Dwi di bod yn meddwl lot am y…

Dwi di bod yn meddwl lot am y cofnodion blog hynny sydd yn aros yn y cof, y cofnodion blog sydd yn ennyn trafodaeth fawr, neu sydd wedi cymryd llawer iawn o waith ymchwil a sgwennu gan yr awdur.

Dwi’n ystyried curadu llyfryn print o’r rhai gorau yn y dyfodol agos ac felly’n trio casglu syniadau yn ehangach na be dwi di gadw yn Delicious neu ar gof.

Beth oedd y gofnod blog ar eich blog chi da chi fwyaf balch ohono?

Beth oedd y gofnod blog wnaeth adael chi’n meddwl am y pwnc am oriau?

Pa gofnod blog Cymraeg sydd wedi cael y drafodaeth fwyaf?

Dwi’n gobeithio gallwch chi helpu i dynny rhai syniadau at ei gilydd ag ell gallwn ni roi rhyw fath o ail-fywyd a gwerthfawrogiad i rai cofnodion arbennig. Dwi hefyd wedi prynu’r parth bythwyrdd.com gyda’r bwriad o gydgasglu y cofnodion blog gorau sy’n cael eu cyhoeddi yn Gymraeg yno. Does gen i ddim yr amser i wneud y prosiect yma’n anffodus ond os ma unrhywun arall isio rhedeg efo’r syniad yna croes i chi wneud.

Jest gadwch ddolen i’r gofnod blog da chi’n gofio yn y sylwadau, a falla chydig o resymau pam da chi wedi ei gynnwys.

6 sylw

  1. Syniad gwych. Ni wedi trafod hyn o’r blaen ond heb wneud dim amdan y peth. Syniad arall ges i (dw i’n llawn syniadau, jyst bod dim yn deillio ohonynt), fyddai ei gyhoeddi hefyd ar ffurf e-lyfr, (just for the hell of it) gyda chaniatad y blogwyr, ac anelu’r casgliad at ddysgwyr, drwy eu haddasu ychydig ac ychwnaegu geirfa oddi tanynt, rhywbeth tebyg i’r gyfres Mynediad i Gymru – syniad kickstrater falle?

  2. Syniad da Rhys. Byddai addasu’r cynnwys i lwybrau cyhoeddi gwahanol yn ffordd dda o ddenu sylw gan bobol gwahanol i’r cofnodion. Angen cael gymaint o bobol ag sydd bosib i gyd-gasglu eu hoff gofnodion i ddechrau! Honno di’r dasg fwyaf.

  3. Cytuno, mae’n dipyn o dasg, ac un gymerith amser.

    Mi ddechreau i gydag un cynnig ta.

    Er Côf Am Gary Speed:Gruffernol Atsain – Fel arfer, pan mae rhywun enowg, nad ydw w erioed wedi cwrdd a nhw’n marw, hyd yn oed mewn amgylchiadau mor drist a hyn, tydi o ddim yn cael llawer o effaith arna i. Hefyd, er mod i’n gefnogwr mawr o bel-droed Cymru a gyda pharch mawr tuag at y diweddar Gary Speed fel chwaraewr a ciw o reolwr, ro’n i bradd yn anghyfforddus yn y modd y cafodd ei ‘ganoneiddio’ bron gan bobl yn dilyn ei farwolaeth (rhywbeth sy’n digwyddyn yn aml dyddiau hyn pan mae selebs yn marw). Wedi dweud hynny i gyd, [a dyma’r darn faswn i’n eisiau ei gynnwys fel esboniad cryno o’m dewis…] mae’r cofnod yma gan Gruff Rhys (i mi beth bynnag) rhywsut yn taro deuddeg gan ei fod yn crisialu beth mae’n olygu i fod yn Gymro, yn gefnogwr pel-droed Cymru ac yn perthyn i genhedlaeth penodol.

Mae'r sylwadau wedi cau.