nghymru yn dysgu hidlo allan testun Cymraeg yn reit rhwydd. Mae e’n anweledig iddyn nhw hyd yn oed pan mae mewn golwg plaen.

      Dwi ddim yn gwybod y sefyllfa mewn gwledydd amlieithog eraill ond mae rhyw ddiwylliant yng Nghymru lle mae pobl yn penderfynu (neu’r penderfyniad yn cael ei wneud drostynt) fod y Gymraeg yn diflannu o’i bywyd ar rhyw oed arbennig a wnewch chi ddim eu denu nhw nôl drwy wthio’r iaith arnyn nhw ar bob cyfle. Mae e fyny i unigolion wneud y dewis o ddysgu neu ail-ddysgu’r iaith a dwi’n gweld fod angen gwneud hynny drwy brosiectau neu ddigwyddiadau diwylliannol. Fel arall dwi jyst yn meddwl fod pobl yn anwybyddu unrhyw destun Cymraeg o’i blaen yn gwbl ddiymwybod felly dyw cyfuno ieithoedd ddim yn cael effaith bositif. (ond barn yw hwn nid canfyddiad o ymchwil empiraidd).

  • Carl Morris 10:57 PM ar 9 July 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , San Steffan, Your Freedom   

    Mae Hywel Williams yn gofyn am Your Freedom Cymraeg 

    http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8800000/newsid_8805000/8805085.stm

    Chwarae teg ond mae’r wefan yn rwtsh!

    http://www.qwghlm.co.uk/2010/07/01/your-freedom-is-a-failure-how-to-make-it-better/

     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel