Help! Prosiect @heddgwynfor i gasglu digwyddiadau amgen/answyddogol #eisteddfod2011

Mae Hedd yn dweud:

Dwi’n gweithio ar brosiect bach newydd i gasglu gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau amgen/answyddogol sy’n digwydd yn ystod wythnos yr eisteddfod genedlaethol mewn un man boed yn gigs, cyngherddau, dramau, lansiadau, cyfarfodydd, protestiadau ayb.

Bydd rhain oll yn cael eu rhestru mewn calendr, ond dwi hefyd am gynnwys cymaint o wybodaeth a phosib ar y wefan am y steddfod, a phethe mae pobl yn trefnu arlein ar gyfer yr wythnos hefyd.

Os oes gen ti syniadau am bethau i’w cynnwys, rho wybod.

Hefyd:

Y prif beth sydd angen arnaf yw rhestr o fudiadau/cyrff/unigolion sy’n trefnu stwff fel arfer yn ystod wythnos y steddfod, fel bod modd i mi gysylltu gyda nhw cgaph i holi am wybodaeth ynglyn a digwyddiadau eleni. Noder dim ond stwff answyddogol bydd yma, ond bydd dolenni amlwg at wefan y Steddfod i gael manylion am yr holl stwff swyddogol – maesB, MaesC, Pafiliwn ayb…

Gadawa sylwadau isod neu anfon ebost i hedd malwen cymdeithas dot org