Newyddion mawr heddiw, mae’r Comisynydd Iaith (Meri Huws) wedi cyhoeddi bod Google yn mynd i gwneud fersiwn Cymraeg o’r gwefan e-bost poblogaidd “Gmail” ar gael yn y Gymraeg. Dywedodd Meri Huws: Mae technoleg gwybodaeth yn rhan ganolog o’n bywydau bob dydd – byddwn yn ei defnyddio yn yr ysgol neu yn y coleg, yn y… Parhau i ddarllen Gmail yn y Gymraeg!
Categori: Cyfryngau
Hacio’r Iaith Bach – Caerdydd 28ain Mai 2012
Hacio’r Iaith Bach: Newyddion lleol yn y ddinas Nos Lun 28ain mis Mai 2012 7:30 pm tan hwyr Prif bar, Chapter Market Road Treganna Caerdydd CF5 1QE #haciaith haciaith.cymru wifi ar gael Dw i am dorri rheolau Hacio’r Iaith Bach rwan a threfnu noson mewn tafarn gyda thema ysgafn iddi (er bydd cyfle a chroeso… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith Bach – Caerdydd 28ain Mai 2012
Ryff geid Bryn Salisbury i wneud y mwyaf…
Ryff geid Bryn Salisbury i wneud y mwyaf o’ch Hacio’r Iaith cyntaf – wedi ei gyhoeddi’n wreiddiol ar ei flog: Persona Non Grata: Hacio’r Iaith – Hacio’r Beth? | Hacking what?” ac ar flog Golwg360. Mewn ychydig dan wythnos, bydd Aberystwyth yn leoliad ar gyfer Hacio’r Iaith 2012 (28ain Ionawr 2012). Hwn fydd y trydydd… Parhau i ddarllen Ryff geid Bryn Salisbury i wneud y mwyaf…
Dadansoddi trydariadau
Yn ôl ym mis Ebrill 2011 dechreuais chwilio a chadw trydariadau oedd yn cynnwys y gair “Cymraeg”. Doedd gen i ddim rheswm dros wneud heblaw fy mod am ddysgu mwy am Twitter a sut y byddai modd dadansoddi trydariadau. Rwyf wedi bod yn edrych ar y cyfan a drydarwyd hyd at tua 17.00 ar 30… Parhau i ddarllen Dadansoddi trydariadau
Taith Tynnu Lluniau
Henffych Hacwyr… Nodyn bach i ddweud fy mod i’n ceisio trefnu taith tynnu lluniau o gwmpas maes y ‘steddfod am 10yb ar Awst y 1af. Syniad y daith yw dogfennu bore ar y maes, a rhoi siawns i’r grŵp mawr o ffotograffwyr casglu ar y maes. Bydd y sesiwn yma yn agored i bawb o… Parhau i ddarllen Taith Tynnu Lluniau
Mae cynhadledd Talk About Local yma yn yr…
Mae cynhadledd Talk About Local yma yn yr Atrium, Caerdydd, heddiw. Mae na olygyddion / cynhyrchwyr gwefannau heiprlleol dros Brydain gyfa’ yma. Mae RhysW a finne newydd ddod allan o sesiwn am y Gymraeg ac – ar garlam braidd – roeddwn i am rannu rhai o’r pwyntiau: bu trafodaeth am gynhadledd S4C yn Aber am… Parhau i ddarllen Mae cynhadledd Talk About Local yma yn yr…
Cynhadledd Ryngwladol Y Sefydliad dros Ieithoedd mewn Perygl
Falle i chi gofio hwn yng Ngholeg y Drindod y llynedd. Eleni, yn Ecuador mae’r Foundation for Endangered Languages yn cynnal eu cynhadledd flynyddol. Dyma’r spiel ar y wefan: “Language endangerment is now accepted as an important issue of our times, but it is sometimes misrepresented as a problem just for the speaker communities, and… Parhau i ddarllen Cynhadledd Ryngwladol Y Sefydliad dros Ieithoedd mewn Perygl
Rhannu rhaglenni teledu
Mae gwefan newydd wedi ei lansio – Golyg – ar gyfer rhannu rhaglenni teledu Cymraeg drwy dechnoleg BitTorrent. Mae e wedi ei anelu at y Cymry alltud hynny tu allan i wledydd Prydain (a gogledd Ewrop) sydd ddim yn gallu gwylio S4C. Mae’r ‘cipwyr’ yn recordio rhaglenni S4C oddi ar yr awyr drwy gerdyn neu… Parhau i ddarllen Rhannu rhaglenni teledu
WalesOnline i fynd tu ôl i wal dalu?
Dyma tweet jest rwan gan Sion Barry, eu golygydd busnes nhw: Fasech chi’n talu?
Ydy Media Wales yn deall y we o gwbl? Enghraifft WalesOnline
Enghraifft. http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2010/08/07/cymdeithas-concern-over-media-cuts-91466-27014833/ Ar yr un tudalen: 1. Teitl: “Cymdeithas concern over media cuts” 2. Oriel o luniau hollol random o Eisteddfod 2010 3. Erthygl Cymdeithas 4. Erthygl Merched y Wawr 5. Erthygl UCAC 6. Erthygl ailgylchu yn yr Eisteddfod! (Sefyllfa bosib: dw i eisiau rhannu’r erthygl ailgylchu gyda fy ffrindiau trwy ebost/fy mlog/Twitter. Sut?) Newidiwch… Parhau i ddarllen Ydy Media Wales yn deall y we o gwbl? Enghraifft WalesOnline