Cydlynydd Prosiect – Sianel 62 Fel prosiect i ddathlu 50 mlwyddiant y Gymdeithas, ac fel protest yn erbyn y diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes, byddwn yn darlledu’n wythnosol ar y we, o sianel y Gymdeithas, Sianel 62. Rydym yn chwilio am gydlynydd ar gyfer y prosiect hwn a fydd yn annog a hwyluso… Parhau i ddarllen SWYDD: cydlynydd sianel fideo arlein Gymraeg – “Sianel 62”
Awdur: Rhodri ap Dyfrig
Hacio’r Iaith 2011 a 2012: edrych nôl ac edrych mlaen
Mae trefniadau wedi dechrau symud yn eitha cyflym rwan ar gyfer y digwyddiad Hacio’r Iaith 2012 sydd rwan yn ei drydedd flwyddyn. Mae na lwyth o sdwff wedi digwydd ers y cynta, a chyn i ni fynd bendramwnagl mewn i’r un nesa (os am hynny ewch i’r Wici), efallai ei bod hi’n werth taro cip… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2011 a 2012: edrych nôl ac edrych mlaen
Fy newis ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace: Elin Rhys
Dwi’n credu bod diwrnod Ada Lovelace yn syniad gwych, a dwi di blogio am ddwy ddynes o Gymru sydd wedi bod yn ddylanwadol ym myd technoleg Cymru o’r blaen: Elen Rhys a Delyth Prys. Tro ma dwi’n mynd i sôn am Rhys arall; rhywun sydd yn ysbrydoliaeth ym myd gwyddoniaeth yn ogystal â thechnoleg. Mae… Parhau i ddarllen Fy newis ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace: Elin Rhys
Hacio’r Iaith cyntaf 2012 yn digwydd yn Aberystwyth ar y 28 Ionawr
Rydyn ni wedi penderfynu cadw at yr un lleoliad ar gyfer Hacio’r Iaith Ionawr 2012 felly sdiciwch o yn eich dyddiaduron! Y penderfyniad arall oedd y byddai mwy nag un Hacio’r Iaith yn digwydd mewn lleoliadau gwahanol, ond rydyn ni angen help i drefnu rheiny. Os da chi isio trefnu diwrnod o drafod a chreu… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith cyntaf 2012 yn digwydd yn Aberystwyth ar y 28 Ionawr
Defnyddio Foursquare i gael gwasanaeth Cymraeg
Dwi wedi biod yn trio meddwl am ddefnyddiau Cymraeg o Foursquare ac wedi cael syniad bach allai fod yn ddefnyddiol iawn os fasai digon o bobol yn gwneud rhywbeth tebyg i lefydd eraill. Mae’n bosib creu rhestrau o lefydd ar thema benodol yno (e.e. caffis gorau yn ol defnyddiwr x) ond dwi di dechrau rhestr… Parhau i ddarllen Defnyddio Foursquare i gael gwasanaeth Cymraeg
Unrhywun isio #haciaith bach yn Aberystwyth amser cinio…
Unrhywun isio #haciaith bach yn Aberystwyth amser cinio ddydd Gwener yma?
Soundcloud yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i recordio’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol
http://soundcloud.tumblr.com/post/10404326803/calling-all-lithuanian-welsh-and-norwegian Calling all Lithuanian, Welsh and Norwegian speakers! And, while we’re at it: Persian/Farsi and Hungarian speakers, too! Can YOU help us out? This week United Sounds is looking for Lithuanian, Welsh, Norwegian, Persian/Farsi, and Hungarian speakers! Sound Note #1: Welcome to the United_Sounds Project! by United_Sounds Sound Note #2: 6 Easy Steps to Recording… Parhau i ddarllen Soundcloud yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i recordio’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol
Haenau cymdeithasol Cymraeg, gêmeiddio a lleoli daearyddol
Ar ôl y synfyfyrio wnes i ddoe am Foursquare, meddalwedd lleoli daearyddol a’r Gymraeg ges i rhyw egin syniad am ffordd efallai y gallech chi gael check-ins i weithio mewn ffordd lle mae’r Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn naturiol. Ai’r unig ffordd i gael y math hyn o dechnoleg yn gynaladwy yn y Gymraeg… Parhau i ddarllen Haenau cymdeithasol Cymraeg, gêmeiddio a lleoli daearyddol
Llyfrgell Gen yn cymryd rhan mewn Hackathon casgliadau digidol
http://llgcymru.blogspot.com/2011/09/sgons-archifau-thragwyddoldeb.html Mae sut i ddod ag archif hybrid – papur a digidol – at ei gilydd yn her gadwraethol i ni yn y byd archifol. Yn fuan, byddaf i a rhai eraill o staff y Llyfrgell yn mynychu Hackathon yn Efrog, lle byddwn yn edrych ar daclo rhai o’r cwestiynau hyn gyda chydweithwyr ledled Ewrop.… Parhau i ddarllen Llyfrgell Gen yn cymryd rhan mewn Hackathon casgliadau digidol