Haenau cymdeithasol Cymraeg, gêmeiddio a lleoli daearyddol

Ar ôl y synfyfyrio wnes i ddoe am Foursquare, meddalwedd lleoli daearyddol a’r Gymraeg ges i rhyw egin syniad am ffordd efallai y gallech chi gael check-ins i weithio mewn ffordd lle mae’r Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn naturiol. Ai’r unig ffordd i gael y math hyn o dechnoleg yn gynaladwy yn y Gymraeg yw i greu system newydd lle mae’r checkins nid ar gyfer lle, neu ddigwyddiad mewn lle yn unig, ond ar gyfer unrhyw weithgaredd cymdeithasol sydd un ai yn Gymraeg neu efo nifer fawr o siaradwyr Cymraeg ynddo. Fase fo rhyw fath o gyfuniad o GetGlue a Foursquare.

Ma Bwrdd yr Iaith wedi ceisio creu rhyw fath o ymgyrch sydd yn tagio gweithgareddau Cymraeg gyda’r stwnshnod #joio, ond heb lwyddiant mawr yn fy marn i, a heb unrhyw wasanaeth wedi ei adeiladu ar ben cyfanrediad y cynnwys wedi ei labelu gyda’r tagiau yna.

Efallai nad oes angen y lleoli daearyddol o gwbl a taw checkins i ‘stwff cymdeithasol’ sy’n digwydd ar amser penodol fasa fo. Mae hyn yn digwydd eisoes ar Twitter mewn ffordd anffurfiol, a’r ochr tips/adolygiadau yn cael ei brofi gyda adolygiad.com. Byddai cael apps ac apps gwe symudol-hwylus yn gallu tyfu a ffurfioli hyn mewn ffordd fasa’n lot o hwyl dwi’n meddwl gan gyrraedd pobol newydd efallai.

Felly yn lle trio pegio Cymraeg ar haenen gymdeithasol sydd eisoes yn Saesneg ei hiaith, oni ddylen ni drio creu haenen gymdeithasol arall sydd yn Gymraeg yn unig?

Gêmeiddio’r Gymraeg ynde*! Does dim llawer o wasanaethau lle mae modd cael serendipity o ran defnyddio cynnwys, lleoliad neu weithgarwch yn y Gymraeg. Hen bryd efallai?

Be ma’r Hacwyr yn feddwl?

[ * dwi ddim wir yn hoffi’r cysyniad o ‘gamification’ yn yr ystyr ei fod yn gallu gweithio fel ffordd slei i ysgogi pobol i gyfrannu cynnwys at ddibenion cwmniau masnachol, ond pwy dwi i ddeud nad ydi elfennau gêmaidd mewn meddalwedd gymdeithasol yn gallu bod yn hwyl]

1 sylw

  1. Felly yn lle trio pegio Cymraeg ar haenen gymdeithasol sydd eisoes yn Saesneg ei hiaith, oni ddylen ni drio creu haenen gymdeithasol arall sydd yn Gymraeg yn unig?

    Dylen ni. O leiaf dylen ni trio pethau.

Mae'r sylwadau wedi cau.