Defnyddio Foursquare i gael gwasanaeth Cymraeg

Dwi wedi biod yn trio meddwl am ddefnyddiau Cymraeg o Foursquare ac wedi cael syniad bach allai fod yn ddefnyddiol iawn os fasai digon o bobol yn gwneud rhywbeth tebyg i lefydd eraill. Mae’n bosib creu rhestrau o lefydd ar thema benodol yno (e.e. caffis gorau yn ol defnyddiwr x) ond dwi di dechrau rhestr o lefydd yn Aberystwyth lle gellir cael gwasanaeth Cyrmaeg.

Gallech chi hyd yn oed roi haen arall o fanylder a nodi faint o bobol sydd yn siarad Cymraeg yno, profiad da/gwael, yn yr adran Tips am y lleoliad.

Dwi hefyd wedi agor y rhestr fel bod fy ffrindiau ar Foursquare yn gallu ychwanegu ato hefyd. Torfoli, iei!

Os ydach chi’n byw yn Aber, ar Foursquare, isio cyfrannu, a dwi ddim yn dilyn chi yna anfonwch neges.

Byddai’n rhywbeth efallai gallai Bwrdd yr Iaith ei ddefnyddio ar gyfer bathodynnau ‘iaith gwaith’ rhithiol pe bai’n sefydlu ei hun fel ffordd o nodi hyn.

2 sylw

  1. Byddai’n rhywbeth efallai gallai Bwrdd yr Iaith ei ddefnyddio ar gyfer bathodynnau ‘iaith gwaith’ rhithiol pe bai’n sefydlu ei hun fel ffordd o nodi hyn.

    Er na lwyddais ddefnydido haen ‘Layer’ Casgliad y Werin yn y Steddfod, gallai Bwrdd yr Iaith osod haen ar ‘Layer’ fel bod eu bathodyn nhw’n ymddangos o flaen siopau’r stryd wrth i chi ddal eich camra i fyny iddo? Layer yn gwethio ar sawl platfform, ond ddim yn rhoi’r gallu i drofoli fel dy awgrym Foursquare ddo.

  2. Dwi hefyd wedi bod yn gadael tips Cymraeg, a dechrau trio golygu enwau llefydd i gael yr enwau Cymraeg fel chydig o arbrawf. Gawn ni weld sut ymateb ga’i. Dyw 4sq ddim yn derbyn newidiadau yn syth, ti ddim ond yn gallu eu ‘fflagio’. Ma pwy sy’n penderfynu os ydyn nhw’n newidiadau dilys neu beidio yn hollol gudd.

    Dwi di trio newid enw, Canolfan y Celfyddydau, yr Adeilad Parry Williams ac eraill. Ma’n biti nad yw’r coleg (sydd wedi gosod y rhan fwyaf ohonyn nhw ar y campws) wedi eu gosod yn ddwyieithog yn y lle cynta.

    Enghraifft o ystyried bod Cynllun Iaith ddim yn ddilys os taw arlein mae’r ‘arwyddion’ neu dim ond esgeuluso dwyieithrwydd am bod yr amgylchedd yn uniaith Saesneg?

Mae'r sylwadau wedi cau.