Hwre! Grantiau newydd i hybu technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg

Mae hon yn neges bwysig iawn i unrhyw ddarllenwr neu gyfrannwr i Haciaith sydd â syniadau am sut i wella sefyllfa’r Gymraeg arlein ac yn y maes digidol. Da ni gyd yn lecio trafod a dadla am be sy ora – rwan mae cyfle i wneud rhywbeth!

Ar ôl cyfnod o drafod rhwng y Llywodraeth a nifer fawr o unigolion a grwpiau sydd yn ymwneud â’r maes technoleg a iaith dros y flwyddyn dwetha, mae  na ffrwyth i’r trafod sef cynllun grantiau newydd ar gyfer hybu technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg.

http://wales.gov.uk/topics/welshlanguage/grantswelshlanguage/tech-digital-media-grants/?lang=cy

Mae yna £150k ar gael dros 2013/14. Dyma yw’r amcanion a gweithgareddau sy’n cymwys gwneud cais am arian amdanynt:

Amcanion y cynllun grant:

  • cefnogi datblygiad meddalwedd a gwasanaethau;
  • ariannu prosiectau er mwyn cynyddu’r cynnwys Cymraeg sydd ar gael ar-lein;
  • ariannu mentrau i godi ymwybyddiaeth a hybu’r defnydd o feddalwedd, rhaglennu, gwasanaethau ar-lein, teclynnau i greu cynnwys – a chynnwys Cymraeg digidol.

Gweithgareddau cymwys
Mae’r gweithgareddau canlynol yn gymwys i’w hariannu dan y cynllun:

  • Datblygu rhaglenni meddalwedd (aps) cyfrwng Cymraeg ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau yn cynnwys ffonau symudol/ffonau clyfar, cyfrifiaduron llechen, cyfrifiaduron personol a theledu sy’n cysylltu â’r we;
  • Datblygu gwasanaethau Cymraeg ar-lein;
  • Prosiectau i gynyddu faint o gynnwys digidol yn y Gymraeg sydd ar gael ar-lein;
  • Mentrau hyfforddi a chyrsiau codio, yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc;
  • Prosiectau isadeiledd i gefnogi datblygiad rhaglennu a gwasanaethau Cymraeg ar-lein (ee, datblygu technoleg testun-llais, adnabod llais, e-gyhoeddi, cyfieithu peirianyddol a chof cyfieithu);
  • Mentrau i godi ymwybyddiaeth a hybu’r defnydd o feddalwedd, cynhyrchion isadeiledd, gwasanaethau ar-lein, teclynnau i greu cynnwys – a chynnwys Cymraeg digidol;
  • Unrhyw weithgareddau eraill fyddai’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion a gyflwynwyd yng nghynllun gweithredu Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg

Rhaid rhoi clod lle mae’n ddyledus, a diolch felly i’r gweinidog Leighton Andrews am fod mor frwdfrydig dros hyn ac am fwrw’r maen i’r wal. Clod hefyd i’r gweision sifil sydd wedi bod yr un mor frwdfrydig am y cynllun. Roedd hi’n braf teimlo (am unwaith!) bod rhoi barn ac ymgynghori am arwain at rhywbeth pendant fyddai’n arwain yn uniongyrchol o’r trafodaethau hynny.

Felly, mae yna arian yno, mae’r telerau yn eithaf agored i nifer fawr o agweddau o fewn y maes. Rhowch eich ceisiadau mewn a lledwch y gair yn eang!

Efallai nad yw £150k yn lawer iawn o ystyried cost rhai agweddau o’r hyn sydd angen ei wneud ond gyda digon o ddiddordeb a chanlyniadau da gobeieithio gall arwain at fwy. Dwi wir yn gobeithio y bydd yna ystod eang o geisiadau, yn fach a mwy, er mwyn dangos y math o syniadau sydd yna os mae ychydig gymorth ar gael.

3 sylw

  1. Cwestiwn: sut mae modd i ni fel cymuned hacio’r iaith sicrhau bod hwn yn llwyddiannus?

    Oes angen gwaith annnog a datblygu prosiectau? Oes angen creu gofod i drafod a rhannu syniadau?

    Os dydych chi ddim am wneud cais eich hunain, pwy fasech chi eisiau annog i wneud cais?

    Beth am i ni gyd gynnal hacio’r iaith bach lle rydyn ni’n byw i drafod sut mae modd annog ceisiadau?

    Ydyn ni eisiau gwneud cais i gyllido Hacio’r Iaith 2014?

  2. Dweud wrth bawb!

    Mae croeso i bobl bod yn gyfrinachol a chystadleuol hefyd dw i’n meddwl. Fel Apple.

    Ond ym mhersonol dw i’n fodlon rhannu syniadau. Fel Automattic.

    Dw i ddim yn siwr am gyllido Hacio’r Iaith 2014. Ydy cais grant yn werth yr ymdrech? Mae’r digwyddiad yn weddol rhad yn ei hanfod ac mae ambell i sefydliad yn fodlon cyfrannu ta waeth? Ond mae’n dibynnu beth mae pobl eisiau gwneud. Ydyn ni’n mynd am waliau fideo a chestyll neidio tro ‘ma neu be?

  3. Par: Hacio’r Iaith 2014 – cestyll neidio FTW! £50 o Aber Bounce – na’i dalu am hwnna. Allen ni ddim ceisio eniwe chos does dim ymgorfforiad i Hacio’r Iaith. Dwi o ddifri am y castell neidio. 2014 y thema fydd JOIO fel plentyn 5 oed.

    Ma’n andros o bwysig bod lot fawr yn trio, a bod na rhai ceisiadau sydd yn dangos efallai bod angen buddsoddiad llawer mwy na sydd ar gael mewn sdwff mwy strywthurol e.e. technoleg lleferydd.

Mae'r sylwadau wedi cau.