Facebook: paid â chreu proffil person os ti angen tudalen cwmni neu ymgyrch

O’n i’n disgwyl mwy o bobol i ddysgu a dechrau defnyddio Facebook yn ffordd effeithiol. Ond dim eto.

Newydd gweld hwn heddiw
Achub Wedi Tri (person?!) http://www.facebook.com/#!/profile.php?id=100002139583154

Enghreifftiau eraill o’r camgymeriad
Golwg Tri Chwech Dim (person?!) http://www.facebook.com/#!/profile.php?id=100000708913621
Volcano Swansea (person?!) http://www.facebook.com/profile.php?id=1227107957&sk=info
Buffalo Bar (person?!) http://www.facebook.com/home.php#!/profile.php?id=586561585

Plis paid â chreu proffil person os ti angen tudalen cwmni neu ymgyrch.

Enghreifftiau o ddefnydd da
Y Twll (tudalen) http://www.facebook.com/ytwll
fideobobdydd (tudalen) http://www.facebook.com/fideobobdydd
Y Lle (tudalen) http://www.facebook.com/yllearywe

Pam?

  • Terfyn ffrindiau gyda phroffil: 5000, dim terfyn gyda thudalen
  • Preifatrwydd: ti’n gofyn pobol am fynediad i’u proffiliau preifat, dim mynediad gyda thudalen
  • Weithiau ti’n edrych fel spamwr i Facebook ac yn defnyddio yn erbyn eu termau ac amodau
  • Ti’n gallu penodi gweinyddwyr gwahanol i dudalen, does dim rhaid iddyn nhw logio mewn dan yr enw arall
  • Nodweddion perthnasol i dy gwmni, ymgyrch, ayyb
  • A mwy…

Creu tudalen
http://www.facebook.com/pages/create.php?campaign_id=372931622610&placement=pghm&extra_1=0

A/neu blog go iawn 🙂
http://cy.wordpress.com

DIWEDDARIAD 10/06/2011: Mae e’n bosib newid proffil personol i dudalen Facebook o’r diwedd! https://www.facebook.com/pages/create.php?migrate (darllena’r manylion cyn i ti wneud e)

2 sylw

  1. Dw i wedi bod yn anwybyddu bob ymgais ffrind ar Facebook sy ddim yn dod o berson go iawn ers sbel. Er cymaint dw i’n hoffi Tŷ Newydd, er enghraifft, dw i ddim yn ffrind iddo. Mae e’n dŷ.

Mae'r sylwadau wedi cau.