Tagiwyd fel: mapio Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 10:11 PM ar 19 November 2020 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , mapio,   

    Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Mapio Cymru – Ymgolli mewn Map o Gymru (20 Tach, 6:30pm) 

    Hoffech chi ddysgu mwy am fapio cyfrwng Cymraeg?

    Oes gennych enwau Cymraeg ar gyfer ffermydd, caeau, traethiau, ac adeiladau yn eich ardal sydd angen eu cofnodi?

    Ydych chi eisiau cyfrannu at y genhedlaeth nesaf o dechnolegau sy’n manteisio ar fapiau Cymraeg agored – o addysg i hanes i lywio i weithgareddau awyr agored?

    Dewch i’r sesiwn ar nos Wener 20 Tachwedd 2020 am 6:30pm tan 8:00pm!

    Does dim angen unrhyw ddealltwriaeth o flaen llaw. Mae tocynnau am ddim, mae hi’n sesiwn anffurfiol, ac mae croeso cynnes i bawb.

    Mae’r ddolen Zoom isod. OND archebwch docyn os gwelwch yn dda er mwyn i ni gael argraff o niferoedd.

    https://us02web.zoom.us/j/5141361674?pwd=b2JUUHZFOWhSRU9DWHRjYUF0UWwxQT09
    ID: 514 136 1674
    Cyfrinair: mapio

    Os nad yw nos Wener yn bosibl i chi rydym yn rhedeg sesiwn arall gyda’r un cynnwys ar 29 Tachwedd 2020 3pm tan 4:30pm. Tocynnau am ddim, croeso cynnes i bawb

     
  • Carl Morris 10:45 AM ar 18 May 2020 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , mapio, QGIS   

    Sut i greu mapiau o ystadegau – fideo gan @DafyddElfryn 

    Diolch Dafydd – difyr

     
  • Carl Morris 11:55 PM ar 10 February 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , mapio   

    Mapio ac anghyfartaledd 

    Erthygl diddorol iawn am sut mae mapio anghyson yn gallu cyfrannu at anghyfartaledd:

    […] This old idea of paper maps as power brokers offers a good analogy for how we might think today about the increasingly complex maps of digital information on the physical world that exist in the “geoweb.” This is where Wikipedia pages and online restaurant reviews and geocoded tweets live, all theoretically floating atop the actual cities and neighborhoods they describe.

    “In many ways, it’s not even an analogy,” says Mark Graham, a researcher at the Oxford Internet Institute. “We actually are talking about maps of some sort, in a way. Just because they’re maybe more ephemeral, or maybe more invisibly layered over our cities, it doesn’t mean they’re any less important or any less real.”

    On these maps of digital information, a familiar trend is emerging. Some places are covered much more densely with information than others (Manhattan compared to upstate New York, Europe compared to Africa). But that information density bears no direct relationship to the density of human populations. And the gap between these two metrics provides a new way of looking at old questions of inequality. […]

    Mae sôn yn yr erthygl am sut mae ieithoedd yn ffiltro’r byd a dylanwadu ein hargraff o lefydd. Mae enghraifft o eiriau gwahanol am ‘bwyty’ yn Tel Aviv. (Gyda llaw mae dim ond 119 canlyniad ar Google Maps am y term ‘bwyty’ a lot mwy am y gair ‘restaurant’.)

    Mae gymaint o fapiau eraill: erthyglau Wicipedia, trydariadau Cymraeg gyda lleoliad, blogiau mewn llefydd gwahanol

    Dw i’n dal i feddwl am sut mae’r casgliadau yn yr erthygl yn berthnasol i ni. Dwedodd rhywun ‘tasai’r Gymraeg yn wlad ar-lein byddai hi’n wlad trydydd byd’. Byddai mwy o ddata yn ddefnyddiol i brofi’r datganiad hwn.

