Taith Tynnu Lluniau

Henffych Hacwyr… Nodyn bach i ddweud fy mod i’n ceisio trefnu taith tynnu lluniau o gwmpas maes y ‘steddfod am 10yb ar Awst y 1af. Syniad y daith yw dogfennu bore ar y maes, a rhoi siawns i’r grŵp mawr o ffotograffwyr casglu ar y maes.

Bydd y sesiwn yma yn agored i bawb o bob lefel profiad, o’r rhai sydd newydd ddechrau gyda’i chamerâu bach ‘point and shoot’, i’r bobl fwy profiadol sy’n mynd gyda’i DSLRs, y syniad yw cwrdd, gwneud ffrindiau a dysgu mwy gyda’n gilydd.

Dwi’n hefyd yn eich annog wedyn i roi’r gorau i’r lluniau ar y grŵp Flickr ‘Grŵp Lluniau Eisteddfod’ (http://www.flickr.com/groups/lluniaueisteddfod/) (a dim jest o’r daith ar y dydd llun, rhai o’r wythnos gyfan). Bydd y goreuon o’r grŵp yn cael ei chyhoeddi yn y Daily Post wedi’r steddfod dod i ben, a fydd yr un gorau yn cael copi wedi ei fframio gan y Daily Post. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r Daily Post am ei chefnogaeth, ac yn enwedig i Debbie James (@debjam) am helpu gyda’r trefniadau.

Felly, dyma’r cynllun… cwrdd wrth y brif fynedfa am 10, a threulio 2awr yn mynd o gwmpas y maes. Does dim rhaid i chi fod yno am 2awr, ond fysa’n dda os bod chi’n gallu. Wedi’r daith, fydd wedyn siawns mynd draw i babell Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Hacio’r Iaith yn y ‘steddfod. Os eich bod chi eisiau dod ar y daith, plîs ymunwch a’r grŵp, neu yrru e-bost i mi (bryn.salisbury@gmail.com) yn dweud eich bod chi am ddod.

Diolch o galon i chi!

Bryn