Carwyn Jones: cwestiwn dyddiol ar Facebook

Os wyt ti’n aelod o Facebook mae Carwyn Jones eisiau bod yn ffrindiau gyda ti:
https://www.facebook.com/carwyn.jones3

Mae fe’n gofyn cwestiwn bob dydd, dyma’r cwestiwn heddiw:

Syniad da, dw i ddim yn gwybod unrhyw Prif Weinidog yn y byd sydd wedi dechrau rhywbeth mor uniongyrchol ar-lein.

Ond tybed beth fydd yn digwydd pan fydd e’n cyrraedd 5000 o ffrindiau achos dyma’r terfyn ar broffil personol. Efallai dylai fe wedi cael mwy o strategaeth gan gynnwys tudalen yn hytrach na phroffil.

Hefyd dw i’n cwestiynu’r diffyg defnydd o Gymraeg. Dyw’r tudalen yma ddim yn broffil ‘personol’ achos mae fe’n derbyn ceisiadau ffrind wrth unrhyw un. Mae rhywbeth swyddogol am y tudalen ond mae bron pob cwestiwn yn Saesneg yn unig heblaw y cwestiwn am y Gymraeg…

DIWEDDARIAD 10AM: Dw i newydd sylwi’r isod mewn sgwrs am y diffyg Cymraeg:

Cofiwch pawb taw tudalen bersonol yw hon, nid un swyddogol ar ran y Llywodraeth

3 sylw

  1. Fallai mai nid proffil swyddogol ydy o, ond falle rhyw fath o spoof. Mae yna ambell wall iaith yn yr uchod, fel “cael rhieni” ac “yn ardaloedd”, ac o glywed y boi’n siarad ar y teledu, dw i ddim yn credu byddai’n dweud hynny.

  2. Dw i’n gallu dychmygu’r penawdau nawr: Blogiwr Amlwg yn Galw’r Prif Weinidog ‘rhyw fath o spoof’.

    #ffrae

  3. Ti newydd ddadorchuddio plot gan Alwn ap Huw a minnau i ddweud pethau ‘dadleuol’ jyst er mwyn denu darllenwyr i flogiau Cymraeg. 🙁

Mae'r sylwadau wedi cau.