     
    • Rhys 10:45 AM ar 11 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Tydy’r ddolen ddim yn gweithio i mi, dyma hi eto
      http://www.theatlanticcities.com/technology/2013/02/how-internet-reinforces-inequality-real-world/4602/

      Testun difyr. Byddai cymharu sgrinlun o ganlyniadau chwilio am ‘bwyty’ a ‘restaurant’ ar GoogleMap dros dre Caernarfon neu Aber yn ddiddorol fel mae’r erthygl yn ei wneud am Tel Aviv yn Hebraeg, Saesneg ac Arabeg.

      Mae lle yma i sefydliadau (Llywodraeth Cymru a Llundauin, awdurdoau lleol, S4C ayyb) gyfrannu at isadeiladedd gwerthfawr. Byddai map Cymraeg o ddefnydd i S4C ar gyfer eu gwefan tywydd, gallai mapiau Cymraeg cywir fod o ddefnydd i awdurdod lleol/gwasanaethau brys wrth ymateb i argyfwng pan bod rhywun yn cyfeirio at enw Cymraeg lleol tra mae eu staff falle ond yn adnabod enwau diweddar wedi eu Seisnigeidido o hen chwareli, bryniau ayyb.

      Mae hefyd lle i’r unigolion wneud hyn drwy adolygiadau (adolygiad.com drwy Twitter, adolygu’n Gymraeg ar Google, sicrhau cynnwys/fersiwn Cymraeg o Wikivoyage*, rhoi enwau Cymraeg ar Open Street Map.

      O ran mapiau Wicipedia (neu Comin Wikimedia), mae cyfle yma i lawer o gydweithio i Gymreigio mapiau (gyda dim ond mymryn bach o ddealltwriaeth o Photoshop/Gimp). Byddai’r rhain yn adnodd defnyddiol ar gyfer dosbarthiadau Daearyddiaeth cyfrwng Cymraeg ac adnoddau atodol Cymraeg i Oedolion, felly falle dylai’r rhanddeiliad perthnasol gyfrannu rhywffordd?

      *Mae Wikivoyage yn brosiect newydd gan Wikimedia, y pobl tu cefn i Wicipedia. Mae fersiwn Cymraeg arfaetheg yn yr incubator ar hyn o bryd. Dyma’r unig gynnws Cymraeg hyd yma.

    • Carl Morris 5:25 PM ar 11 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Dw i wedi trwsio’r dolen – diolch.

      Un pwynt diddorol o’r erthygl ydy’r ffaith bod amrywiaeth o fapiau yn bodoli tu hwnt i fapiau gweledol… Mae unrhyw gofod cynnwys gyda chyfeiriadau i lefydd yn cyfrif fel map fel y sôn am data ‘uwchben’ dinasoedd/llefydd.

    • Rhodri ap Dyfrig 11:13 PM ar 11 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Diddorol iawn! Diolch am bostio.

      Dwi’n sôn am rhywbeth tebyg ar fy mlog am y Gymraeg ar Foursquare. Ma’n boenus bod na ddim mapiau gyda enwau llefydd Cymraeg safonol. Mae’r pwynt fwya poenus o glir ar http://blemaergymraeg.crowdmap.com sydd efo tri opsiwn o fapiau i’w defnyddio a’r un yn gallu dangos enwau Cymraeg yn iawn.

      Dyla na fod rhyw fath o fap gan Google neu Microsoft sydd yn iawn – dyla hynny fod yn flaenoriaeth ar gyfer pwysau Llywdoraeth a dweud y gwir, ond mae’r raddfa sydd angen i brosiectau gwe2.0 cydweithredol o gynhyrchu deunydd weithio’n golygu bod methiant yn digwydd yn llawer haws i ieithoedd llai.

