Hacio’r Iaith 2014 – Dewch i Fangor!

Haclediad Byw 2012
Haclediad Byw 2012

Mae hi’r amser yna o’r flwyddyn eto lle rydyn ni’n dechrau cyffroi am brif ddigwyddiad blynyddol Hacio’r Iaith. Eleni ar gyfer 5ed flwyddyn y digwyddiad rydan ni’n gollwng y rocket boosters, torri’n rhydd o atmosffer (hyfryd) Aberystwyth a’n mynd i blaned (fendigedig) Bangor.

Diolch yn fawr iawn i Delyth Prys a chriw y Ganolfan Technoleg Iaith/Canolfan Bedwyr/Prosiect TILT ym Mhrifysgol Bangor am drefnu lleoliad, ein noddi a’n croesawu ni.

Y dyddiad i’w roi yn eich dyddiadur yw dydd Sadwrn 15 Chwefror 2014 a’r lleoliad yw Canolfan Rheolaeth Busnes, Prifysgol Bangor.

Cyfle gwych i gyflwyno eich gwaith, cael ymateb i’ch prosiectau, bod yn ofod i brofi/arbrofi, cynnal gweithdai, a rhannu gwybodaeth am beth sy’n tanio chi ym maes tech a iaith. Ond yn bwysica oll mwynhau sgwrs gyda phobol newydd a chyfarwydd sydd efo’r un brwdfrydedd â chi dros y maes. Bydd yna siwr o fod recordiad byw o’r Haclediad hefyd – woo!

Felly…

Cyfrannwch at drefnu’r digwyddiad a phostiwch eich syniadau am sesiwn ar y wici

Archebwch docyn (am ddim)

Am ei fod yn gynhadledd agored mae disgwyl i bawb sy’n dod i gyfrannu drwy son am eu prosiectau neu fod yn rhan o sesiwn mewn rhyw ffordd. Mae’n ddigwyddiad i rannu profiadau, a chymryd rhan, ddim ista nôl. Mae croeso i gyfraniadau sy’n trafod côd neu drafod cynnwys, trafod bob math o agwedd ar beth ydych chi’n wneud. Dwi’n siwr bydd rhywbeth o ddiddordeb i bobol eraill.

Byddwn ni’n trio trefnu chydig mwy o’r sesiynau o flaen llaw eleni felly mae’n werth i chi gysylltu drwy ebost/Twitter neu bostio ar y wici/blog os da chi am ddod. Gallwn drafod a helpu i roi sesiynau at ei gilydd.

Os da chi isio man trafod ma’r dudalen sgwrs ar y Wici yn lle da i ddechrau, neu yn sylwadau y gofnod hon.

Edrych mlaen i’ch gweld chi!

Criw Haciaith

8 sylw

  1. Adendwm 1: Llety
    Bydd angen archebu a thalu am eich llety eich hunain. Mae pobl yn gallu aros unrhywle sy’n fodlon eu derbyn(!). Ond rydym ni wrthi’n trafod gyda’r Ganolfan Rheolaeth ym Mangor er mwyn trefnu llety moethus i fyny grisiau a gostyngiad i bobl sy’n dod (gobeithio). Bydd datganiad i ddilyn gyda’r manylion.

    Adendwm 2: Dydd Gwener
    Mae posibilrwydd o bethau digidol eraill ar y dydd Gwener a’r nos Wener, sef y 14eg Chwefror 2014. Cadwch y dyddiad yn rhydd yn enwedig os ydych chi’n hoff o godio (y dydd) neu gyri (y noswaith).

    Edrych ymlaen at gyd-hacio gyda phawb.

  2. Ma lot o’r sesiynau ‘posibl’ yn dechrau edrych lawer mwy fel sesiynau ‘pendant’ erbyn hyn (GIT, OSM, DBPedia, Gimp My Taid, dangos a dweud) be am symud rhai i ‘pendant’ a dechrau gosod teitlau sesiynau pendant yn yr amserlen? Pa weithdai sy’n gweithio’n well yn y bore/prynhawn? Jest taflwch nhw mewn ar y pwynt yma!

  3. Byddwch yn ymwybodol o’r teimlad ôl-ginio – mae angen pethau bywiog yn y slotiau yna! Fel arall byddai pobl eisiau dewis eu slotiau dw i’n meddwl. Wedyn dweud hynny byddai drafft yn ddefnyddiol iawn. Cyffroi nawr!

Mae'r sylwadau wedi cau.