Fideo Recordio Llais i Common Voice Cymraeg

Mae angen llawer iawn o bobl gyfrannu eu lleisiau i Common Voice Cymraeg a dyma gyflwyniad fideo ar sut mae gwneud. Oes, mae angen *LLAWER IAWN IAWN* o ddata. 🙂   Mae croeso i chi rannu’r fideo yma gyda theulu ffrindiau a chydweithwyr. Diolch! #DefnyddiaDyLais

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Ymgyrch #DefnyddiaDyLais Common Voice Cymraeg

Mae staff mudiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn ymuno mewn her fawr dros y ‘Dolig i  gyfrannu 50 awr o leisiau at Common Voice Cymraeg, sy’n datblygu’r Gymraeg ym maes technoleg clyfar. Bydd staff ac aelodau yr Urdd, Comisiynydd y Gymraeg, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Nant Gwrtheyrn, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Mudiad Meithrin,… Parhau i ddarllen Ymgyrch #DefnyddiaDyLais Common Voice Cymraeg

Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg – Adroddiad Cynnydd 2020

Adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn cynnig golwg ar gynnydd gyda phecynnau gwaith eu Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg hyd ddiwedd 2020. Mae’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg yn deillio o strategaeth Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr (2017). Ei fwriad yw cynllunio datblygiadau technolegol fel bo’r Gymraeg yn gallu cael ei defnyddio mewn ystod eang o… Parhau i ddarllen Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg – Adroddiad Cynnydd 2020

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

WordPress 5.6 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau drwy gyfrwng blociau newydd, amrywiol a thema newydd Twenty Twenty One. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad (mae i’w weld mewn lliw, gyda lluniau drwy’r eicon WordPress ar gornel uchaf ar y… Parhau i ddarllen WordPress 5.6 Newydd

Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Mapio Cymru – Ymgolli mewn Map o Gymru (20 Tach, 6:30pm)

Hoffech chi ddysgu mwy am fapio cyfrwng Cymraeg? Oes gennych enwau Cymraeg ar gyfer ffermydd, caeau, traethiau, ac adeiladau yn eich ardal sydd angen eu cofnodi? Ydych chi eisiau cyfrannu at y genhedlaeth nesaf o dechnolegau sy’n manteisio ar fapiau Cymraeg agored – o addysg i hanes i lywio i weithgareddau awyr agored? Dewch i’r… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Mapio Cymru – Ymgolli mewn Map o Gymru (20 Tach, 6:30pm)

Lle i fynd i lawrlwytho rhai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith diweddara’ ar gyfer Hacio Bach

Gyda Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Hacio Bach, dan ofal Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor ar 14 Tachwedd 2020, dyma restr o rai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith all helpu i roi syniadau ichi o haciau Cymraeg gallwch chi ddatblygu. Mae prifysgolion yng Nghymru wedi bod yn flaengar wrth ddatblygu adnoddau technoleg iaith a seilwaith ieithyddol… Parhau i ddarllen Lle i fynd i lawrlwytho rhai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith diweddara’ ar gyfer Hacio Bach

Hacio'r Iaith yn cyflwyno: Hacio Bach, gyda'r Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor

Yn amlwg does dim digwyddiadau Hacio’r Iaith yn y cnawd ar hyn o bryd, felly diolch i Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor am gynnig darparu hanner diwrnod o sgwrsio, dysgu, a chwarae ar-lein. Bydd croeso cynnes i bawb. Rydyn ni’n mynd i gynnal digwyddiad bach ar-lein – rhyw fath o Hacio Bach – ar y… Parhau i ddarllen Hacio'r Iaith yn cyflwyno: Hacio Bach, gyda'r Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor

LibreOffice 7 Newydd

Mae LibreOffice wedi ryddhau eu fersiwn diweddaraf o’r pecyn swyddfa. Dyma’r cyflwyniad i’r newidiadau: LibreOffice 7.0 yw ein fersiwn mawr diweddaraf, mae’n cynnig gwell perfformiad, gwell cydnawsedd, a llawer o nodweddion newydd i roi hwb i’ch gwaith. Technoleg flaengar a chydnawsedd Diweddarwyd OpenDocument, fformat ffeil brodorol LibreOffice i fersiwn 1.3. Mae llawer o welliannau hefyd… Parhau i ddarllen LibreOffice 7 Newydd

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Haclediad 86: Crims Hems-worth it?

 Croeso i bennod mis Mai 2020 o’r Emmy® award nominated Haclediad – sy’n panicio braidd bydd bobl actually yn gwrando tro ‘ma. Mae Bryn, Iestyn a Sioned yma gyda chi am y 2.5 (😬) awr nesa i’ch arwain trwy stwff techy fel skillz Cwmrâg Alexa, testio’r iPhone SE newydd, rhoi Chrome OS ar Macs,… Parhau i ddarllen Haclediad 86: Crims Hems-worth it?