Angen help gyda phrawf (Aled Roberts AM, Comisiwn Etholiadol a’r ‘dim hits’)

Mae hanes gwahardd Aled Roberts o’r Cynulliad wedi cymryd tro arall wrth i dystiolaeth ddod i’r amlwg sy’n awgrymu nad oedd wedi edrych ar ganllawiau Cymraeg y Comisiwn Etholiadol wedi’r cwbl.

Heno daeth i’r amlwg fod cofnodion ar-lein y Comisiwn Etholiadol yn awgrymu nad oedd unrhyw un wedi cael mynediad i’r dudalen Gymraeg sydd wrth wraidd y ddadl yn ystod y cyfnod perthnasol.

http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/43094-aled-roberts-tro-yn-y-gynffon

Diolch i bawb am y sgwrs ar Twitter ar ôl CF99 neithiwr. (Dylai Betsan Powys ymuno!)

Cwestiwn yw, sut wnaethon nhw edrych at yr ystadegau i ffeindio’r canlyniad ‘dim hits’?

HELP!

Dw i wedi lanlwytho 2 PDF i fod yn sicr am ein theori Google Translate. Cer i PDF 1 a PDF 2. Gwnaf i gyhoeddi’r ystadegau cyn hir.

Plîs cer i PDF 1

Plîs cer i PDF 2

Rydyn ni angen ateb go iawn i’r cwestiwn uchod ond dw i eisiau profi Google Translate beth bynnag.

ESBONIAD

Nes i sylwi 2 peth neithiwr:

1. Fel arfer gofynion y Comisiwn yw ffeiliau PDF (Adobe)
(a ffurflenni yw ffeiliau DOC (Microsoft Word))
Enghraifft

2. Os ti’n edrych at y cod (View Source) maen nhw yn rhedeg Google Analytics, sy’n cynnig ystadegau ar sail sgript JavaScript. Dyw Google Analytics ddim yn rhedeg mewn PDF (neu DOC), dim ond mewn tudalennau HTML. Os ti’n dilyn dolen syth i’r PDF dylai fe osgoi unrhyw JavaScript. Ond os ti’n dilyn dolen o’r tudalen HTML i PDF efallai mae’n rhedeg y sgript.

Fel y dwedodd Dafydd neithiwr yn hytrach na Google Analytics dylen nhw edrych at y logiau ar y gweinydd i fod yn sicr. Sut yn union wnaethon nhw edrych at yr ystadegau?

10 sylw

  1. Mae fy ffrind hyfryd newydd ymweld y dau gyda chyfrifiadur arall. Does dim byd ar yr ystadegau Google Translate…

  2. Wedi cesio ymweld, ond tydy fy mhorowr gwaith ddim yn hoffi PDF’s felly falle ni ddangosir fi oherwydd hynny.

    Mae sylw pwysig ar Golwg360.com gan y Com Ethol hefyd:

    Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol ar y rhaglen nad oedd eu hystadegau nhw yn awgrymu “nad oes yr un person wedi edrych ar y ddogfen. Mae’n bosib bod rhywun wedi edrych arno a fod hynny ddim wedi cofrestru.”

  3. Mae yna lawer iawn o esboniadau am pan nad oes ceisiadau a dwi ddim yn meddwl mai JavaScript neu Google Analytics yw’r ateb, am fod y Comisiwn yn dweud fod 173 cais ar gyfer y ddogfen saesneg (sydd i’w weld yn uchel iawn i fi). Mae Vaughan Roderick yn dweud efallai fod awdurdodau lleol yn debygol o blocio JavaScript ond dyw hynny ddim yn arferol chwaith. Mae cyfrifiaduron ar rwydwaith awdurdod lleol neu lyfrgelloedd yn fwy tebygol o ddefnyddio ‘whitelist’ o wefannau i’w caniatau tra’n gwrthod y lleill.

    Mae llawer yn dibynnu yn union ar pa dudalen yr aeth Aled iddo. Os aeth e i dudalen HTML ar wefan y Comisiwn ac yna clicio’r PDF mi fyddai o leia un cais wedi gofnodi yn Google Analytics (os nad oedd problem yn llwytho sgript Analytics am unrhyw reswm). Os oedd e wedi dilyn dolen i’r PDF yn uniongyrchol, dim ond yn log y gweinydd fase hynny wedi cofnodi.

    (Os oes yna logs wrth gwrs, mi fasech chi’n synnu cyn lleied mae rhai gweinyddwr systemau yn talu sylw i osod a archifo logs yn gywir, er mai dyma y wybodaeth fwya trylwyr a dibynnadwy sydd i gael ar unrhyw wefan).

    Mae yna bosibiliadau eraill. Er enghraifft mae gan wefan y Comisiwn weinydd ‘cache’ wedi ei osod o’i flaen (mae’n rhedeg Squid). Pwrpas hwn yw lleihau y nifer o geisiadau i’r gweinydd go iawn ac osgoi gorlwytho y gweinydd. Ydi’r comisiwn yn defnyddio logs o’r gweinydd tu ôl y llenni neu o’r cache?

    Yn ola, dyw’r Comisiwn ddim yn dweud pa gyfnod mae’r ystadegau yn cyfeirio ato (diwrnod? wythnos?) ond mae’n eitha anhebygol fod dim un cais o gwbl wedi bod i’r PDF. Heblaw am gais gan ‘berson go iawn’ mi fyddai nifer o bots wedi ymweld a’r dogfennau.

    Dwi’n cynnal gwefan sydd a llawer iawn o ddogfennau PDF ar gael i’r cyhoedd. Mae yna lawer iawn o bots gwahanol yn crafu’r dogfennau hynny bob dydd, ac yn gyfrifol am tua 0.1% o’r traffig. Mae’r ystadegau yma yn dod o’r logs a ddim yn dibynnu ar unrhyw god JS.

  4. Mae’r trafodaeth yma yn ddiddorol iawn iawn i mi, ond beth dydw i ddim yn deall yw pan nad yw Aled Roberts yn rhoi prawf o beth mae’n honi trwy ddangos ei hanes arlein ar y 24/3/11, sydd pryd mae’n dweud ei fod e wedi ymweld â gwefan Gymraeg y Comision Etholiadol? A pham nad oedd yr heddlu yn edrych ar hard drive ei gyfrifiaduron pan oedden nhw’n ymchwilio’r mater? Hyd yn oed os mae wedi cael gwared ar hanes ei ymweliadau mae’r hanes yn dal ar y hard drive, on’d yw e?

  5. Dyw’r ffaith fod technoleg yn gwneud hi’n bosib i olrhain pob math o bethau ddim yn golygu fod rhaid gwneud bob tro. Mewn achosion o drosedd difrifol lle mae unigolyn wedi niweidio rhywun arall, yn amlwg dylid defnyddio technoleg i drio fynd at y gwir, gan gofio nad yw hynny yn golygu fod rhywbeth yn 100% sicr.

    Yng nghyd-destun yr archwiliad penodol yma dwi’n anghyffyrddus gyda’r syniad yma o wneud archwiliad cyfrifiadurol fforensig yn unig er mwyn profi os oedd rhywun wedi edrych ar wefan neu beidio!

    Dychmygwch ein bod ni mewn oes cyn cyfrifiaduron a bod y Comisiwn Etholiadol wedi darparu dogfen Gymraeg a Saesneg iddo ar bapur – sut allech chi brofi ei fod wedi darllen y naill neu’r llall? Fe fasech chi’n dibynnu ar gymeriad ac enw da y diffynydd a fase dim angen meddwl am wario arian mawr ar unrhyw ddadansoddiad technegol.

    Fe dderbyniodd Aled Roberts ebost gyda’r ddolen i’r canllawiau yn Gymraeg yn gyntaf, a roedd y canllawiau hynny yn anghywir. Mae e’n dweud ei fod wedi dilyn y ddolen Gymraeg. Mae angen defnyddio ychydig o synnwyr cyffredin fan hyn gan ddibynnu ar dystiolaeth Mr Roberts (fel mae Gerard Elias yn wneud).

    Os oedd e wedi edrych ar y canllawiau saesneg cywir, fe fyddai wedi sylwi ei fod yn aelod o un o’r cyrff gwaharddedig. Os felly doedd dim rheswm o gwbl iddo barhau yn aelod o’r corff hynny – doedd dim mantais ariannol a dim mantais bersonol.

    Mae’r holl ddadleuon dros y wefan ac ati yn bethau dibwys iawn yng nghyd-destun y ‘cyhuddiad’ a’r gwleidyddion sydd yn chwarae gemau fan hyn am resymau pleidiol.

  6. Yng nghyd-destun yr archwiliad penodol yma dwi’n anghyffyrddus gyda’r syniad yma o wneud archwiliad cyfrifiadurol fforensig yn unig er mwyn profi os oedd rhywun wedi edrych ar wefan neu beidio!

    Dw i ddim yn cynnig y prawf yma fel rhywbeth fforensig. Dydyn ni ddim yn gwybod digon am y stori. Dw i yn chwilfrydig am Google Analytics fel teclyn yn gyffredinol.

  7. Ie Carl, dwi ddim yn sôn am dy arbrawf di (ond does dim angen arbrawf, mae technegau i dracio ffeiliau gyda Google Analytics yn wybyddys.. mae rhaid defnyddio ‘onclick’ neu clymu’r ddolen i ‘event tracking’ yn Analytics.. Ni’n gwneud hyn i gwsmeriaid).

    Y pwynt dwi’n gwneud yw fod pobl (yn cynnwys gwleidyddion) yn llusgo’r stori yma ymlaen drwy godi pob math o gwestiynau ynglyn a edrych ar gyfrifiadur Aled Roberts, gweinyddion eu ISP, ystadegau gwefan y Comisiwn ayyb. Camau sydd ddim yn mynd i brofi unrhywbeth 100% a ddim yn cynnig atebion ‘gwell’ na tystiolaeth yr heddlu ac adroddiad Elias.

    Er fod hynny i gyd yn gwestiwn ‘diddorol’ yn dechnegol, does dim angen mynd i’r gost a’r drafferth (ni ddim yn son am lofruddiaeth fan hyn), ond fod yr adroddiad a’r dystiolaeth sydd wedi ei gyflwyno yn ddigon da. A mae’r bleidlais wedi cymryd lle, felly dyna ddiwedd hi.

  8. Diolch am eich ymateb. Beth rwy’n cynnig yw y ffordd orau o roi diwedd ar yr achos yma trwy ddangos hanes yr ymweliadau ar gyfrifiadur Aled Roberts ei hun. Mae’n rhwydd i’w wneud ac mae’n amhosib i ymyrryd â fe felly mae’n ‘proof positive’ fel petai. Pan mae’n llusgo ymlaen fel hyn mae’n gwneud niwed i’r iaith Gymraeg achos mae’n creu criw mawr o bobl sydd yn dechrau cwyno am yr arian sy’n cael ei wario ar wefannau ayyb yn Gymraeg sy ddim yn cael eu defnyddio gan neb. Ynghlyn â Roberts rwy’n meddwl dylai Dixon a Roberts cael yr un triniaeth achos yr un trosedd etholiadol wnaethon nhw.
    Y peth technegol sydd o ddiddordeb i mi yw y ffaith bod e’n bosibl ymweld yn uniongyrchol â ffeil PDF heb adael ôl ar Google Analytics. On’d yw’r peth yma yn wendid mawr yn y raglen – oes ‘na raglen arall sydd yn datrys y broblem ac yn cyfri yn gywirach?

  9. Anne, mae’r achos wedi dod i ben am fod adroddiad Elias wedi derbyn tystiolaeth Aled Roberts a mae aelodau’r Cynulliad wedi pleidleisio i’w dderbyn.

    Fel dwi’n trio esbonio uchod, mae’n amhosib defnyddio technoleg i gael sicrwydd 100% fod Aled Roberts yn benodol wedi edrych ar y canllawiau Cymraeg. Doedd neb wedi gofyn am wneud hynny drwy’r holl ymchwiliad chwaith. Mae e yn sicr yn bosib i ‘ymyrryd’ a’r wybodaeth ar gyfrifiadur a mae e hefyd yn bosib iawn nad yw’r wybodaeth hynny ar gael bellach mewn ffordd dibynadwy. Felly does dim pwynt hyd yn oed trafod mynd lawr y llwybr hyn.

    Trafodaeth wahanol iawn yw pobl yn cwyno am gynnwys Cymraeg ar wefannau. Dwi’n amheus o’r ystadegau gan y Comisiwn beth bynnag a mae’n bosib nad ydyn nhw yn cofnodi ystadegau ar gyfer ffeiliau, dim ond tudalennau.

    Fel wnes i esbonio uchod hefyd, mae Google Analytics yn ddibynnol ar Javascript, felly yn gweithio ar dudalen HTML yn unig OS yw’r porwr yn rhedeg Javascript. Os oedd rhywun yn cysylltu i’r PDF yn uniongyrchol o ebost, yr UNIG le fase hynny yn cael ei gofnodi yw yn logs y gweinydd gwe. Ond does ddim sicrwydd 100% o hynny chwaith oherwydd y defnydd o caches gan system ar ochr y defnyddiwr AC ar ochr y wefan. Does dim ffordd ‘foolproof’ o gael ystadegau cywir o gwbl.

    Dwi’n gweithio fel gweinyddwr systemau i gwmni sy’n datblygu gwefannau, a dwi’n gweld y broblem yn aml. Mae’r cwsmer yn ffonio fyny ar ôl ceisio newid cynnwys ar ei gwefan ond ddim yn gweld y fersiwn newydd. I ddatrys y broblem mae’n bosib i ni ddilyn ceisiadau y defnyddiwr yn edrych ar y wefan tra eu bod nhw ar y ffôn (drwy edrych ar y log ‘byw’). Mae nhw’n clicio tudalen.. a does dim cofnod o hynny ar y gweinydd. Pam? Mae ganddyn nhw proxy lleol sy’n dal i ddangos copi o’r cache. Ni’n gofyn iddyn nhw wasgu Ctrl-F5 ac yn sydyn ni’n gweld eu cais nhw a mae nhw’n gweld y cynnwys cywir!

    Dyna un enghraifft allan o nifer – sut mae’n amhosib dibynnu ar y math yma o dechnoleg i roi ystdegau 100% cywir.

  10. Esboniad grêt – dylai Elias wedi cynnwys yr un fath o esboniad mewn atodiad i’r AMs. Diolch yn fawr.

Mae'r sylwadau wedi cau.