      Mae Francois Grin wedi defnyddio’r term economeg “market failure” (papur: Economic Considerations in Language Policy (dogfen Word)) yn sôn am y pwynt yma lle nad yw ieithoedd lleiafrifol yn gallu gweithredu yn y farchnad rydd ac lle mae’n iawn i Lywodraeth weithredu er mwyn cau’r bwlch. Mae mecanweithiau cyd-gynhyrchu gwe2.0 yn gwneud i’r market failure hyn ddigwydd yn llawer cynt nag oedd cyn y we, oherwydd mae na bias mwy fyth tuag at ieithoedd mwyafrifol. Mae natur datganoledig, dosbarthiedig, ac anferthedd ‘y farchnad’ ar y we hefyd yn gwneud hi’n llawer anoddach ymateb i’r methiant marchnad gyda rhyw fath o ymyrraeth. Alli di ddim gofyn i’r Llywodraeth ymyrryd yn Foursquare? (Neu alli di? Pryd ma’n gwasanaeth yn dod yn utility cyhoeddus?).

      Oedd y dyfyniad trydydd byd na’n fwriadol bryfoclyd gen i, ond dwi’n dal i hawlio bod twf defnydd y Gymraeg arlein wedi ei atal oherwydd pob math o ffactorau – rhai’n bethau allwn ni wneud rhywbeth, mwy allan o’n rheolaeth ni. Mae’r gwaith diweddar ar hanes y we Gymraeg ond wedi cadarnhau hyn i fi. Mae gen ti’r Gymraeg sefydliadol arlein, a’r Gymraeg grassroots arlein, amrwd braidd, a bron dim yn y canol.

      Does dim continuum o’r Gymraeg arlein achos mae bron yn amhosib i dyfu unrhywbeth sylweddol o’r grassroots, er i nifer fawr o brosiecttau teilwng iawn drio.

    • Rhodri ap Dyfrig 11:27 PM ar 11 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Nesh i godi’r pwynt am enwau dwyieithog / Cymraeg gyda chymuned cefnogaeth Foursquare a chael diddordeb cychwynnol ond wrth gwrs ddaeth dim byd ohoni. Mae dal yn hollol aneglur beth yw’r broses o osod/newid/fflagio enwau a’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i ddeall cymunedau dwy, tair, pedair ieithog. Yn y bôn does dim ots, oherwydd mae scale yn golygu eu bod nhw’n hapus i weld lleiafrif yn anhapus os nad ydi o’n effeithio ar fusnes y mwyafrif. Efallai nad yw Foursquare yn bwysig, ond mae croniant yr holl wasanaethau o’r fath yn sylweddol erbyn y diwedd ac yn cael effaith seicolegol.

      Roedd ymgyrch arwyddion CYIG yn y 70au ar gyfer sicrhau statws i’r iaith yn yr amgylchedd weledol o’n cwmpas ac yn ein sefydliadau; mae’r amgylchedd weledol rwan yn llawer mwy na’r arwyddion metel, mae’r arwyddion bits yr un mor bwysig.

      Ond mae dwyn arwydd metel yn llawer haws na dwyn bits. Efallai ei fod yn metaffor sy’n addas ar gyfer brwydr yr iaith yn gyffredinol?

    • Aled 12:36 AM ar 12 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Diolch am hwn, llawer I feddwl amdano.

    • Rhodri ap Dyfrig 11:29 PM ar 12 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Un sylw pellach, chydig oddiar y pwnc! Dyma chydig o berspectif ar be mae gwledydd datblygol / trydydd byd go iawn yn gorfod delio gyda fo a’r cwestiynau o anghyfartaledd sy’n codi iddyn nhw gyda defnydd y rhyngrwyd: http://www.ethanzuckerman.com/blog/2013/02/12/who-let-all-those-ghanaians-on-the-internet-jenna-burrell-on-internet-exclusion/

      Dyw’r rhyngrwyd ddim yn rhydd, nac yn agored, i lawer iawn o bobol. Dyna pam sgen i ddim llawer o gydymdeimlad weithiau efo ymgyrchwyr i gadw ‘rhyddid’ y we. Ydi o’m yn fater o un diffyg rhyddid yn cymryd lle un arall?

