Cwmni Da ac S4C yn lansio ap Llefydd Sanctaidd ar iOS… Trafodaeth

Ifor ap Glyn - Llefydd Sanctaidd

Newyddion da i bobl sy’n licio crwydro yng Nghymru. Dw i newydd gweld bod y tîm tu ôl y rhaglen teledu Llefydd Sanctaidd wedi lansio ap Llefydd Sanctaidd am ddim ar iOS:

[…] Nawr, gyda chymorth yr app arbennig hwn, fe allwch chithau gychwyn ar eich pererindod eich hunain i unrhyw un o’r 37 lle sanctaidd sy’n ymddangos yn y gyfres. Gan ddefnyddio technoleg GPS, gallwch ddarganfod sut i gyrraedd, edrych ar luniau a darllen am hanes y llefydd sanctaidd. Gyda chyfarwyddiadau, mapp a gwybodaeth i ymwelwyr mae popeth sydd ei angen arnoch cyn cychwyn am dro i gyd ar gael mewn un man cyfleus ar yr app arbennig hwn.

Lawrlwythwch yr app heddiw am ddim o itunes.com/llefyddsanctaidd. […]

[…] Mae cynnwys Cymraeg yr app hwn wedi ei gyfieithu o lyfr Nick Mayhew-Smith, ‘Britain’s holiest places’. Mae fersiwn Saesneg o’r app yn cael ei chreu ar hyn o bryd fydd yn cynnwys 500 o fannau sanctaidd y llyfr hwnnw, a bydd ar werth am £5.49. […]

Datganiad i’r wasg am ap Llefydd Sanctaidd

Mae llawer o bobl yn mynegi barn am ddefnydd S4C o ddigidol. Beth bynnag yw’r diffygion, maent yn gallu comisynu APS! Ac aps brodorol ar gyfer iOS yn bennaf er bod rhai ar gyfer Android. Dw i’n chwilfrydig am yr egwyddorion tu ôl y strategaeth yma.

1. Faint o ddefnyddwyr Cymraeg sydd ar iOS (iPad, iPhone) bellach?

2. Pam mae prinder o brosiectau S4C ar blatfformau digidol gyda mwy o ddefnyddwyr potensial fel Android, y we, Wicipedia, ayyb? (Dw i’n defnyddio Android! Dw i heb cael siawns i brofi’r ap eto. Mae croeso i unrhyw un postio meddyliau / profiadau yn y sylwadau.)

3. Er enghraifft, oes modd cael mwy o gynnwys amlgyfryngol ar dudalen S4C am Llefydd Sanctaidd?

Jyst gofyn. Efallai byddai rhywun sy’n gwybod yn gallu ateb.

Gyda llaw hoffwn i weld ystadegau am ddefnydd o aps yn y dyfodol agos – er enghraifft trwy unrhyw ap mae’n ddigon hawdd i ofyn am ganiatâd i gasglu data (dienw) am leoliad ayyb. Dw i jyst ddim yn siŵr pa mor dda rydyn ni’n deall y farchnad aps Cymraeg.

4 sylw

  1. Mae na rhesymau fasnachol dros lansio ar iOS yn gyntaf, dwi’n gobeithio blogio ar y pwnc yn fuan. O ran cynnwys amlgyfryngol mae rhaid cofio bod adnoddau ariannol a dynol yn brin, dwi wrthi’n datblygu strategaeth yn S4C sy’n golygu fod rhaid targedu’r adnoddau prin yma. Mae datblygu’r Ap llefydd sanctaidd yn enghraifft o gynnwys ddigidol ychwanegol mewn cysylltiad a rhaglen, ‘swn i wrth fy modd yn cynnig mwy o adnoddau ddigidol yn gyffredinol ond diwedd y gân yw’r geiniog.

    Un enghraifft o sut mae S4C yn ehangu eu darpariaeth digidol yw ein partneriaeth â’r theatr gen ar prosiectau Y Bont a Tir Shir Gâr.

    Dwi’n gobeithio fydd ffrwythau fy llafur yn dechrau amlygu eu hunain yn y misoedd sy’n dod. Mae na lot o ddatblygiaday cyffrous ar y gweill.

  2. Diwedd y gân yw’r geiniog – ond beth am amcanion gwasanaeth cyhoeddus S4C?

    Fydd blog S4C sydd yn esbonio rhesymeg dros benderfyniadau digidol felly? (Gwych!)

  3. Gofyn oeddwn i, chwerw dw i ddim! 🙂

    Ie gwelais i’r cofnod am aps gov.uk – mae’r sefyllfa ychydig yn wahanol i deledu achos maent yn sôn am ddarpariaeth o wasanaethau fel iechyd. Ond mae’r egwyddor yn bwysig – mae angen ystyried lle mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr!

Mae'r sylwadau wedi cau.