Global Voices yn chwilio am leisiau Cymraeg

Mae gwefan http://globalvoicesonline.org/ yn chwilio am bobol i drosi deunydd i’r Gymraeg. Dyma ebost dderbyniais i gan Ayesha Saldanha (trwy rywun arall). Mae Ayesha yn gyfrannwr a fu’n byw yng Nghaerdydd, sydd nawr yn byw yn Bahrain, ac yn cyfrannu llawer i’r wefan am y Dwyrain Canol: I thought of contacting you about a website… Parhau i ddarllen Global Voices yn chwilio am leisiau Cymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Cyfryngau

Trafod blogiau Cymraeg ar raglen ‘Pethe’ ar S4C

Ar raglen Pethe heno roedd eitem yn trafod blogiau Cymraeg. Mae modd gwylio’r rhaglen ar wefan Clic S4C (eitem yn dechau ar 13:20). Ac oes, mae cofnod ar adran ‘Eitemau’ y gyfres ble gallwch adael sylw (ond nid ar y blog!).

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Cyfryngau Cofnodion wedi'u tagio

Isdeitlo fel Basg

Mae Luistxo Fernandez, guru gwe Gwlad y Basg, wedi sgwennu cofnod yn sôn bod 3 o’r ffilmiau “iaith dramor” yn y ras am yr Oscars eleni yn cynnwys deialog mewn ieithoedd lleiafrifol: Iddew-Almaeneg, Corseg a Quechua. Mae’n mynd mlaen i nodi bod Basgwyr wedi creu isdeitlau Basgeg ar gyfer un o’r ffilmiau hyn yn barod… Parhau i ddarllen Isdeitlo fel Basg