WordPress 5.6 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau drwy gyfrwng blociau newydd, amrywiol a thema newydd Twenty Twenty One.

Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth.

Dyma’r cyflwyniad (mae i’w weld mewn lliw, gyda lluniau drwy’r eicon WordPress ar gornel uchaf ar y chwith ar eich bwrdd gwaith):

Croeso i WordPress 5.6.

Mae WordPress 5.6 yn dod â ffyrdd di-ri i chi ryddhau eich syniadau a dod â nhw’n fyw. Gyda thema rhagosodedig newydd sbon fel eich cynfas, mae’n cynnal casgliad cynyddol o flociau fel eich brwsys. Paentiwch gyda geiriau. Lluniau. Sain. Neu gyfryngau cyfoethog wedi’u mewnblannu.

Mwy o hyblygrwydd cynllunio

Dewch â’ch straeon yn fyw gyda mwy o offer sy’n caniatáu i chi olygu eich cynllun gyda neu heb god. Blociau colofnau sengl, dyluniadau sy’n defnyddio lled a cholofnau cymysg, penynnau lled llawn, a fideos yn eich bloc clawr – gwnewch newidiadau bach neu ddatganiadau mawr yr un mor rhwydd!

Rhagor o batrymau bloc

Mewn themâu penodol, mae patrymau bloc wedi’u ffurfweddu yn golygu bod gosod tudalennau safonol ar eich gwefan yn beth hawdd. Dewch o hyd i bŵer patrymau i symleiddio’ch llif gwaith, neu rannu peth o’r pŵer hwnnw â’ch cleientiaid ac arbed ychydig o gliciau i chi’ch hun.

Llwythwch gapsiynau fideo yn uniongyrchol yn y golygydd bloc

Er mwyn eich helpu i ychwanegu is-deitlau neu gapsiynau at eich fideos, gallwch nawr eu llwytho o fewn eich cofnod neu dudalen. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i wneud eich fideos yn hygyrch i unrhyw un sydd angen neu sy’n well ganddyn nhw ddefnyddio is-deitlau.


Mae Twenty Twenty-One yma!

Mae Twenty Twenty One yn gynfas wag ar gyfer eich syniadau, a’r golygydd y bloc yw’r brwsh gorau. Mae wedi’i adeiladu ar gyfer y golygydd bloc ac yn llawn patrymau bloc newydd sbon, sydd ddim ond ar gael yn y themâu rhagosodedig. Rhowch gynnig ar wahanol gynlluniau mewn ychydig eiliadau, a gadewch i ddyluniad trawiadol, ond bythol y thema, wneud i’ch gwaith ddisgleirio.



Yn fwy na hynny, mae’r thema rhagosodedig hon yn rhoi hygyrchedd wrth galon eich gwefan. Mae’n cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd WordPress ac yn mynd i’r afael â sawl safon fwy arbenigol o’r Web Content Accessibility Guidelines (WCAG) 2.1 ar lefel AAA. Bydd yn eich helpu i gyrraedd y lefel uchaf o safonau hygyrchedd rhyngwladol pan fyddwch yn creu cynnwys hygyrch ac yn dewis ategion sy’n hygyrch hefyd!


Enfys o basteli meddal

Yn berffaith ar gyfer blwyddyn newydd, mae Twenty Twenty-One yn rhoi ystod o baletau lliw a ddewiswyd ymlaen llaw i chi mewn pastel, pob un ohonynt yn cwrdd â safonau AAA ar gyfer cyferbyniad. Gallwch hefyd ddewis eich lliw cefndir eich hun ar gyfer y thema, ac mae’r thema’n dewis lliwiau testun sy’n sensitif i hygyrchedd ar eich cyfer – yn awtomatig!

Angen mwy o hyblygrwydd na hynny? Gallwch hefyd ddewis eich palet lliw eich hun o’r dewisydd lliw.



Gwelliannau i bawb

Ehangu awto-ddiweddariadau

Am flynyddoedd, dim ond datblygwyr sydd wedi gallu diweddaru WordPress yn awtomatig. Ond nawr, mae gennych chi’r dewis hwnnw, yma yn eich bwrdd gwaith. Os taw hwn yw eich gwefan gyntaf, mae gennych awto-ddiweddariadau ar gael, eisoes! Uwchraddio gwefan sy’n bodoli eisoes? Dim problem! Mae popeth yr un peth ag yr oedd o’r blaen.

Templed datganiad hygyrchedd

Hyd yn oed os nad ydych chi’n arbenigwr, gallwch ddechrau i roi gwybod i bobl am ymrwymiad eich gwefan i hygyrchedd trwy glicio un botwm! Mae’r ategyn nodwedd newydd yn cynnwys copi templed i chi ei ddiweddaru a’i gyhoeddi, ac mae wedi’i ysgrifennu i gefnogi gwahanol gyd-destunau ac awdurdodaethau.

Patrymau mewnol

Os nad ydych wedi cael cyfle i chwarae gyda phatrymau bloc eto, mae’r holl themâu rhagosodedig bellach yn cynnwys ystod o batrymau bloc sy’n caniatáu i chi feistroli cynlluniau cymhleth heb fawr o ymdrech. Cyfaddaswch y patrymau at eich dant gyda’r testun, y delweddau a’r lliwiau sy’n gweddu i’ch stori neu’ch brand.


Ar gyfer Datblygwyr

Dilysiad API REST gyda Chyfrineiriau Rhaglenni

Diolch i nodwedd awdurdodi Cyfrineiriau Rhaglenni newydd yr API, gall apiau trydydd parti gysylltu â’ch gwefan yn ddi-dor ac yn ddiogel. Mae’r nodwedd REST API newydd hon yn gadael i chi weld pa apiau sy’n cysylltu â’ch gwefan a rheoli’r hyn maen nhw’n ei wneud.

Mwy o gefnogaeth PHP 8

Mae 5.6 yn rhan o’r camau cyntaf tuag at gefnogaeth WordPress Core o PHP 8. Mae nawr yn amser gwych i ddechrau cynllunio sut y gall eich cynnyrch, gwasanaethau a gwefannau WordPress gefnogi’r fersiwn PHP ddiweddaraf. I gael mwy o wybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl nesaf, darllenwch nodyn datblygwr PHP 8.

jQuery

Mae diweddariadau i jQuery yn WordPress yn digwydd ar draws tri ryddhad: 5.5, 5.6, a 5.7. Wrth i ni gyrraedd pwynt canol y broses hon, rhedwch yr ategyn prawf diweddaru i wirio’ch gwefannau am wallau i’r dyfodol.

Os byddwch chi’n dod o hyd i broblemau gyda’r ffordd y mae’ch gwefan yn edrych (ee nid yw llithrydd yn gweithio, mae botwm yn sownd – y math yna o beth), gosodwch yr ategyn jQuery Migrate.


Darllenwch y Field Guide am ragor o wybodaeth!

Edrychwch ar y fersiwn ddiweddaraf o’r WordPress Field Guide. Mae’n amlygu’r nodiadau datblygwr ar gyfer pob newid y byddwch angen bod yn ymwybodol ohonyn nhw. WordPress 5.6 Field Guide.