Firefox OS: Cyfle i’r Gymraeg ar ffonau symudol

Mae Firefox OS Mozilla wedi cael cryn dipyn o sylw yn y Mobile World Congress, Barcelona ddiwedd Chwefror. Hyd yma mae sôn bod 17 o ddarparwyr gwasanaethau yn eu cefnogi yn ogystal â 4 gwneuthurwr ffôn gan gynnwys Alcatel, LG, ZTE a Sony. Mae pethau’n edrych yn addawol felly…

Bwriad Mozilla a’i bartneriaid yw i ffonau gychwyn cael eu ryddhau yn ne America a chanol Ewrop yn ystod haf a hydref 2013 ac yna yng ngorllewin Ewrop a’r Unol Daleithiau yn 2014. Mae’r pwyslais wedi bod ar farchnadoedd sy’n datblygu ac felly lle mae angen ffonau rhad. Bydd y rhai drutach yn dod yn nes ymlaen.

Cyflwyniad fideo yn yr iaith lydan (Saesneg Americanaidd)  Firefox OS

Mae Firefox OS yn system weithredu sy’n seiliedig ar HTML5 a gyrwyr cod agored o Android. Mae hyn yn cynnig stac tenau mwy effeithlon na systemau ffonau symudol eraill. Golyga hyn fod y system yn gallu gweithio’n effeithiol ar galedwedd llai pwerus ac felly rhatach. Mae cael system sy’n seiliedig ar HTML5 hefyd yn ei gwneud yn honedig haws i ddatblygu ategion ac ychwanegion er mwyn llanw’r Marketplace a gwneud y ffonau’n fwy defnyddiol/poblogaidd.

Rhyw groes cyntefig rhwng iOS ac Android yw golwg Firefox OS ar hyn o bryd. Mae’n cynnig y traddodiadol – bysellfwrdd ffonio, cysylltiadau, calendr, rhaglenni cyfrwng, orielau lluniau a gwasanaeth darpariaeth lleol drwy wasanaethau Everything. Mae addewidion/sibrydion am system GPS ar y ffôn a’i ddatblygu ar gyfer defnyddio ar oriawr . Yn y dyfodol mwy hirdymor mae posibiliadau ar gyfer tabledi ac unrhyw beth gall redeg ar system weithredu ysgafn

Sgrin Cloi Firefox OS
Sgrin Cloi Firefox OS

Mae cyfieithiad Cymraeg llawn ar gael ar weinyddion Mozilla ac mae modd chwarae gyda’r fersiwn cyfredol ar eich cyfrifiadur Linux. Mae Mozilla yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar ieithoedd de America a chanol Ewrop. Bydd y dewis ieithoedd yn cael eu gosod gan y darparwyr ac oherwydd cynildeb y peiriant mae cario nifer o ieithoedd yn ei arafu, felly does dim bwriad gosod y 60+ o ieithoedd sydd gan Mozilla ar hyn o bryd. Does gan Mozilla ddim trefn yn ei lle ar gyfer gosod pecynnau iaith ond maen nhw’n gweithio tuag at hynny – os oes gan rywun gyfraniad tuag at hynny cysylltwch â nhw!

Dewisaidau Firefox OS Cymraeg
Dewisiadau Firefox OS Cymraeg

Does dim sicrwydd y bydd Firefox OS yn llwyddiant ac yn cael ei fabwysiadu, y disgwyl pennaf yw y bydd yn ennill llai nag 1% o’r farchnad i gychwyn. Dyw hi ddim yr argoeli’n dda fod y ffonau cyntaf yn mynd i fod yn rhai rhad ac isel eu statws. Ond mae wedi ennill cefnogaeth darparwyr a gwneuthurwyr ffonau arwyddocaol. Yr un mwyaf amlwg yw Sony sy’n gwybod sut i wneud ffonau Android o ansawdd uchel – gw. Sony Experia Z . Mae’n bosibl bod y darparwyr yn awyddus i ddianc rhag dylanwad Google ac efallai bod Mozilla yn ddigon agored a dibynadwy iddynt allu gydweithio. Mae peryglon yn hyn i Mozilla y bydd yn cael ei dynnu i mewn i erddi caeedig y darparwyr ac yn colli’r parch sydd ganddo. Ac i’r Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eraill? Dyma gyfle arall i gael presenoldeb, o bosib yn nannedd gwrthwynebiad y darparwyr lleol. Dyna pam mae’r gallu i’r defnyddiwr osod pecyn iaith yn holl bwysig.

3 sylw

  1. Fel y dwedaist, mae angen system gosod pecynnau iaith mor syml â phosib!

    Bydd y mabwysiad o’r Gymraeg yn llawer gwell os fydd yr iaith yn hawdd iawn i’w llwytho ar y ffôn.

    Mae meddalwedd rydd yn wych ond ar ôl i gyfieithwyr cyflawni’r cyfieithiad (sydd yn digon o job am system gweithredu llawn) mae her o ddosbarthiad a chyhoeddusrwydd effeithiol.

    Yn ddelfrydol byddai’r broses yn haws na phethau fel Microsoft Windows lle mae pobl gorfod

    • bod yn ymwybodol o becyn Cymraeg
    • gwybod sut i osod y pecyn
    • ffeindio’r pecyn
    • gosod y pecyn
    • … sawl gwaith ar feddalwedd gwahanol

    Sut ydyn ni’n gallu dangos yr alw i Mozilla a gwneuthurwyr ffonau? Yn ddelfrydol byddai’r Gymraeg yn opsiwn ar y ffôn o’r dechrau gydag opsiwn amlwg yn y gosodiadau a dewis iaith unwaith ti’n troi’r ffôn ymlaen am y tro cyntaf. Does dim rhaid iddyn nhw gosod pob pecyn ar gyfer pob iaith sydd ar gael, ‘na gyd sydd angen yw opsiwn clir.

    Mae Llywodraeth Cymru yn gallu chwarae rhan bwysig yma trwy ariannu’r cyfieithiad a rhoi pwysau ar gwneuthurwyr i gefnogi’r Gymraeg.

Mae'r sylwadau wedi cau.