SWYDD: Cydlynydd Wicipedia, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cydlynydd Wicipedia Yn dilyn cytundeb cydweithio rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Wikimedia DU y mae’r Coleg yn dymuno penodi Cydlynydd Wicipedia fydd yn adrodd i swyddogion a Bwrdd Academaidd y Coleg ar sut orau y gellir rhannu adnoddau addysgol ar lwyfannau Wikimedia, gan gynnwys Wicipedia, o dan drwyddedau priodol. Bydd gennych gefndir academaidd gadarn,… Parhau i ddarllen SWYDD: Cydlynydd Wicipedia, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cyfle i enill £1000 yng nghystadleuaeth arloesedd yr Eisteddfod

Ma hwn yn ddiddorol iawn. Dwi’n siwr y byddai nifer fawr o bobol sydd yn ymwneud ag ymddiddori yn Hacio’r Iaith â diddordeb mewn cystadlu: Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cystadleuaeth arbennig i hybu arloesedd, a fydd yn cychwyn eleni yn Eisteddfod Sir Gâr. Bwriad y gystadleuaeth hon yw annog Cymry o bob oed… Parhau i ddarllen Cyfle i enill £1000 yng nghystadleuaeth arloesedd yr Eisteddfod

S4C Masnachol a Wildseed: cyfleoedd i bobl creadigol

Ychydig bach yn hwyr gyda’r cofnod yma ond dw i wedi bod yn ddarllen am Wildseed ac S4C Masnachol. Wildseed Studios yn cyhoeddi buddsoddiad newydd gan gangen fasnachol S4C: Mae Wildseed Studios wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd gan gangen fasnachol S4C sy’n rhoi cyfran sylweddol i’r darlledwr yn y cwmni, a sedd ar eu bwrdd. Mae… Parhau i ddarllen S4C Masnachol a Wildseed: cyfleoedd i bobl creadigol

Cost Technoleg:

Mae gan y geiriau “am ddim” ystyr gwahanol mewn unrhyw iaith yr ydych yn edrych arno: “gratis, ayyb” ond o ran “am ddim” mewn ystyr technolegol yw am ddim wirioneddol am ddim? Cymerwch Spotify, Mae gan ei gyfrif am ddim hysbysebion a rwyt ti yn yn gyfyngedig i faint o amser allwch chi wrando arno.… Parhau i ddarllen Cost Technoleg:

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Santa Dirgel: gwasanaeth Nadoligaidd ar-lein @santadirgel

Tipyn bach yn hwyr eleni dw i’n gwybod ond dw i newydd darganfod Santa Dirgel, gwasanaeth sydd yn hwyluso’r tasg o drefnu Santa Dirgel ymhlith pobl mewn swyddfa (neu labordy, beudy, stabl, ayyb). http://santadirgel.co.uk/ Dw i’n newydd rhedeg prawf ac mae’n gweithio yn dda. Diolch o galon i Marc Thomas am ddatblygu’r gwasanaeth defnyddiol yma!

WordPress 3.8 yn Gymraeg

Mae fersiwn harddaf a’r mwyaf coeth o WordPress newydd ei ryddhau. Ewch i WordPress Cymraeg – cy.wordpress.org. Os ydych yn rhedeg gwefan WordPress eisoes mi ddylech fod wedi cael hysbysiad. Mae’r cyfieithiad wedi bod ar gael ers yn hwyr neithiwr (13/12) felly os oeddech chi wedi diweddaru’n gynt mae angen ail ddiweddaru er mwyn cael… Parhau i ddarllen WordPress 3.8 yn Gymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Hacio’r Iaith 2014 – Dewch i Fangor!

Mae hi’r amser yna o’r flwyddyn eto lle rydyn ni’n dechrau cyffroi am brif ddigwyddiad blynyddol Hacio’r Iaith. Eleni ar gyfer 5ed flwyddyn y digwyddiad rydan ni’n gollwng y rocket boosters, torri’n rhydd o atmosffer (hyfryd) Aberystwyth a’n mynd i blaned (fendigedig) Bangor. Diolch yn fawr iawn i Delyth Prys a chriw y Ganolfan Technoleg… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2014 – Dewch i Fangor!

WordPress 3.7.1 yn Gymraeg

WordPress yw’r system rheoli cynnwys sydd yn rhedeg lot o wefannau o gwmpas y byd gan gynnwys Hacio’r Iaith. Mae fersiwn diweddaraf bellach, sef 3.7.1. Canllaw i WordPress 3.7.1. Os ydych chi’n defnyddio WordPress.com yn Gymraeg (y fersiwn dotcom yw’r fersiwn cyflym a haws) mae popeth yn awtomatig. Does dim rhaid i chi wneud dim… Parhau i ddarllen WordPress 3.7.1 yn Gymraeg