“A oes data?” “…data?!”

Am ryw reswm dwi wedi cael rhyw chwilen yn fy mhen am ddarllen barddoniaeth yn ddiweddar. Dwi rioed wedi o’r blaen, ond mae prinder amser a wedi arwain fi i ddechrau chwilota. Fy mhroblem i ydi, a dwi di cael yr un broblem gyda jazz o’r blaen, ydi bod darganfod beth dwi’n lecio chydig yn annodd. Mi allwn i holi Twitter am argymhellion, ond mae’n rhaid bod na ffyrdd gwell o wneud hynny, efallai gan ddefnyddio algorithmau.

Ond wrth feddwl am hyn, nesh i feddwl oes na’r data ar gael i wneud rhedeg unrhyw algorithm yn werth chweil? Oes data gan Gwales efallai am bryniannau? Oes data gan S4C am Clic? Oes data gan Golwg360 am ddarllenwyr? Dwi’n amau taw na yw’r ateb gan nad oes gan yr un (heblaw falle Gwales?) systemau sydd yn tracio dewisiadau defnyddwyr.

Nid yn unig byddai hyn o werth wrth feddwl am ba gynnwys sy’n gweithio, mae’n hollbwysig ar gyfer personoleiddio cynnwys. Mae data defnyddwyr yn rhan greiddiol o strategaeth Channel 4, a’r BBC trwy BBC ID.

Gan nad oes neb wedi cymryd cam i’r cyfeiriad hwn eto, beth am gynnig syniad: be am gael rhyw fath o system defnyddwyr (fel OpenID efallai) sydd yn gallu cael ei osod fel dull mewngofnodi ar draws y we Gymraeg. Byddai wedyn ffordd o gael data meintiol mawr am ddefnyddwyr, a fyddai nid yn unig yn arf marchnata grymus (faint o bobol sydd ddim yn prynu deunydd Cymraeg am nad ydyn nhw wedi ffeindio’r peth ma nhw isio?), ond yn bwysicach yn arf ar gyfer hybu diwylliant drwy ffeindio ffyrdd newydd o gael pobol at be ma nhw isio.

Be chi’n feddwl? Breuddwyd ffwl?