Cyfrannu at Wicipedia Cymraeg #steddfod2012

Ces i sgwrs gydag ymwelydd i’r babell Hacio’r Iaith / Gŵyl Dechnoleg Gymraeg prynhawn yma, Iolo Ceredig Jones. Tra roedden ni’n trafod Wicipedia siaradodd e am ei gyrfa fel chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol ar ran Cymru. Felly cawson ni’r cyfle i ddiweddaru’r dudalen amdano fe ar Wicipedia Cymraeg gyda llun o du allan i’r babell! Mae’r… Parhau i ddarllen Cyfrannu at Wicipedia Cymraeg #steddfod2012

Hybu Newyddiaduraeth Dinesydd ar Faes Eisteddfod yr Urdd

Henffych gyfeillion, Mae fy ngwaith ymchwil gyda Golwg360 wedi byrlymu dros y wythnosau diwethaf, gyda threfniadau’r haf. Mae’r prosiect rwyf yn addasu ar hyn o bryd yn ceisio harwyddo a chynyddu defnydd o newyddiaduraeth dinesydd a chynhyrchu deynnydd amateur ar -lein. Mae’r prosiect yn seiliedig ar ddalgylch ‘steddfod yr Urdd, gan fod yn fwrlwm o… Parhau i ddarllen Hybu Newyddiaduraeth Dinesydd ar Faes Eisteddfod yr Urdd

Sawl llun, i’r Cwîn

http://www.theregister.co.uk/2012/03/14/face_britain_copyright_grab/ Mae prosiect o’r enw Face Britain yn ecsploetio lluniau gan blant – ac wedi cymryd pob hawl eiddo deallusol. Anhygoel. Maen nhw wedi casglu 70,000 llun gwahanol hyd yn hyn. Y bwriad ydy llun mosaig enfawr o Elizabeth Windsor… Darllena’r erthygl.

Raspberry Pi a’r Gymraeg

Mae Huw Waters wedi blogio yn esbonio popeth am y cyfrifiadur bach hwn: Ddoe (29ain Chwefror 2012) cyhoeddodd Sefydliad Raspberry Pi bod ei chyfrifiadur £22 ar gael i’w brynu. Gwerthodd y 10,000 cyntaf o fewn munudau. Fersiwn i ddatblygwyr sydd ar gael gyntaf, ond bydd fersiwn addysgiadol ar gael erbyn diwedd y flwyddyn. O safbwynt… Parhau i ddarllen Raspberry Pi a’r Gymraeg

Google + CY

Dwi newydd fod yn trafod SEO (search engine optimisation) gyda chyfaill sy’n arbennigo yn y maes. Dywedodd: 1. Google doesn’t recognise Welsh as one of its “results” languages 2. It doesn’t seem to favour results in Welsh even when an explicitly Welsh search term is put in (eg Dewi Sant) Ydy hyn yn wir tybed?