Wythnos Digidol Caerdydd – mis Mehefin 2013

Dw i newydd gweld tudalen newyddion ar wefan BBC am Wythnos Digidol Caerdydd: Fis nesaf, bydd cyfle i drin a thrafod dyfodol digidol y diwydiannau cyfryngau creadigol yng Nghymru yn ystod Wythnos Ddigidol Caerdydd. Caiff y digwyddiad arloesol hwn ei gynnal rhwng 24 a 27 Mehefin gan ddwyn ynghyd y talent gorau yn y sectorau… Parhau i ddarllen Wythnos Digidol Caerdydd – mis Mehefin 2013

Hwre! Grantiau newydd i hybu technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg

Mae hon yn neges bwysig iawn i unrhyw ddarllenwr neu gyfrannwr i Haciaith sydd â syniadau am sut i wella sefyllfa’r Gymraeg arlein ac yn y maes digidol. Da ni gyd yn lecio trafod a dadla am be sy ora – rwan mae cyfle i wneud rhywbeth! Ar ôl cyfnod o drafod rhwng y Llywodraeth… Parhau i ddarllen Hwre! Grantiau newydd i hybu technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg

Heriau i Windows Cymraeg yn y sector cyhoeddus a chorfforaethol

Mae Gwyn Llewelyn Williams wedi ysgrifennu darn am heriau i Microsoft Windows Cymraeg yn y sector cyhoeddus a chorfforaethol. Diolch yn fawr iawn i Gwyn. Ers blynyddoedd bellach mae Microsoft wedi bod yn darparu pecyn rhyngwyneb iaith Cymraeg ar gyfer eu system weithredu Windows – o Windows XP, i Vista, i 7 a rwan i… Parhau i ddarllen Heriau i Windows Cymraeg yn y sector cyhoeddus a chorfforaethol

Trafod gwersi côd i blant

Mae Andrew Misell yn awyddus i drefnu gwersi côd i blant. Darllena isod (dw i wedi copio ei e-bost gyda chaniatâd). Allai unrhyw un helpu? Gadawa sylwadau isod neu gysyllta yn uniongyrchol gyda Andrew. Dwi wedi cael fy sbarduno i ymysgwyd o ‘nifaterwch am fod y mab wedi cael gwahoddiad i gwpl o gyfarfodydd Young… Parhau i ddarllen Trafod gwersi côd i blant

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Hargreaves yn galw am fwy o ddata agored yng Nghymru

Mae Click on Wales wedi cyhoeddi trawsgrifiad o araith gan Yr Athro Ian Hargreaves am sut i wella Cymru, yn bennaf trwy mabwysiadu agwedd ‘agored’ yng Nghymru a data agored. […] Which brings me to the main point I would like to make this evening. Given a choice between doing something in a way which… Parhau i ddarllen Hargreaves yn galw am fwy o ddata agored yng Nghymru

Cyfle i godwyr ifanc, 1-2 Mehefin 2013

Mae Young Rewired State (@youngrewired) yn trefnu digwyddiad yn Nhrefynwy ar 1-2 Mehefin i godwyr ifainc. https://youngrewiredstate.org/events/gb/2013/yrs-wales Gallai fod yn gyfle i rai hŷn gyfrannu hefyd gan eu bod yn chwilio am fentoriaid.

Hysbys: cwrs HTML/CSS i Ddechreuwyr (Caerdydd – 26 Ebrill)

CWRS NEWYDD – 26 Ebrill 2013 (Caerdydd) Angen cael gwybodaeth o HTML/CSS i’ch rhoi ar ben ffordd? Eisiau’r gallu i greu gwefannau syml? Cwrs undydd perffaith fydd yn rhoi i chi’r hyder i fynd a chreu ar gyfer y we! (cwrs drwy gyfrwng y Saesneg fydd hwn) Lleoliad: Caerdydd Manylion llawn: http://www.cyfle.co.uk/home/shortCoursesDetails/html-csscym

Firefox OS: Cyfle i’r Gymraeg ar ffonau symudol

Mae Firefox OS Mozilla wedi cael cryn dipyn o sylw yn y Mobile World Congress, Barcelona ddiwedd Chwefror. Hyd yma mae sôn bod 17 o ddarparwyr gwasanaethau yn eu cefnogi yn ogystal â 4 gwneuthurwr ffôn gan gynnwys Alcatel, LG, ZTE a Sony. Mae pethau’n edrych yn addawol felly… Bwriad Mozilla a’i bartneriaid yw i… Parhau i ddarllen Firefox OS: Cyfle i’r Gymraeg ar ffonau symudol

S4C: drama aml-blatfform PyC a gemau Cymraeg ar gonsolau

Dw i wedi sylwi ar ddau ddatganiad S4C am ddatblygiadau digidol yn ddiweddar. Yn gyntaf S4C yn sôn am y prosiect PyC: […] Mae S4C yn cyd-weithio â BBC Cymru Wales i ddangos cyfres ddrama newydd fydd yn cael ei darlledu ar wefan S4C yn unig. Mae cynhyrchwyr Pobol y Cwm, BBC Cymru Wales, yn… Parhau i ddarllen S4C: drama aml-blatfform PyC a gemau Cymraeg ar gonsolau