Wicigyfarfod Caerdydd, 22 Chwefror 2015

Mae tudalen ar Meta-wiki am y pedwerydd Wicigyfarfod yng Nghaerdydd:

Wicigyfarfod Caerdydd Rhif 4

Dydd Sul 22 Chwefror 2015 — 12:00 ymlaen

Lleoliad: The Central Bar (Wetherspoons), 39 Plas Windsor CF10 3BW

Ceir WiFi yn y lleoliad #cdfwiki

Mae wicigyfarfod yn gyfle i ddefnyddwyr prosiectau Wikimedia gwrdd â’i gilydd a…

  • Sgwrsio am Wicipedia, Wikimedia, cynnwys agored neu unrhyw bwnc arall a aiff â’n pryd
  • Bwyta ac yfed (ond nid yw diodydd alcoholig na bwyd yn orfodol!)

Digwyddiadau cymdeithasol anffurfiol ydy wicigyfarfodydd yn bennaf. Gallwch ddisgwyl cwrdd â Wicipedwyr brwd iawn, ond estynir gwahoddiad agored i unrhyw un â diddordeb mewn darganfod mwy am Wicipedia a’i chwaer-brosiectau (yn Gymraeg neu yn Saesneg) yn ogystal â’r prosiectau yn ymwneud â Wikimedia sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae croeso i chi ddod a chael sgwrs am bopeth wicïaidd dros ddiod o’ch dewis.

Darperir WiFi yn y dafarn. Unwaith eto, dydy diodydd alcoholig ddim yn orfodol!

Gadewch sylw ar Meta-wiki os ydych am ddod, neu yn y blwch sylw fan hyn os nad ydych yn hyderus gyda golygu tudalen wiki.