Mae Menter a Busnes wedi gofyn i mi rannu’r cyfle isod. Cysylltwch yn uniongyrchol am ragor o fanylion. Mae Menter a Busnes yn chwilio am Reolwr Gweithrediadau TG ym Mangor, Llanelwy, Aberystwyth neu Gaerdydd Am ragor o fanylion am y cyfle hwn cysylltwch trwy’r manylion sydd yn yr hysbyseb ar wefan y cwmni.
Awdur: Carl Morris
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am ddylunydd gwefan
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am ddylunydd gwefan sydd yn gallu creu neu addasu thema ar gyfer gwefan Drupal. Am ragor o fanylion am y cyfle hwn cysylltwch trwy’r manylion sydd yn yr hysbys ar wefan y Gymdeithas.
Tendr WordPress: datblygu meddalwedd ar gyfer cynllun Bro360
Os ydych chi’n arbenigo mewn WordPress mae cyfle i chi geisio am dendr i ddatblygu i gwmni Golwg360 a’i brosiect newyddion lleol Bro360. Dw i eisoes wedi blogio am hyn. Ewch i GwerthiwchiGymru am ragor o fanylion am y cyfle, sydd bellach yn fyw.
Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn ar sgwrsfotiau
Sesiwn gan Maredudd Sgwrsfotiau yn gyfle i wella gwasanaeth sefyliad neu gwmni. (Defnydd mewn dysgu ieithoedd a meysydd eraill hefyd?) Teipio ar hyn o bryd, ond mae llais ar y ffordd. Rhagor am deallusrwydd artiffisial. Termau sgwrsfotiau: Gweithred Bwriad Endidau Angen mewnbynnu data sy’n cynnwys slang/bratiaith, e.e. ‘beth sydd i wotsho ar y teledu’, ‘pa… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn ar sgwrsfotiau
Ymchwil ar Facebook gan Leighton Andrews
Ydych chi wedi cyfrannu at gyfieithu Facebook i’r Gymraeg? Mae’r academydd Leighton Andrews yn gweithio ar astudiaeth o Facebook, ac wedi gofyn i mi helpu trwy basio’r cwestiynau isod ymlaen at sylw unrhyw un sydd wedi cyfrannu at gyfieithu rhyngwyneb Facebook. Anfonwch eich atebion i’r cwestiynau at AndrewsL7@cardiff.ac.uk os gwelwch yn dda. Sut ddaethoch chi’n… Parhau i ddarllen Ymchwil ar Facebook gan Leighton Andrews
Bro360: cyfle i weithio fel datblygydd ar brosiect gwefannau bro
Mae straeon am brosiect newydd Bro360 eisoes wedi bod ar Golwg360 a BBC Cymru Fyw. Dyma neges wrth gwmni Golwg am y prosiect newyddion cymunedol, a chyfle i rywun gydweithio gyda’r cwmni fel datblygydd meddalwedd. Mae Golwg Cyf yn dymuno penodoi cwmni neu gonsortiwm cymwys i greu meddalwedd fydd yn sylfaen ar gyfer cynllun Bro360.… Parhau i ddarllen Bro360: cyfle i weithio fel datblygydd ar brosiect gwefannau bro
Newid thema gwefan Hacio’r Iaith
Unrhyw farn cryf ar sut ddylai wefan Hacio’r Iaith edrych? Dw i wedi bod yn profi thema TwentyNineteen a’i gyfieithiad newydd gan Rhos Prys. Mae’r thema yn edrych fel Medium – addas iawn i erthyglau amlgyfrwng hirion. Weithiau dw i’m teimlo bod angen cael gwedd ar Hacio’r Iaith sydd DDIM yn rhy slic ac sydd… Parhau i ddarllen Newid thema gwefan Hacio’r Iaith
Meddalwedd Mastodon ar gael yn Gymraeg
Dw i wedi sôn am Mastodon o’r blaen yma, y rhwydwaith cymdeithasol fyd-eang ar feddalwedd rydd sydd yn arddel gwerthoedd datganoledig a chymunedol. Nodyn bach sydyn ydy hwn i ddweud bod meddalwedd Mastodon bellach ar gael yn Gymraeg. Mae hyn yn golygu bod modd: cynnig Cymraeg fel iaith rhyngwyneb os ydych chi am sefydlu achos/gweinydd… Parhau i ddarllen Meddalwedd Mastodon ar gael yn Gymraeg
Diwrnod Ada Lovelace 2018 ar ddydd Mawrth 9fed Hydref #ALD18
Dydd Mawrth 9fed Hydref eleni fydd Diwrnod Ada Lovelace 2018, diwrnod o flogio a thrydar er mwyn tynnu sylw at lwyddiannau menywod mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Am ba fenyw ydych chi am flogio neu drydar? Chwiliwch am ‘Diwrnod Ada Lovelace’ ar y we neu ar Twitter i weld hen eitemau er mwyn cael bach o… Parhau i ddarllen Diwrnod Ada Lovelace 2018 ar ddydd Mawrth 9fed Hydref #ALD18
Dychmygu achos[ion] Mastodon newydd
Mae potential Mastodon yn eithaf cyffrous ac dw i am asesu’r alw ymhlith bobl sy’n darllen hyn. Pe tasai achos[ion] Mastodon newydd yn cael ei sefydlu pa nodweddion a chymuned hoffech chi weld? Pe tasen ni – pwy bynnag ydyn ni… – yn breuddwydio am fath newydd o wasanaeth ffrwd eitemau (fel Twitter neu Tumblr… Parhau i ddarllen Dychmygu achos[ion] Mastodon newydd