Hacio’r Iaith Bach – Caerdydd 28ain Mai 2012
Hacio’r Iaith Bach: Newyddion lleol yn y ddinas
Nos Lun 28ain mis Mai 2012
7:30 pm tan hwyr
Prif bar, Chapter
Market Road
Treganna
Caerdydd
CF5 1QE
#haciaith
haciaith.cymru
wifi ar gael
Dw i am dorri rheolau Hacio’r Iaith Bach rwan a threfnu noson mewn tafarn gyda thema ysgafn iddi (er bydd cyfle a chroeso i bawb sgwrsio am unrhyw bwnc arall dan haul hefyd wrth gwrs).
Fel gwyddoch falle, dw i’n rhannol gyfrifol am wefan Ein Caerdydd, a dw i newydd bostio cofnod yna am sîn blogiau lleol Caerdydd. Liciwn i glustnodi rhan o’r noson i drafod beth sy’n digwydd yng Nghaerdydd a thu hwnt, yng nghyd-destun ymchwil Golwg360/Prifysgol Aberystwyth i ddyfodol newyddion lleol a newyddion hyperlleol yn gyfferdinol.
Carl Morris 8:34 PM ar 17 Mai 2012 Dolen Barhaol
Gwelaf i ti yna!
Noson i drafod cyfryngau lleol Caerdydd 28.5.12 « Ein Caerdydd 9:40 AM ar 18 Mai 2012 Dolen Barhaol
[…] Yn dilyn oddi ar gofnod diweddar yma am sîn blogiau lleol Caerdydd, hoffwn eich gwahodd i ddigwyddiad Hacio’r Iaith Bach: Newyddion lleol yn y ddinas. […]
Rhys Wynne 10:45 AM ar 18 Mai 2012 Dolen Barhaol
Hwre. Mae Lowri Haf-Cooke am ddod hefyd.
Gol. A Dafydd L.
Elliw Gwawr 10:58 AM ar 18 Mai 2012 Dolen Barhaol
Dyle bo fi’n gallu dod draw hefyd.
Iwan Evans 11:52 PM ar 20 Mai 2012 Dolen Barhaol
A fi!
Maldwyn Pate 12:48 AM ar 21 Mai 2012 Dolen Barhaol
Fe geisia i ‘ngore I fod ‘na.
Sion Rich 12:56 PM ar 23 Mai 2012 Dolen Barhaol
Siom- ni fyddaf yn gallu mynychu. Oes bwriad cofnodi rhai o’r pwyntiau ar lein? Allai ymateb wedyn hefo rhai o’r sylwadau dwi wedi pigo fyny drwy fy ymchwil gyda G360 a Phrifysgol Aber.
Rhys Wynne 9:56 AM ar 28 Mai 2012 Dolen Barhaol
@Sion,
Rydym fel arfer yn golygu’r cofnodion (fel hwn) yn dil;yn y digwyddiad gan roi nodyn crynodeb o beth drafodwyd. Mond rwan dw i’n gweld dy sylw di – dylwn fod wedi meddwl am ofyn am rhyw fath o grynodeb ganddot ti (petai ar gael) o beth ydy’r datblygiadau hyd yn hyn gyda’r gwaith peilot yng Nghaerdydd. Os digwydd i ti ddarllen hwn cyn heno, mae gan Rhodri ac Elin fy nghyfeiriad ebost.
GUEST BLOG: What’s Welsh for hyperlocal? | yourCardiff 12:02 PM ar 28 Mai 2012 Dolen Barhaol
[…] hyperlocal blogs in Welsh, and this is going to be one of the subjects covered at this week’s Hacio’r Iaith Bach, a meet-up of geeks (and non-geeks!) who like to do interesting things with Welsh […]
Gareth Morlais 4:28 PM ar 28 Mai 2012 Dolen Barhaol
Dwi’n edrych ymlaen at eich gweld chi heno. Hoffwn i drafod: sut i drosi patrymlun WordPress. Ac – os yw David yn dod – Drupal.
Dwi’n gobeithio bydd Nicki Getgood yn gallu ymuno a ni. Mae hi’n weithgar yn y byd heiprlleol / gorleol / bethbynnag a dwi’n hapus i fod yn gyfieithydd iddi ar y noson.
Maldwyn Pate 5:46 PM ar 28 Mai 2012 Dolen Barhaol
Flin iawn gewnny’ bobl, fedra i ddim dod heno wedi’r cwbl oherwydd gofynion gwaith. Pob hwyl i chi.
Dai Lingual 5:56 PM ar 28 Mai 2012 Dolen Barhaol
Newydd weld yr atgoffeb ar fy ffon lon, yn gobeithio dod draw felly. Wyn
Iwan Evans 6:05 PM ar 28 Mai 2012 Dolen Barhaol
Hoffwn i holi pobl ynghylch plugins Cymraeg i WordPress ymysg pethe eraill.
Dymp dolenni Hacio’r Iaith Bach (Newyddion Lleol ac Ein Caerdydd) | Gwenu Dan Fysiau 1:16 PM ar 1 Mehefin 2012 Dolen Barhaol
[…] yr Hacio’r Iaith Bach diweddaraf, cafwyd sawl sgwrs ddifyr. Dyma grynodeb o beth drafodwyd o dan y thema ‘Newyddion […]