Chydig o newyddion gan y Llywodraeth am ddatblygiadau defnydd technolegau newydd ym myd addysg Cymru: Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddwyd adroddiad y grŵp (Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth), ‘Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol’, a oedd yn cynnwys deg argymhelliad pwysig. Er mwyn sicrhau bod strategaeth… Parhau i ddarllen ‘Hwb’ ar ei ffordd i addysg yng Nghymru
Categori: Amrywiol
Labordy dyfeisiau agored ym Mhen-y-Bont gyda @cover_up
Mae amrywiaeth eang o ddyfeisiau symudol. Os wyt ti’n creu aps symudol neu gwefannau ac eisiau profi dy feddalwedd ar ddyfeisiau gwahanol mae’r cwmni Cover-Up ym Mhen-y-Bont yn cynnig labordy gyda llyfrgell o dua 100 dyfais gwahanol. Hefyd maen nhw yn hapus i groesawi unrhyw un am ddim – i gyd sydd angen ydy cofrestru… Parhau i ddarllen Labordy dyfeisiau agored ym Mhen-y-Bont gyda @cover_up
Llyfrau sain mp3 i blant, am ddim, gan wasg Y Dref Wen
Mae gwasg Y Dref Wen yn cyhoeddi llawer o gyfieithiadau Cymraeg o lyfrau poblogaidd i blant gan gynnwys y gwych Gryffalo, a nôl yn y dydd nhw oedd yn gyfrifol am drosiad Cymraeg fy hoff gomic – Tintin. Mae nhw rwan wedi rhoi 22 o lyfrau llafar neu lyfrau sain ar ffurf mp3 o rhai o’r… Parhau i ddarllen Llyfrau sain mp3 i blant, am ddim, gan wasg Y Dref Wen
Tu Chwith yn edrych am gyfraniadau ar y thema ‘digidol’
Dwi di cael ebost gan bobol cylchgrawn Tu Chwith sydd yn chwilio am gyfraniadau ar gyfer y gyfrol nesa. Mae’r thema’n berthnasol iawn i Hacio’r Iaith felly ewch amdani! Dyma’r manylion: Mae tuchwith yn chwilio am erthyglau (dim mwy na 2,000 o eiriau) sy’n trafod syniadaethau a theoriau digidol, trafodaethau ar sefyllfa Cymru a’r Gymraeg o safbwynt… Parhau i ddarllen Tu Chwith yn edrych am gyfraniadau ar y thema ‘digidol’
Dyddiad canlyniadau cyfrifiad – a chymunedau Cymraeg
Caiff ystadegau’r Cyfrifiad 2011 ar y Gymraeg eu rhyddhau ar dydd Mawrth 11eg Rhagfyr 2012, ymhlith ystadegau eraill. Mae prinder o wybodaeth Cymraeg amdano fe ar hyn o bryd. (Dw i ddim yn hoff iawn o’r cyfrif Cymraeg Cyfrifiad2011, mae’n wan.) Dw i’n siwr bydd pobl sydd yn hoffi data eisiau dadansoddi’r canlyniadau gan gynnwys… Parhau i ddarllen Dyddiad canlyniadau cyfrifiad – a chymunedau Cymraeg
Nofel Gymraeg yn cael ei sgwennu yn gyhoeddus ar Google Drive fel arbrawf
Mae’r awdur Chris Cope yn sgwennu nofel fach ac yn croesawu eich adborth ar y llawysgrif ar y we. Dyma’r dolen uniongyrchol i’r nofel fel ddogfen. Gallwch chi roi sylwadau. Diolch i ffaldiral am y dolen.
Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron
Literatim (Android) Yn ein pabell yn Steddfod Gen eleni cyflwynodd David Chan ei brosiect newydd, bysellfwrdd darogan Cymraeg ar Android. Mae fe wedi bod yn gweithio’n galed ar y meddalwedd fel menter annibynnol llawrydd. Roedd ambell i berson yn y pabell mis Awst yn dweud bod nhw yn fodlon symud o ffonau eraill i Android… Parhau i ddarllen Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron
Diwrnod Ada Lovelace 2012: rhannu straeon am fenywod ym maes technoleg
Dydd Mawrth 16eg mis Hydref 2012 yw Diwrnod Ada Lovelace: Diwrnod Ada Lovelace yw dathliad rhyngwladol o lwyddiannau benywod yn wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Amcan y digwyddiad yw rhannu straeon benywod sydd wedi ein hysbrydoli ni er mwyn creu modelau newydd i ferched a benywod ym meysydd lle mae dynion yn goruchafu. Cer i… Parhau i ddarllen Diwrnod Ada Lovelace 2012: rhannu straeon am fenywod ym maes technoleg
Dr Jeremy Evas – Y Gymraeg mewn oes ddigidol (Seminar ymchwil yng Nghaerdydd)
Mae’r seminar yma yn edrych yn ddiddorol: 11 Rhagfyr 2012 Dr Jeremy Evas Y Gymraeg mewn oes ddigidol 5:15PM Ystafell 1.69 Adeilad y Dyniaethau, Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, CF10 3EU
Trydar Cymraeg – Y Tair C: Cyfoes, Cyfforddus, Cymreig
TRYDAR Cymraeg – tyfu a datblygu Mae Twitter yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg ac mae nifer cynyddol o unigolion, busnesau a chyrff cyhoeddus yn ei ddefnyddio. Ond un pryder yw fod y nifer sy’n dilyn Twitter Cymraeg ein sefydliadau – cynghorau lleol, cyrff cyhoeddus ac ati – yn is o lawer na nifer y… Parhau i ddarllen Trydar Cymraeg – Y Tair C: Cyfoes, Cyfforddus, Cymreig