Hacio’r Iaith Eisteddfod Genedlaethol 2001, Augmented Reality a Thrydargwrdd

Gall dim un digwyddiad Cymraeg o bwys gymryd lle bellach heb ddigwyddiad Hacio’r Iaith (mawr neu FACH)  atodol.

Diolch i @nwdls, bydd un ar y Maes eleni ar y dydd Llun, ar stondin Prifysgol Aberystwyth.

Dyma’r manylion ar wiki Hedyn:

Hacio Iaith ar y maes

Noddwyr: Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, Sefydliad Mercator ar gyfer Ieithoedd, Cyfryngau a Diwylliant

Pryd

Dyddiad: Dydd Llun, 1af Awst 2011

Amser: 1.30PM – 5PM

Ble

Lleoliad: Pabell Prifysgol Aberystwyth, Eisteddfod Genedlaethol 2011, Wrecsam

Rhaglen ddrafft

1.30-2.00 Helo! Paratoi cyfrifiaduron, sgwrsio, paned, bisged, ac ati…

2.00-2.30 Haclediad

  • panel yn trafod [pwnc i’w bennu] a’i recordio fel podlediad arbennig yn y gyfres Haclediad

2.45-3.15 Gorsedd y Gîcs – 6 x cyflwyniad 5 munud. Thema: “Beth sydd wedi dy gyffroi di ar y we yn y flwyddyn ddiwethaf?”

  • Gallwch chi feddwl am gyflwyniad o flaen llaw (os felly cysylltwch â fi @nwdls), neu drin o fel open mic a jest mynd amdani ar y dydd. Y bwriad ydi cael cyfle i sôn am rywbeth sydd wedi eich tanio chid ac sydd raid ei rannu gyda phawb.

3.30-5.00 Gweithdai

4 x grwp. Themâu:

  1. Blogio ymarferol;
    1. sut i ddechrau blog? pam dechrau blog? gweithdy blogio i bawb!
  2. Lleoleiddio/cyfeithu/isdeitlo;
    1. beth sydd ar y gweill? Sut mae modd gwella pethau?
  3. Ymgyrchu / democratiaeth arlein;
    1. sut allwn ni ddefnyddio’r we a chyfryngau arlein i wella ein ymgyrchoedd a democratiaeth?
  4. cynnwys creadigol arlein
    1. beth yw manteision creu cynnwys arlein? oes digon o gynnwys Cymraeg? sut mae annog mwy? Pa opsiynau ‘torfoli’ sy’n gweithio orau?

Bydd un person yn hwyluso trafodaeth pob grwp. Efallai bydd cyfle i adrodd nôl i bawb, er mae hyn yn amlach na pheidio yn troi allan braidd yn naff, ac yn job does neb eisiau ei wneud. Oes ffordd well o roi gwybod i bawb beth drafodwyd? Pennu blogiwr byw i bob grŵp efallai?

Bydd WiFi ar gael i fynychwyr. Ie, sudd intertiwbs ar y maes.

Caiff y dualen wiki ei diweddaru’n nes i’r amser mae’n siwr. Mae croso i chi olygu’r dudalen ar y wiki, neu gadael sylw o dan y cofnod yma os oes cwestiwn neu syniad gyda chi, neu gwell fyth, nodi eich presenoldeb!

CasgliadLabs yn dod ag Eisteddfodau’r gorffennol yn fyw gyda augmented reality.

Hefyd, am bach o hwyl, mae CasgliadLabs yn gofyn i fynychwyr yr Eisteddfod ddanfon llun ohonyn nhw eu hunain gyda un o gymeriadau Eisteddfodau y gorffennol atynt, drwy wyrth augmented reality.

Dyma enghraifft.(triais fewnosod delwedd Twitpic yma, ond methais)

Diweddariad: Mae Tom Pert o CasgliadLabs yn esbonio ymhellach yn y sylwadau

hefyd…

Trydargwrdd

Mae @siantir du wedi trydar am y digwyddiad yma:

[blackbirdpie url=”http://twitter.com/#!/siantirdu/status/96887303263363072″]

3 sylw

  1. Bydd 150fed pen-blwydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei ddathlu eleni yn Eisteddfod Wrecsam. Bydd realiti estynedig yn galluogi ymwelwyr â’r maes eleni i gyfarfod cymeriadau o Eisteddfodau’r gorffennol, yn cynnwys rhai o eisteddfodau Wrecsam ym 1977, 1933 a 1912.

    Mae lluniau hanesyddol; nifer ohonynt yn eiconig; wedi’u lleoli o amgylch maes yr Eisteddfod a gellir eu gweld drwy gyfrwng yr ap rhad ac am ddim Realiti Estnedig Layar ar gyfer ffonau poced iPhone, Android, ac Ovi Nokia. Bydd pwyso ar y sgrin yn cysylltu’r defnyddiwr ag adnoddau diddorol Casgliad y Werin Cymru, gwasanaeth dwyieithog ar-lein a ddatblygwyd ar y cyd gan Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

    Bydd defnyddwyr yn cael eu hannog i anfon lluniau o’u hunain yn cyfarfod y cymeriadau ac yn rhyngweithio â nhw i flog ‘Labordai’ Casgliad y Werin Cymru (www.labs.peoplescollection.co.uk). Bydd y lluniau yma yn cael eu harddangos ar sgrin yn stondin Casgliad y Werin Cymru a bydd gwobr ar gyfer y ddelwedd orau – neu’r llun mwyaf od efallai!

    Ewch i http://www.layar.com/layers/wrecsam1 i lawrlwytho’r app
    Ebostiwch eich lluniau at CasgliadLabs.5778@twitpic.com

    Am ragor o wybodaeth ebostiwch: tom.pert@rcahmw.gov.uk, 07818593114
    Dilynwch ni ar Twitter: @CasgliadLabs

  2. Diolch i bawb wnaeth ddod ac yn arbennig am eich amynedd tra roeddwn yn dangos sut i greu erthygl Wicipedia!

    Roedd yn neis cwrdd a pobl newydd (dylen ni fod wedi gosod flip-chart i bawb nodi eu henwau Twitter/URls eu blog).

    Mae Leia wedi crynhoi’r digwyddiad yn wych ar ei blog Unrhyw un arall wedi cael cyfle eto?.

Mae'r sylwadau wedi cau.