Cwrw a thafarndai mwyaf poblogaidd Caerdydd (yn ôl Untappd)

Mae gwefan BarDiff yn dangos pob math o ystadegau am gwrw a yfir yng Nghaerydydd yn seiliedig ar ‘checkins’ ar Untappd. Mae’n cynnwys y cwrw unigol mwyaf poblogaidd (gweler y graff isod), y math o gwrw sy’n cael ei yfed, o ba fragdai, ym mha dafarndai ac ar ba adegau o’r dydd.

Bardiff

Mae’r graff yn dangos y cwrw a yfwyd yr wythnos hon. Dwi’n synnu nad yw Cwtch, a ddyfarnwyd y cwrw gorau ym Mhrydain heddiw yn y 15 uchaf, ond dwi’n siwr y bydd hynny’n newid yn fuan!

Martin Chorley, darlithydd cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi creu’r wefan yn defnyddio API Untappd a gellir gweld y cod ar GitHub. Gellir hefyd dilyn y diweddaraf ar Twitter.