    • Rhodri ap Dyfrig 5:08 PM ar 15 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Wedi darllen drwy’r erthygl yn llawn rwan ac wedi gadael sylw:

      The internet does reinforce linguistic inequality. Especially in cases where English is the language that sits side by side with another language, such as Welsh. It doesn’t matter how many new Welsh language Wikipedia articles are created, the sheer mass of English language articles and editors has the gravitational pull to make them more relevant in most cases.

      The same goes for geolocation. There is no clear policy for bilingual / diglossic societies by commercial location based services such as Yelp/Foursquare etc. If you’re not in there first, the location name will be in the dominant language, with no clear route for discussion or recourse for making the other local language visible. Linguistic inequality is constantly amplified by most web services, and the scale advantage means that starting your own service is often a nonstarter. English and other global languages always have first mover advantage and that, combined with scale, only increases their online dominance. The online invisibility of languages that co-exist with English is one of the biggest threats to their survival and continued use in the 21st century.

      With broadcasting, in Europe at least, this imbalance led to the creation of publicly funded channels to rectify the inequality. How does that kind of intervention work on the global web? Nobody has worked that one out yet…

      Da chi’n cytuno?

  • Carl Morris 6:11 PM ar 24 August 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: Bing, llefydd, , mapio, ,   

    ‘Dolgelley’? ‘Carnarvon’? BBC Map 3G 

    Sgwrs am BBC Map 3G newydd:

    #iaithrage yn dod fyny! Map 3G y BBC yn deud “DOLGELLEY”, blydi hell, be di hi, nainteen-o-scratch?! http://t.co/iXFF7mu #haciaith

    @llef

    Sioned Mills

    A “CARNARVON”?! BBC SORTIA FO ALLLAAAAAN! Cranci rwan! http://t.co/DhTD5fn #HACIAITH

    @llef

    Sioned Mills

    @ mapiau Bing, run peth a tywydd s4c. Llwyth o gachu.

    @dafyddt

    Dafydd Tomos

    Mae Microsoft yn eithaf da fel arfer gyda darpariaeth Cymraeg ar Windows, nawr gawn ni termau llefydd safonol ar Bing?

    Neu oes angen defnyddio rhywbeth amgen fel Google Maps neu OpenStreetMap yn lle? Mae’n dibynnu ar y cytundeb rhwng BBC a Microsoft sbo.

    DIWEDDARIAD 25/08/2011: Mae Dave Coplin o Microsoft wedi ateb:

    @ Wow, not sure there’s much excuse for being 53 years behind. It will be a Navteq thing as we get data from them, let me look into it

    @dcoplin

    Dave Coplin

     
    • Rhys Wynne 8:27 AM ar 25 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Mae’r map yn gwbl random, mae’n nhw’n rhoi enw Cyrmaeg a Saeseng Yr Wyddgrug/Mold, ond mond Denbigh a Ruthin., a wedyn mae’r ddau enghraifft uchod, + Port Dinorwic (Y Felinheli) – sut ar y ddaear wnaeth y rheini wneud eu ffordd ar y map!

      Ond os defnyddyddio OpenStreetMap, dylid defnyddio’r OpenStreetMap Cymraeg.

    • Carl Morris 12:55 PM ar 25 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Mae Dave Coplin o Microsoft wedi ateb – gweler cofnod

    • Llefenni 1:28 PM ar 25 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Ymddiheuriadau am y gwaeddi gwirion uchod, ond ges i chydig o sioc. Yn amlwg do’n i heb sbio digon agos o’r blaen!

    • Dafydd Tomos 2:42 PM ar 25 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Wnes i gwyno i Bing am hyn yn ddiweddar (ddim posib cael ateb ganddyn nhw chwaith). Mae’n bach o cop-out son am Navteq. Mae’r wybodaeth ddiweddar gan Navteq ( fan hyn) yn gwbl gywir felly mae MS yn cymryd rhyw hen hen gopi ganddyn nhw.

