3 sylw

  1. Ydi mae o’n ddiddorol gweld y visualisation (“darluniad”? help, derminolegwyr??), ond ddim yn siwr beth mae’n dweud sydd yn newydd. Yn sicr mae’n ddarlun eitha neis o hyfywedd ieithyddol a natur rhwydweithiau mewnol ein gwlad. Ond o ran y prif gaasgliad: Mae Cymraeg yn cael ei siarad lot o fewn Cymru a does dim lot o diaspora.

    Fel mae Kevin yn dweud, dim ond y top 500 o drydarwyr mae’n dangos – dwi’n credu bod y stats diddorol i gyd yn long tail o drydarwyr Cymraeg – y pobol sydd yn trydar yn Gymraeg yn achlysurol, neu jest efo dwysedd trydar isel. Pwy ydyn nhw? Sut mae cael nhw i ddefnyddio a chael mynediad at fwy o gynnwys Cymraeg? Mae’r top 500 yn job done, pobol sydd yn engaged. Sut ydyn ni’n targedu’r gweddill? Sut ma nhw’n defnyddio’r Gymraeg? A pham bod nhw’n dewis defnyddio’r Gymraeg?

    Mae Hywel Jones wedi cynnig beirniadaeth o’r fethodoleg gyda llaw: https://twitter.com/hywelm/status/416729737055051776 ddim yn defnyddio enwau Cymraeg y trefi/dinasoedd.

  2. Rwy’n cytuno â Rhodri nad yw’r map o drydariadau’r 500 trydarwr Cymraeg mwyaf cynhyrchiol yn ystyrlon iawn.

    Rhaid i mi gywiro Rhodri ynglŷn â’i bwynt olaf. Beirniadaeth o’r fethodoleg ddefnyddiais i fy hun i gynhyrchu map o ddilynwyr @IndigenousTweet sy yn y trydariad mae e’n cyfeirio ato (ac rwyf wedi ymhelaethu ar ddiffygion y drefn geocodio a ddefnyddiais mewn sylwadau ar y blog yma: http://simplystatistics.org/2011/12/21/an-r-function-to-map-your-twitter-followers/). Defnyddiodd Kevin Scannell, ar y llaw arall, wasanaeth geocodio oedd i’w weld yn gwneud job gweddol gydag enwau lleoedd Cymraeg, sef http://www.findlatitudeandlongitude.com/

Mae'r sylwadau wedi cau.