Umap – casglu trydar adar Gwlad y Basg

Mae Umap yn wasanaeth sydd yn casglu trydar Basgeg a’u cyflwyno ar blatfform arall. Mae’n aggregator, neu’n gydgaslgydd o’r holl drafod sy’n digwydd yn yr iaith ar Twitter. Mae’r gwasanaeth hefyd yn rhoi deg uchaf o’r tagiau sydd wedi cael eu defnyddio yn y 24 awr dwetha, yr wythnos dwetha a’r mis dwetha. Mae’n defnyddio… Parhau i ddarllen Umap – casglu trydar adar Gwlad y Basg

Hacio’r Iaith 2

Mae hi’n teimlo fel amser maith ers cynhaliwyd y digwyddiad Hacio’r Iaith 1af rwan, felly mae’n amser dechrau bwrw iddi i drefnu’r ail un. Dwi’n credu bod yr ymateb wedi bod cystal i’r un gyntaf y bydd yr ail hyd yn oed yn well. O sgwrs ddechreuol gyda ambell berson y consensws ydi y dylen… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2

Simon yn edrych mewn i Utherverse a’r VWW

Mae Simon Dyda wedi sgwennu cofnod sydd yn edrych mewn i fyd newydd i mi: “Rhwyd y Rhithfydoedd”: http://feldagrauynyglaw.blogspot.com/2010/09/rhwydd-y-rhithfydoedd.html Fel un sydd erioed wedi ymweld â Second Life nac unrhyw rithfyd 3D arall, mae’n ddiddorol gweld sut mae’r pethau yma’n esblygu (neu fel arall, fel mae Simon yn nodi). Ydi chwant i ‘ffycio afatarau’ yn… Parhau i ddarllen Simon yn edrych mewn i Utherverse a’r VWW

“Dwi’n mynd o iSteddfod i iSteddfod…”

Mae Golwg360 yn adrodd bod Ambrose ac Edryd yn awyddus iawn i ddatblygu yr app iSteddfod, a bod dros 1,000 o bobol wedi ei lawrlwytho. Mae’n rhaid cyfaddef fod y ffigwr yna yn eitha syfrdanol, a llongyfarchiadau iddyn nhw am wneud cystal. Yn sicr dyna’r app Cymraeg (yn hytrach na dysgu Cymraeg) cyntaf i gyrraedd… Parhau i ddarllen “Dwi’n mynd o iSteddfod i iSteddfod…”

Beth yw pwynt gwneud y Pethau Bychain, os oes neb yn darllen?

Dyma fy ymateb i gofnod blog gan Ifan Morgan Jones – “Faint sy’n darllen?” – sy’n cwestiynu gwerth cael nifer fawr o gyfraniadau bychain ar y we, os oes bron neb yn eu darllen. Dwi wedi cau sylwadau yma, er mwyn i chi fynd a rhoi unrhyw sylwadau ar flog Ifan. Diolch. Petai David R… Parhau i ddarllen Beth yw pwynt gwneud y Pethau Bychain, os oes neb yn darllen?

HootSuite yn chwilio am gyfieithwyr

Mae rhaglen HootSuite nawr wedi agor eu system i gael ei leoleiddio. http://translate.hootsuite.com/ Dyma’r hyn sydd agen ei wneud yn y Gymraeg: http://translate.hootsuite.com/cy/ Unrhyw wirfoddolwyr. Dwi’n credu bod y Llyfrgell Gen yn ei ddefnyddio felly byddai na ambell berson yno fyddai’n cyfrannu hefyd siwr o fod.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio

Amser Dot Cym wedi dod?

http://www.clickonwales.org/2010/08/time-may-yet-cym-for-wales-on-the-net/

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio ,