Cymru Ddigidol “yr allwedd i gyfleoedd gwerth miliynau o bunnoedd”

Mae’r Llywodraeth Cymru yn lansio strategaeth newydd heddiw.

Wrth lansio’r strategaeth dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, fod agenda Cymru Ddigidol yn hollbwysig o ran adnewyddu’r economi a’i bod yn effeithio ar bron pob math o weithgarwch yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’n adlewyrchu’r pwysigrwydd sydd gan dechnolegau digidol yn ein bywydau bellach.

“Mae angen galluogi ein dinasyddion i fod yn ddinasyddion digidol, hynny yw, gwybod sut i ddefnyddio technoleg a bod yn ddiogel ar yr un pryd. Mae’n angenrheidiol bod ein busnesau yn elwa ar dechnoleg newydd er mwyn manteisio ar farchnadoedd newydd a bod yn arloesol a thyfu. Rhaid i’n sector cyhoeddus ddiwallu anghenion ein dinasyddion a’n busnesau sy’n newid, gan ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon a thryloyw gyda llai o arian.”

Pwysleisiodd fod camau sylweddol wedi’u cymryd i ddatblygu’r economi ddigidol yng Nghymru ond bod angen cymryd llawer o gamau pellach:

* Nid yw traean o’r oedolion yng Nghymru yn defnyddio’r we;
* Mae llai na 40% o Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru yn gwerthu ar-lein;
* Mae un cyflogwr o bob chwech yng Nghymru o’r farn bod sgiliau TGCh eu gweithwyr yn anfoddhaol;
* Mae llai na chwarter y boblogaeth yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein ar hyn o bryd;
* Nid yw band-eang cyflym ar gael mewn llawer o fannau yng Nghymru.

http://wales.gov.uk/newsroom/businessandeconomy/2010/101208digitalwales/?skip=1&lang=cy

Fideo o astudiaethau
http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/digitalwales/?skip=1&lang=cy

Maen nhw yn lansio dogfen am gynhwysiant digidol hefyd ar hyn o bryd.
http://wales.gov.uk/consultations/housingcommunity/digitinclusion/?skip=1&lang=cy

3 sylw

  1. Es i i “Digital Inclusion Wales 2010” y wythnos ‘ma — roedd lot o sgwrs am y dogfen ‘ma… Mwy cwestiynau na atebion wrth gwrs ond diddorol iawn.

Mae'r sylwadau wedi cau.