WordPress yw’r system rheoli cynnwys sydd yn rhedeg lot o wefannau o gwmpas y byd gan gynnwys Hacio’r Iaith. Mae fersiwn diweddaraf bellach, sef 3.7.1. Canllaw i WordPress 3.7.1. Os ydych chi’n defnyddio WordPress.com yn Gymraeg (y fersiwn dotcom yw’r fersiwn cyflym a haws) mae popeth yn awtomatig. Does dim rhaid i chi wneud dim… Parhau i ddarllen WordPress 3.7.1 yn Gymraeg
Awdur: Carl Morris
Caerdydd: Grŵp Hawliau Agored yn trafod preifatrwydd ac arsyllu torfol
Cofrestrwch am y digwyddiad yng Nghaerdydd “I ddechrau fe gasglon nhw fy metadata, a gwnes i ddim byd…” Herio PRISM a Tempora yn Llysoedd yr UE: beth mae’n ei olygu Mynd ag arsyllu torfol i Lys Hawliau Dynol Ewrop Nos Iau, 12 Rhagfyr, 7-9YH Tŷ Cwrdd y Crynwyr 43 Heol Siarl, CF10 2GB yn cyflwyno… Parhau i ddarllen Caerdydd: Grŵp Hawliau Agored yn trafod preifatrwydd ac arsyllu torfol
Cwrs @cyfle: Datblygu eich busnes datblygu gemau
Mae Cyfle wedi gofyn i mi basio’r gwybodaeth am y cwrs isod ymlaen. Cwrs Cyfle: Datblygu eich busnes datblygu gemau Cysylltwch yn uniongyrchol am ragor o fanylion.
Ffatri Raspberry Pi ym Mhencoed – lluniau
Dyma lluniau o ffatri Raspberry Pi yn y ffatrïoedd Sony ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr – i’r rai sy’n hoffi’r math yna o beth.
Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996 – papur gan Dr Rhys J. Jones
Mae Dr Rhys J. Jones newydd rhannu dolen i bapur difyr o 2010 am hanes y Gymraeg ar-lein gan gynnwys grwpiau Usenet, rhestrau e-bost fel WELSH-L, agweddau cynnar y wasg Gymraeg a mwy. Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996 – papur gan Dr Rhys J. Jones Peidiwch anghofio i fwydo eich darllenydd blogiau/RSS gyda blog… Parhau i ddarllen Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996 – papur gan Dr Rhys J. Jones
Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol – uber-papur gwyn META-NET gan Dr Jeremy Evas
Byddai lot o ddarllenwyr y blog hwn yn nabod Dr Jeremy Evas o Brifysgol Caerdydd, arbenigwr ar dechnoleg a’r Gymraeg. Mae fe wedi cyhoeddi über-papur gwyn yn ddiweddar. Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol gan Dr Jeremy Evas – gwybodaeth Neu ewch yn syth i’r PDF. Dw i heb gael siawns i’w brosesi ond mae’n… Parhau i ddarllen Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol – uber-papur gwyn META-NET gan Dr Jeremy Evas
Diwrnod Ada Lovelace 15/10/2013: dathlu llwyddiannau menywod yn y maes technoleg
Mae Diwrnod Ada Lovelace yn digwydd pob blwyddyn ers 2009, sef dathliad rhyngwladol o lwyddiannau benywod yn wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Amcan y digwyddiad yw rhannu straeon benywod sydd wedi ein hysbrydoli ni er mwyn creu modelau newydd i ferched a benywod ym meysydd lle mae dynion yn goruchafu. Dydd Mawrth 15fed o Hydref… Parhau i ddarllen Diwrnod Ada Lovelace 15/10/2013: dathlu llwyddiannau menywod yn y maes technoleg
BuddyPress – unrhyw wedi gwneud cyfieithiad Cymraeg?
Ydy unrhyw wedi gwneud cyfieithiad o BuddyPress (yr ategyn WordPress) i’r Gymraeg? Rhannwch y ffeil .po os oes fersiwn os gwelwch yn dda, hyd yn oed rhywbeth anghyflawn! O’n i eisiau gofyn cyn bwrw ymlaen gyda fe. Annhebyg bydd gyda fi amser/egni/termau i wneud y cwbl lot ond dw i’n bwriadu cyfieithu’r pethau ar y… Parhau i ddarllen BuddyPress – unrhyw wedi gwneud cyfieithiad Cymraeg?
Datblygu radio personol, osgoi'r Archers a mwy
Dyma cofnod blog difyr am ddefnydd o Raspberry Pi a chod agored i hacio meddalwedd/caledwedd radio personol at eu gilydd. Maent yn datblygu botwn i osgoi’r Archers ond mae modd gwneud newidiadau i’r prototeip. Felly os oes elfen fach o BBC Radio Cymru sydd ddim at eich dant, dyma’r dyfais radio i chi. 🙂
Coleg Cenedlaethol Cymraeg a thrwydded Creative Commons
Mae hi’n braf i weld bod rhai o adnoddau Coleg Cenedlaethol Cymraeg ar gael o dan Creative Commons er mwyn hwyluso ailddefnydd, e.e. adnoddau a dogfennau gloywi iaith. http://sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk/cy/myfyrwyr/adnoddau/ Dw i ddim yn siwr pam maent wedi rhoi ‘NC’ (anfasnachol yn unig). Mae SA (share-alike – ‘rhannu tebyg’?) yn cael yr un effaith i bron… Parhau i ddarllen Coleg Cenedlaethol Cymraeg a thrwydded Creative Commons