Hacio’r Iaith Bach yn y pyb, Wrecsam (nos Wener!)

Dere draw i Hacio’r Iaith Bach yn y pub: The Horse and Jockey, Stryt yr Hob, Wrecsam Nos Wener 5ed mis Awst 2011 5:30PM – 8:30PM (neu hwyrach os ti eisiau) Croeso i bawb, eisteddfotwyr a phobol o Wrecsam a’r cylch, unrhyw un! Mwy o fanylion yma: http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_yn_Eisteddfod_Genedlaethol_2011#Hacio.27r_Iath_Bach_mewn_tafarn

Hacio’r Iaith Eisteddfod Genedlaethol 2001, Augmented Reality a Thrydargwrdd

Gall dim un digwyddiad Cymraeg o bwys gymryd lle bellach heb ddigwyddiad Hacio’r Iaith (mawr neu FACH)  atodol. Diolch i @nwdls, bydd un ar y Maes eleni ar y dydd Llun, ar stondin Prifysgol Aberystwyth. Dyma’r manylion ar wiki Hedyn: Hacio Iaith ar y maes Noddwyr: Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, Sefydliad… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith Eisteddfod Genedlaethol 2001, Augmented Reality a Thrydargwrdd

Help! Prosiect @heddgwynfor i gasglu digwyddiadau amgen/answyddogol #eisteddfod2011

Mae Hedd yn dweud: Dwi’n gweithio ar brosiect bach newydd i gasglu gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau amgen/answyddogol sy’n digwydd yn ystod wythnos yr eisteddfod genedlaethol mewn un man boed yn gigs, cyngherddau, dramau, lansiadau, cyfarfodydd, protestiadau ayb. Bydd rhain oll yn cael eu rhestru mewn calendr, ond dwi hefyd am gynnwys cymaint o wybodaeth… Parhau i ddarllen Help! Prosiect @heddgwynfor i gasglu digwyddiadau amgen/answyddogol #eisteddfod2011

“Dwi’n mynd o iSteddfod i iSteddfod…”

Mae Golwg360 yn adrodd bod Ambrose ac Edryd yn awyddus iawn i ddatblygu yr app iSteddfod, a bod dros 1,000 o bobol wedi ei lawrlwytho. Mae’n rhaid cyfaddef fod y ffigwr yna yn eitha syfrdanol, a llongyfarchiadau iddyn nhw am wneud cystal. Yn sicr dyna’r app Cymraeg (yn hytrach na dysgu Cymraeg) cyntaf i gyrraedd… Parhau i ddarllen “Dwi’n mynd o iSteddfod i iSteddfod…”

Ydy Media Wales yn deall y we o gwbl? Enghraifft WalesOnline

Enghraifft. http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2010/08/07/cymdeithas-concern-over-media-cuts-91466-27014833/ Ar yr un tudalen: 1. Teitl: “Cymdeithas concern over media cuts” 2. Oriel o luniau hollol random o Eisteddfod 2010 3. Erthygl Cymdeithas 4. Erthygl Merched y Wawr 5. Erthygl UCAC 6. Erthygl ailgylchu yn yr Eisteddfod! (Sefyllfa bosib: dw i eisiau rhannu’r erthygl ailgylchu gyda fy ffrindiau trwy ebost/fy mlog/Twitter. Sut?) Newidiwch… Parhau i ddarllen Ydy Media Wales yn deall y we o gwbl? Enghraifft WalesOnline

RNIB a llais synthetig Cymraeg ar gyfer pobol dall

Es i i lansiad llais synthetig am bobol dall ar y maes Dydd Mercher. Siaradodd rhywun o RNIB, yr awdur Catrin Dafydd a Leighton Andrews AC. Ac wrth gwrs, y llais synthetig! Mae fe’n defnyddiol iawn am wefannau, llyfrau ayyb. Ond dw i ddim yn gallu ffeindio unrhyw beth amdano fe arlein yn anffodus! Does… Parhau i ddarllen RNIB a llais synthetig Cymraeg ar gyfer pobol dall