S4C: drama aml-blatfform PyC a gemau Cymraeg ar gonsolau

cyntaf-oi-fath-yn-y-gymraeg-200Dw i wedi sylwi ar ddau ddatganiad S4C am ddatblygiadau digidol yn ddiweddar.

Yn gyntaf S4C yn sôn am y prosiect PyC:

[…] Mae S4C yn cyd-weithio â BBC Cymru Wales i ddangos cyfres ddrama newydd fydd yn cael ei darlledu ar wefan S4C yn unig.

Mae cynhyrchwyr Pobol y Cwm, BBC Cymru Wales, yn torri tir newydd gyda chyfres aml-blatfform arloesol ar y we o’r enw PyC.

Er bod PyC yn seiliedig ar rai o gymeriadau’r opera sebon boblogaidd, mae’r straeon yn fwy pigog a’r profiad yn wahanol.

Bwriad y prosiect yw apelio at oedolion ifanc ac mae’r awduron yn chwilio am ffyrdd gwahanol i adrodd stori. Mae’n nhw’n straeon sy’n sefyll ar eu traed eu hunain, heb amharu ar lif y gyfres deledu, Pobol y Cwm. […]

Mae stori Newyddion BBC hefyd os dych chi eisiau darllen y datganiad eto.

Does dim llawer ar y wefan eto. Gawn ni weld. Postiais i feddyliau am PyC llynedd pan o’n i ddim yn glir iawn am union natur y prosiect mae’n rhaid dweud. Wedi dweud hynny dw i ddim yn siwr os oedd adran y wasg S4C yn gwybod ar y pryd chwaith. 🙂

Hefyd rhyddheuodd S4C datganiad am y gronfa ddigidol yr wythnos diwethaf (ac mae’n braf cael rhagor o wybodaeth o’r diwedd) gan gynnwys:

[…] Mae S4C hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu gemau digidol yn y Gymraeg, ar gyfer plant ac oedolion, fydd yn cael eu lansio ar dabledi a chonsolau gemau yn ystod y flwyddyn. Bydd hyn yn rhoi’r iaith Gymraeg ar rai o’r platfformau rhyngwladol mwyaf blaenllaw am y tro cyntaf. […]

Pa gonsolau? Beth fydd y cynllun o ran masnachu/dosbarthu’r gemau? Pa gemau? Ayyb! Bydd gemau ar Xbox (ac ati) yn newyddion mawr ac yn haeddu’r bathodyn uchod yn bendant.