    • Dave Coplin 4:45 PM ar 25 Awst 2011 Dolen Barhaol

      I know some of you may feel the Navteq thing feels like a cop-out, and I get that they show an updated version on their site. But the truth is we get our map data from Navteq, we provide a platform for the maps, but we don’t make the map data. Regardless, I’ll get to the bottom of the problem and report back as soon as I hear. Feel free to tweet me if you have more feedback. Cheers

      Dave

    • Rhys Wynne 9:31 AM ar 26 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Mae’r wybodaeth ddiweddar gan Navteq ( fan hyn) yn gwbl gywir felly mae MS yn cymryd rhyw hen hen gopi ganddyn nhw.

      Mae Caernarfon, Dolgellau a’r Felilnheli bellach yn dangos eu ffurfiau cywir, ond tydy’r map yna rwan ddim yn dangos enwau Cymraeg pan mae gan le enw gwahanol yn y ddwy iaith. Os chwiliwch am ‘Dinbych’, ‘Yr Wyddgrug’ a ‘Treffynnon’, mae o yn mynd a chi i ‘Denbigh’, ‘Mold’ neu ‘Holywell’, ond os chwiliwch am ‘Rhuthu’ aiff o didm a chi i ‘Ruthin’. Heb chwilio am lefydd eraill.

    • Dafydd Tomos 1:06 PM ar 26 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Ydi, ond mae hynny yn wir am Google a cwmniau mapio eraill. Mae nhw’n gwybod sut i fapio yr enwau Cymraeg i Saesneg ar y cyfan ond ddim yn dangos hynny ar y map. Dwi ddim yn siwr o le mae’r wybodaeth hynny’n dod. Dwi’n amau mai rhestrau o’r awdurdodau lleol sy’n penderfynu hynny. Mae nifer o strydoedd Caerdydd yn dangos enwau dwyieithog ar Google er enghraifft ond does dim cysondeb.

  • Carl Morris 1:08 PM ar 11 March 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: Google Maps, , mapio, Tsieina   

    O.cn – mapio o Tsieina gyda thafluniad fel SimCity 

    Ysbrydoliaeth. Mae mwy nag un ffordd o wneud rhywbeth. Mapio er enghraifft. Dw i’n defnyddio Google Maps yn aml iawn. Ond mae hwn yn wahanol ac ardderchog: http://www.o.cn

    Mwy o gefndir
    http://opendotdotdot.blogspot.com/2011/03/putting-china-on-innovation-map.html

    Gawn ni weld Eryri yn yr un steil nawr plis? 🙂

     
  • Carl Morris 7:26 AM ar 1 February 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , heddlu, , , mapio   

    Mapiau heddlu DU: “troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol” yn dy ardal 

    http://www.police.uk

    Lansiad neithiwr hanner nos.

    Os oes gyda ti Cymraeg fel prif iaith yn dy osodiadau porwr, ti’n gallu gweld darnau o’r wefan yn Gymraeg. (Darnau.)

    Lawrlwytha data am dy brojectau dy hun.
    http://www.police.uk/data

    Mwy:

    BBC News
    http://www.bbc.co.uk/news/uk-12330078

    Talk About Local
    http://talkaboutlocal.org.uk/police-crime-mapping-site-goes-live/

     
  • Carl Morris 11:12 AM ar 29 January 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: data scraperwiki needlebase pipes yahoopipes, , googlerefine, manyeyes, , mapio, openheatmap, , sparql   

    Cywain, Cywiro a Chyflwyno Data gan @hywelj 

    cyflwyniad – crafu data

    https://docs.google.com/present/view?id=0AYvHF3EjRRw4ZGQ0am42YndfMTNmNXptZm1nNg&hl=en_GB

     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel