Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ar brosiect sy’n ceisio mesur effaith rhannu data agored gydag Wikimedia. Bydd prosiect Wicipobl yn canolbwyntio ar ddarparu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys rhannu delweddau digidol ar drwydded agored, gweithio gydag ysgolion ar ddigwyddiadau estyn allan, creu erthyglau Wicipedia Cymraeg newydd, rhannu metadata’r Llyfrgell… Parhau i ddarllen Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Hacio’r Iaith yn cynnal Hacathon Hanes yng Nghaerdydd.
Tag: caerdydd
Cwrw a thafarndai mwyaf poblogaidd Caerdydd (yn ôl Untappd)
Mae gwefan BarDiff yn dangos pob math o ystadegau am gwrw a yfir yng Nghaerydydd yn seiliedig ar ‘checkins’ ar Untappd. Mae’n cynnwys y cwrw unigol mwyaf poblogaidd (gweler y graff isod), y math o gwrw sy’n cael ei yfed, o ba fragdai, ym mha dafarndai ac ar ba adegau o’r dydd. Mae’r graff yn dangos y… Parhau i ddarllen Cwrw a thafarndai mwyaf poblogaidd Caerdydd (yn ôl Untappd)
Wicigyfarfod Caerdydd, 22 Chwefror 2015
Mae tudalen ar Meta-wiki am y pedwerydd Wicigyfarfod yng Nghaerdydd: Wicigyfarfod Caerdydd Rhif 4 Dydd Sul 22 Chwefror 2015 — 12:00 ymlaen Lleoliad: The Central Bar (Wetherspoons), 39 Plas Windsor CF10 3BW #cdfwiki Mae wicigyfarfod yn gyfle i ddefnyddwyr prosiectau Wikimedia gwrdd â’i gilydd a… Sgwrsio am Wicipedia, Wikimedia, cynnwys agored neu unrhyw bwnc arall… Parhau i ddarllen Wicigyfarfod Caerdydd, 22 Chwefror 2015
Hacio’r Iaith Bach – Caerdydd 28ain Hydref 2014
Beth yw Hacio’r Iaith Bach? Cyfarfododd bychain (fel arfer mewn tafarn!) ble mae criw o rhwng (4 a 20+) yn cwrdd am drafodaethau rownd y bwrdd. Beth fyddwch yn ei drafod? Unrhyw beth, ond mae’n bosib y trafodwn data, ymgyrchu, diflaniad Geiriadur y BBC, gemau a chant a mil o bethau eraill. Dyma flas o… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith Bach – Caerdydd 28ain Hydref 2014
Wicigyfarfod Caerdydd Rhif 3 (31.5.14)
Cynhelir y trydydd Wicigyfarfod yng Nghaerdydd yn y Central Bar, Plas Windsor, ar ddydd Sadwrn 31 Mai. Dyma ragor o wybodaeth ac i nodi os oes gennych ddiddordeb mewn dod. Croeso cynnes i bawb! (os nad ydych yn hyderus yn gadael nodyn ar y wici gallwch adael sylw yma)
Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Caerdydd. 1-2/2/2014
Mae Wikimedia UK yn cynnig cwrs hyfforddiant deuddydd o’r enw Hyfforddi’r Hyfforddwyr yng Nghaerdydd ar benwythnos y 1af a’r 2il o Chwefror yng Nghaerdydd. Cwrs cyffredinol ar fod yn hyfforddwr ydyw, ac nid ar sut i olygu’r Wicipedia. Darperir yr hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg, ond rhoddir blaenoriaeth i siaradwyr Cymraeg er mwyn gallu cynorthwyo gyda proseictau… Parhau i ddarllen Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Caerdydd. 1-2/2/2014
WiciGyfarfod, Caerdydd. Nos Wener 1/11/13
Gyda chynhadledd Edu Wiki 2103 yn cymryd lle yr un pryd dyma feddwl am drefnu WiciGyfarfod (tebyg i Hacio’r Iaith Bach) ar y nos Wener. Mae’n gyfle anffurfiol i sgwrsio gyda wicipedwyr hen a newydd o Gymru a thu hwnt. Y gobaith yw y bydd Alex Hinojo yno ar ran Wicipedia Catalonia hefyd. Mae Alex yn gwneud gwaith anhygoel yng… Parhau i ddarllen WiciGyfarfod, Caerdydd. Nos Wener 1/11/13
Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd
Mae bellach modd cofrestru ar gyfer cynhadledd EduWiki 2013, sef ail gynhadledd Wikimedia UK i drafod prosiectau addysgol. Cynhelir y gynhadledd yng Nghaerdydd ar y 1 a 2 o Dachwedd a bydd yn trafod ystod eang o bynciau o Adnoddau Dysgu Agored, Rhaglen Addysgol Wikipedia, asesu ac achredu, tybiaeth feirniadol, llythrennedd digidol a llythrennedd Wikipedia.… Parhau i ddarllen Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd
Cyfarfod i drafod ‘Y Dinesydd 24/7’, yn Chapter, Caerdydd 7/4/13
Efallai i chi gofio i ni drefnu Hacio’r Iaith Bach: Newyddion lleol yn y ddinas ym mis Mai 2012. Roedd hi’n noson dda. I’r rhai a fynychodd y noson honno, efallai bydd y canlynol o ddiddordeb i chi: Newyddion a Chwaraeon Lleol Blogiau Adolygiadau Bwytai a Thafarndai Cymdeithasau a Mudiadau Rhwydweithiau Cymdeithasol Busnesau Lleol Digwyddiadur… Parhau i ddarllen Cyfarfod i drafod ‘Y Dinesydd 24/7’, yn Chapter, Caerdydd 7/4/13
Open Rights Group: digwyddiad am breifatrwydd yng Nghaerdydd, 28ain mis Tachwedd 2012
Mae’r Grŵp Hawliau Agored ar daith i siarad am y peryg o golli preifatrwydd personol ar y rhyngrwyd. Bydd cyfarfod yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher 28ain mis Tachwedd 2012. Mae’r grŵp wrthi’n ymgyrchu yn erbyn y Siarter Ysbiwyr, sef bil drafft gan y llywodraeth clymblaid yn San Steffan i orfodi darparwyr rhyngrwyd, platfformau rhwydwaith cymdeithasol a darparwyr eraill… Parhau i ddarllen Open Rights Group: digwyddiad am breifatrwydd yng Nghaerdydd, 28ain mis Tachwedd 2012