Wedi 7 a @llef yn trafod technoleg, y we Gymraeg a Hacio’r Iaith ar #s4c

http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=454513805 (dolen yn dod i ben mewn 6 diwrnod)

Mae’r sgwrs yn dechrau 08:00.

Sgwrs da iawn, mwy plis!

Oes lle am raglen reolaidd ar y teledu i drafod defnydd o dechnoleg mewn cymdeithas ac yng Nghymru, y heriau, y problemau, y cyfleoedd (yn hytrach na jyst gadjets newydd)?

5 sylw

  1. Wn i ddim am deledu, dwi’n ffeindio Y Lle Feiral yn anhygoel o ddall i unrhyw gyd-destun Cymraeg i dechnoleg. Neu ydw i jest di gweld y rhaglenni rong?

    Fasa’n amêsing cael rhaglen fel The Stream ar Al Jazeera, lle mae technoleg yn rhan o wead y rhaglen (ffeindio storis, curadu storis, cyfweld pobol heb orfod anfon camera allan ayyb), ac lle mae’r rhaglen yn trafod drafod defnyddiau cymdeithasol a gwleidyddol pobol o’r dechnoleg ledled y byd.

    Bydda rhaglen sydd yn mynd allan yn fyw arlein yn wythnosol ar amser penodol, gyda’r holl beth ar gael ar bob cyfrwng dosbarthu fel podlediad arol hynny yn wych.

    A Sioned fel anchor 🙂

  2. Ie o’n i’n meddwl am Y Lle Feiral. Lot o botensial ond brochure-wedd ar hyn o bryd.

  3. Rhodri, syniad da am y rhaglen, beth am greu rhaglen enghreifftiol a’i drio allan ar Sianel 62? Bydd Sianel 62 yn sianel ar y we ac yn gwahodd cyfraniadau rhaglenni wrth unrhyw aelodau o Gymdeithas yr Iaith rhwng Chwefror a Gorffennaf. Beth am ofyn pwy sydd â diddordeb dydd Sadwrn?

Mae'r sylwadau wedi cau.